Skip to main content

Y diweddaraf am Gyfarfodau

Bwrdd Gweithredol y Brifysgol, 8 Medi 2014

8 Medi 2014
  • Astudiodd y Bwrdd ganlyniadau’r Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr (yr NSS) ar gyfer 2014. Yng nghategori ‘bodlonrwydd cyffredinol’ yr NSS cafodd Caerdydd sgôr, ar gyfartaledd, o 89%, sef yr un canlyniad â’r flwyddyn cynt. Nodwyd i CPLAN gael 100%. Yn y categori ‘asesu ac adborth’, yr oedd y cyfartaledd wedi codi 3% i 69%, y naill a’r llall beth ffordd o hyd o gyrraedd targedau Y Ffordd Ymlaen. Gweler http://www.caerdydd.ac.uk/news/articles/satisfied-students-13400.html.
  • Yn y crynhoad o newyddion, clywodd y Bwrdd fod y rhaglen newydd, Ieithoedd i Bawb, y cynlluniwyd iddi annog myfyrwyr i ddysgu iaith dramor, eisoes wedi cael 1,400 o fynegiadau o ddiddordeb. Gweinyddir y rhaglen drwy’r ysgol newydd, yr Ysgol Ieithoedd Modern.
  • Astudiodd y Bwrdd is-strategaethau Y Ffordd Ymlaen ar eu newydd wedd. Bellach, cytunwyd arnynt ac fe’u cyhoeddir ar-lein cyn hir.
  • Cyflwynwyd y drafft o Gynllun Gweithredu 2014/15 i’r Bwrdd. Mae’r fformat newydd yn nodi’n glir amcanion strategol lefel-uchel y Brifysgol ar gyfer y flwyddyn academaidd sydd i ddod. Fe aiff y cynllun i’r Pwyllgor Polisi ac Adnoddau ar 16 Medi ac i’r Cyngor ar 1 Hydref. Ar ôl iddo fynd i’r Cyngor fe drefnir iddo fod ar gael i’r holl staff ei weld os dymunant. Os hoffech chi weld copi ohono, cysylltwch â Mairwen Harris yn swyddfa’r Is-Ganghellor.
  • Cyflwynwyd i’r Bwrdd Flaengynllun yr Achosion Busnes. Ynddo, rhestrir yr Achosion Busnes y bydd gofyn i amrywiol grwpiau llywodraethu’r Brifysgol eu cymeradwyo. Sefydlodd y papur amserlen i’r Bwrdd ystyried a chraffu ar y cynllun cyn iddo gyflwyno’i argymhellion i’r Pwyllgor Polisi ac Adnoddau a’r Cyngor. Cymeradwyodd y Bwrdd y ffordd newydd o weithredu gan deimlo’i bod yn cynyddu eglurder y broses o wneud penderfyniadau.
  • Bu i’r Cynllun Absenoldeb Ymchwil y cytunwyd arno gan y Bwrdd yn ystod 2013/14 ddyrannu £600,000 ar gyfer sefydlu cynllun a ariannir yn ganolog, sef Cynllun y Cymrodoriaethau Absenoldeb Ymchwil. Y nod oedd ariannu rhyw 40 o ddyfarniadau o £15,000 yr un a defnyddio’r cyllid i dalu cost cael staff addysgu o safon uchel i gymryd lle’r cymrodyr. Cafwyd 54 o geisiadau a 40 o ymgeiswyr llwyddiannus. Cytunwyd i barhau’r cynllun yn 2014/15. Gan i gynllun 2013/14 gael ei weithredu’n hwyr yn y flwyddyn academaidd, bydd y cynllun – sy’n parhau – yn weithredol o 2015/16 ymlaen. Caiff y cynllun ei lansio ym mis Hydref 2014 a bydd y panel yn gwneud ei benderfyniadau ym mis Rhagfyr 2014.

Cafodd y Bwrdd yr adroddiad rheolaidd hwn:

  • Grid Blaengyllunio Medi-Hydref