Skip to main content

Newyddion Aelodau’r Bwrdd

Diweddariad am weithredu diwydiannol

25 Mai 2023
Claire Morgan

Darllenwch neges gan Claire Morgan, Rhag Is-Ganghellor, Addysg a Phrofiad y Myfyrwyr a anfonwyd at fyfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig a addysgir ar 25 Mai.

Helo fyfyriwr

Byddwch yn ymwybodol ar ôl negeseuon diweddar bod boicot marcio ac asesu gan aelodau Undeb y Prifysgolion a’r Colegau (UCU) wedi cychwyn ar 20 Ebrill.

Mae anghydfod cenedlaethol yn parhau sy’n effeithio ar 150 o brifysgolion. Yn ogystal â’r boicot hwn, mae mwy o streicio wedi’i gynllunio yn ddiweddarach.

Nid ydym yn gwybod pa ysgolion neu raglenni fydd yn cael eu heffeithio – nid yw pob aelod o staff yn cymryd rhan ac felly efallai na fydd rhai ohonoch yn cael eich effeithio o gwbl. Bydd llawer ohonoch yn derbyn eich canlyniadau ar amser ac (os yn eich blwyddyn olaf), yn graddio fel y cynlluniwyd.

Fodd bynnag, mae’n ddrwg gennym y gallai rhai ohonoch wynebu rhywfaint o darfu (e.e. oedi cyn derbyn rhai marciau). Er ei bod yn anodd rhagweld sut olwg fydd ar hyn, rydym yn parhau i wneud popeth o fewn ein gallu i leihau’r effaith y bydd yn ei chael arnoch chi, gan weithio gyda Byrddau Arholi a sicrhau bod pob gradd yn cael ei dyfarnu tra’n cynnal safonau academaidd.

Yn y cyfamser, dylech barhau i ymgysylltu â’ch dysgu a’ch addysgu – a chwblhau eich holl asesiadau.

Os ydych ar fin graddio eleni, dylech fod yn gwneud cynlluniau i wneud hynny o hyd, a dylech fod wedi derbyn eich gwahoddiadau ebost yn barod (nid yw ein seremonïau graddio yn cadarnhau dyfarnu graddau, felly ni fyddant yn cael eu heffeithio).

Mae’n ddrwg iawn gennyf eich bod yn gorfod profi’r ansicrwydd hwn. Sut bynnag mae’r streic hon yn effeithio arnoch chi, mae cymorth ar gael bob amser.

Cadwch lygad am ddiweddariadau gan eich ysgol gyda rhagor o fanylion. Byddaf hefyd yn ysgrifennu atoch eto pan fyddwn yn gwybod mwy.

Dymuniadau gorau

Claire