Skip to main content

Y diweddaraf am Gyfarfodau

Bwrdd Gweithredol y Brifysgol, 26 Ionawr 2015

26 Ionawr 2015
  • Cyhoeddodd yr Is-Ganghellor y bydd Ms T J Rawlinson, y Cyfarwyddwr Datblygu newydd, yn ymuno â Bwrdd Gweithredol y Brifysgol pan ddaw hi i’w swydd ar 2 Chwefror. Nodwyd mai’r brif elfen yn yr ailfynegiad nesaf o’r Ffordd Ymlaen fyddai dod o hyd i ffynhonnell arall o incwm ac y bydd y Cyfarwyddwr Datblygu yn chwarae rôl hollbwysig wrth wneud hynny.
  • Nododd yr Athro Holford fod y Cyngor Ymchwil Ewropeaidd (yr ERC) wedi dyfarnu tri grant cyfnerthu, am gyfanswm o fwy na €6.5 miliwn, i’r Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth.
  • Nodwyd i’r Brifysgol lwyddo i gadw dyfarniad y Comisiwn Ewropeaidd ynghylch Rhagoriaeth mewn Ymchwil i Adnoddau Dynol.
  • Nododd yr Athro Nora de Leeuw iddi ymweld â Tsieina’n ddiweddar a chynnal cyfarfodydd â Chyngor Ysgoloriaethau Tsieina, Prifysgol Capital Medical, Prifysgol Beijing Normal, Prifysgol De Tsieina a Phrifysgol Xiamen.

Derbyniodd y Bwrdd y fersiwn newydd o’r HE Code of Governance er gwybodaeth. Nodwyd bod y Cod wedi’i ddatblygu ar ôl ymgynghori’n helaeth ag aelodau’r CUC a rhanddeiliaid addysg uwch. Mae’r Cod yn adeiladu ar y Cod Ymarfer gwreiddiol a gyhoeddwyd yn 2004, ac yn ei ddiweddaru. Fe’i cynlluniwyd i helpu cyrff llywodraethu i fodloni a rhagori ar y gofynion (cyfreithiol a rheoleiddiol) a osodir ar ddarparwyr addysg uwch yn y DU.

Cafodd y Bwrdd yr adroddiadau rheolaidd hyn

  • Adroddiad Misol Coleg y Gwyddorau Biofeddygol a Gwyddorau Bywyd. Nododd yr adroddiad fod yr ail garfan wedi cychwyn ar Raglen Datblygu Rheolwyr yr Ysgolion a bod y rhaglen wedi ysgogi adborth cadarnhaol iawn hyd yn hyn. Yn ddiweddar, aeth dirprwyaeth o’r Coleg gyda’r Is-Ganghellor i’r Dwyrain Canol gan ymweld â Bahrain, Qatar ac Oman ym mis Ionawr. Bydd y cydweithredu ag Aspetar i gyflwyno MSc mewn Ffisiotherapi Chwaraeon yn mynd rhagddo ym mis Ionawr 2016 yn sgil sicrhau cymeradwyaeth y Brifysgol iddo. Cafwyd ymweliad rhagorol â Gweinyddiaeth Iechyd Oman lle gwelwyd arddangosiad o addysg drawsgenedlaethol gyfredol. Bydd dirprwyaeth o’r Coleg yn ymweld ag Oman yn y gwanwyn i ddod o hyd i gyfleoedd i gydweithio ar ymchwil.
  • Adroddiad Misol Coleg y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg. Tynnodd yr adroddiad sylw at rai o uchafbwyntiau’r Coleg yn yr REF, gan gynnwys gosod Peirianneg Sifil ac Adeiladu yn 1af yn y sector (1af am ei effaith), gosod ARCHI yn 13eg allan o 45 o gyflwyniadau (1af am effaith) a gosod CHEMY yn 9fed yn y sector (4edd am ei heffaith, 97% 4*+3*). Nododd yr adroddiad fod yr achos busnes llawn dros gael yr Academi Meddalwedd wedi’i ystyried a’i gymeradwyo gan y Bwrdd yn ei gyfarfod ar 12 Ionawr a bod gwaith yn mynd rhagddo bellach i roi sylw i’r cwestiynau a godwyd gan aelodau’r Bwrdd. Nodwyd hefyd fod Dr Steve Bentley, ENGIN, wedi cychwyn yn swydd y Deon Rhyngwladol tra bydd yr Athro Walter Gear i ffwrdd ar flwyddyn sabothol.
  • Y Newyddion Diweddaraf am y System Arloesi. Cafwyd gwybod bod Grŵp Llywio’r System Arloesi yn dal i gyfarfod yn fisol ac iddo gyfarfod ddiwethaf ar 15 Ionawr. Trefnwyd cynnal diwrnod cwrdd-i-ffwrdd ar 29 Ionawr 2015 i drafod y themâu trawsbynciol hyn: i) sicrhau manteision i’n myfyrwyr; ii) datblygu ethos sefydliadol o blaid arloesi; a iii) meithrin perthnasoedd ar gyfer arloesi.