
- Cafodd y Bwrdd fersiwn diwygiedig o’r Rhaglen Buddsoddi Cyfalaf. Câi’r papur hwnnw’n awr ei gyflwyno i’r Cyngor.
- Cafodd y Bwrdd ddrafft o ymateb Prifysgol Caerdydd i Arolwg Diamond ynghylch ffioedd ac ariannu addysg uwch yng Nghymru.
- Cafodd y Bwrdd y newyddion diweddaraf am yr amrywiol bortffolios newid a’u statws cyfredol.
Cafodd y Bwrdd yr adroddiadau rheolaidd hyn:
- Adroddiad Misol Dirprwy Is-Ganghellor Coleg y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg. Ynddo, cafwyd y newyddion diweddaraf am ymchwil, addysg, materion rhyngwladol, ymgysylltu a chyllid. Tynnodd sylw hefyd at y ffaith fod PHYSX wedi bod yn llwyddiannus wrth sicrhau dyfarnu tri Grant Cyfnerthu iddi gan yr ERC – camp ryfeddol o ystyried i bob un o’u ceisiadau fod yn llwyddiannus ac mai cyfartaledd y gyfradd lwyddo yw rhyw 10%.
- Adroddiad Misol Coleg y Gwyddorau Biofeddygol a Gwyddorau Bywyd. Nododd yr adroddiad y cynnydd ynghylch datblygu ystadau yn y Coleg. Tynnodd sylw at y ffaith hefyd fod adroddiad ARE ar gyfer ei Ysgolion wedi’i gyflwyno i’r Coleg ac y câi hwnnw’n awr ei adolygu.
- Y Newyddion Diweddaraf am y System Arloesi. Cafodd y Bwrdd y newyddion diweddaraf gan Grŵp Llywio’r System Arloesi a’r Diwrnod Cwrdd-i-Ffwrdd ynglŷn â’r system honno. Nodwyd bod yr Adran Ystadau wedi penodi Gleeds i reoli prosiect yr Astudiaeth Dichonoldeb o ddatblygiadau’r System Arloesi ar Barc Maendy.
- Yr Adroddiad Misol ar Weithgarwch Ymchwil ac Arloesi. Cafodd y Bwrdd y newyddion diweddaraf am feddalwedd Converis a fydd yn darparu rheolaeth ar ddata a gwybodaeth ymchwil. Cafwyd y newyddion diweddaraf hefyd am Vision 2020 a’r dyfarniadau a’r ceisiadau ymchwil hyd yn hyn.