Skip to main content

Y diweddaraf am Gyfarfodau

Bwrdd Gweithredol y Brifysgol, 3 Tachwedd 2014

3 Tachwedd 2014
  • Cafodd y Bwrdd bapur ar Gynllunio Canlyniadau’r REF. Nodwyd mai ar 16 Rhagfyr 2014 y ceir canlyniadau sefydliadau yn yr REF, a’r data cymharol, a thrwy ddefnyddio offer gwybodaeth busnes bydd yr Adran Gynllunio yn rheoli’r set ddata gyfyngedig a fydd yn fodd i ganiatáu meincnodi yn erbyn cyfartaledd pob Uned Asesu ac i lunio dadansoddiad fesul chwartel o bob Uned Asesu a’r Brifysgol, a hynny er mwyn i’r Ysgolion a’r Colegau allu cael gafael ar y data hynny cyn gynted â phosibl. Nodwyd hefyd y câi’r canlyniadau eu cyhoeddi wedi hanner nos ar 18 Rhagfyr 2014 yn y Times Higher ac ar wefan yr HEFCE , ac y bydd gwe-dudalennau canlyniadau Caerdydd yn yr REF i’w gweld bryd hynny.

Cafodd y Bwrdd yr adroddiadau rheolaidd hyn:

  • Adroddiad Misol y Prif Swyddog Gweithredu
  • Dasfwrdd Portffolio Newidiadau’r Brifysgol – Hydref 2014
  • Y newyddion diweddaraf am y Prosiect Ystadau
  • Y newyddion diweddaraf gan Goleg y Celfyddydau, y Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol, Hydref 2014
  • Dogfen Cynllunio at y Dyfodol, Tachwedd-Rhagfyr 2014