Skip to main content

Newyddion Aelodau’r Bwrdd

Gyrru arloesedd mewn busnesau bach a chanolig

28 Ionawr 2015

Cynhaliodd Rhwydwaith Arloesedd Prifysgol Caerdydd ddigwyddiad gorlawn ar gyfer busnesau bach a chanolig (BBaCh). Fe’i trefnwyd gyda Rhwydwaith Vision2020, llwyfan cydweithio ar gyfer sefydliadau ymchwil a chwmnïau sy’n cymryd rhan yn y rhaglen Horizon 2020 a ariennir gan yr UE. Mae Prifysgol Caerdydd yn un o sylfaenwyr Vision 2020, ynghyd â 36 o brifysgolion a sefydliadau ymchwil blaenllaw eraill yn Ewrop. Ysgrifennodd yr Athro Hywel Thomas gyntaf am y llwyfan cydweithio ym mis Rhagfyr (darllenwch fwy yma). Mae Horizon 2020 yn sicrhau bod €3 biliwn ar gael i BBaChau dros y saith mlynedd nesaf ac roedd Jasper Hemmes o’r Comisiwn Ewropeaidd – Asiantaeth Weithredol ar gyfer Mentrau Bach a Chanolig eu maint – yno i egluro sut i wneud cais am yr arian, ynghyd â Abdul Rahim, Cyfarwyddwr Vision 2020. Roedd y neges yn un syml: mae lefel y galw am gyllid yn uchel ond wedi’u datblygu’n dda, mae gan geisiadau aeddfed gyfle rhesymol o lwyddo. Cynghorodd Jasper bod angen i gwmnïau sy’n gwneud cais gael cynnyrch marchnad sy’n barod – ni allant fod yn syniadau sy’n dal i fod mewn cyfnod yn y labordai. Cynghorwyd busnesau bach a chanolig i gydweithio lle bo’n briodol â Phrifysgol Caerdydd ac aelodau eraill Vision 2020 er mwyn cynyddu eu siawns o lwyddo. Rwyf wedi bod yn ymwybodol ers amser maith o’r gwaith y mae Caerdydd yn ei wneud gyda busnesau bach a chanolig, nid leiaf am fod Adolygiad Syr Andrew Witty o Brifysgolion a Thwf (2013) wedi tynnu sylw at hynny. Dywedodd Syr Andrew fod gan Gaerdydd yr 8fed lefel uchaf o ryngweithiad busnesau bach a chanolig ymhlith holl SAU y DU (dwywaith y nifer o ryngweithiadau mewn unrhyw SAU Cymreig arall). Roedd yn galonogol gweld bod y llwyddiant hwn ac ymrwymiad i weithio gyda busnesau bach a chanolig yn parhau, a bod y gymuned fusnes lleol yn amlwg yn awyddus i fanteisio arno.