Skip to main content

Newyddion Aelodau’r Bwrdd

Dathlu ein myfyrwyr arobryn, cymorth adeg yr arholiadau a chymorth costau byw

15 Mai 2023
Claire Morgan

Darllenwch neges gan Claire Morgan, Rhag Is-Ganghellor, Addysg a Phrofiad y Myfyrwyr a anfonwyd at fyfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig a addysgir ar 15 Mai.

Annwyl fyfyriwr,

Dathlu ein myfyrwyr arobryn

Roeddwn wrth fy modd yn mynd i Wobrau Cyfoethogi Bywyd Myfyrwyr ddydd Iau diweddaf. Mae’r gwobrau’n dathlu gwaith rhagorol staff a myfyrwyr ar draws y Brifysgol ac yn cydnabod y rhai sy’n cyfrannu mor gadarnhaol at eich profiad fel myfyriwr. Diolch i bawb a gymerodd ran yn y digwyddiad a llongyfarchiadau i’r holl enwebeion a’r enillwyr.

Cynhaliwyd 13eg Gwobrau Menter a Dechrau Busnes blynyddol yn sbarc|spark yr wythnos diwethaf hefyd. Derbyniodd myfyrwyr a chyn-fyfyrwyr wobrau ariannol gwerth cyfanswm o £17,500 i egino eu syniadau entrepreneuraidd – llongyfarchiadau i bawb a gymerodd ran.

Seremoinïau Graddio 2023

Mae paratoadau ar y gweill ar gyfer seremonïau graddio eleni, a fydd yn dod â’n holl fyfyrwyr sy’n graddio a’u gwesteion ynghyd dros gyfnod o wythnos. Mae graddio yn achlysur pwysig lle rydym yn dathlu llwyddiannau anhygoel ein graddedigion ochr yn ochr â staff y Brifysgol, cymrodyr er anrhydedd, pobl bwysig iawn (VIPs) a gwesteion.

I’r rhai ohonoch a fydd yn graddio ym mis Gorffennaf, dylech fod wedi cael eich gwahoddiad i drefnu popeth sydd ei angen arnoch ar gyfer eich diwrnod graddio. Os nad ydych wedi derbyn hwn, neu os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â Chyswllt Myfyrwyr (myfyrwyr israddedig) neu’r Gofrestrfa (myfyrwyr ôl-raddedig).

Cymorth adeg yr arholiadau

Yn ogystal â bod yn ddechrau cyfnod arholiadau ac asesu’r haf, Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl yw’r wythnos hon.

Gwn y gall y cyfnod hwn fod yn gyfnod pryderus i lawer ohonoch, ac rwyf am roi sicrwydd i chi fod cymorth ar gael os bydd ei angen arnoch: gofalwch am eich iechyd meddwl a siarad â naill ai eich tiwtor personol neu Gyswllt Myfyrwyr os ydych yn poeni am unrhyw beth.

Mae gennym ystod o adnoddau i’ch cynorthwyo i adolygu’n effeithiol, rheoli unrhyw bryderon sydd gennych ynghylch arholiadau, dod o hyd i fan astudio tawel, rhoi hwb i’ch cymhelliant, a mwy. Gallwch hefyd gael seibiant o astudio yn ein hystafell ‘adolygu ac ymlacio’, yn ystafell 1.26 Canolfan Bywyd y Myfyrwyr rhwng 17 Mai a 2 Mehefin.

Cyswllt dibynadwy

Gallwch nawr roi gwybod i ni (drwy SIMS) os ydych am enwebu cyswllt dibynadwy. Mae hwn yn rhywun rydych yn ymddiried ynddo, ac y byddwn yn cysylltu ag ef os oes gennym bryderon difrifol am eich iechyd neu les (rhiant, gwarcheidwad, partner neu aelod agos o’r teulu fel arfer). Er nad oes rhaid i chi ddweud wrthym pwy yw eich cyswllt dibynadwy, argymhellaf yn gryf eich bod yn gwneud hynny. Gallai cael rhywun y gall y brifysgol gysylltu ag ef os oes unrhyw broblemau gyda’ch iechyd neu’ch lles sy’n gwybod am eich hanes meddygol a chymdeithasol, yn ogystal â’ch profiad bywyd, fod yn hollbwysig. Gallwch chi ddiweddaru eich cyswllt dibynadwy trwy SIMS yn ôl yr angen.

Cymorth gyda chostau byw

Gan gydnabod y pwysau ariannol y bydd rhai ohonoch yn eu teimlo, ar ddechrau’r flwyddyn academaidd cynyddodd Bwrdd Gweithredol y Brifysgol y cyllid sydd ar gael drwy ein Rhaglen Cymorth Ariannol i fwy nag £1 miliwn. Gallwch barhau i gael mynediad at y cyllid hwn i’ch helpu i dalu am gostau byw neu astudio hanfodol. Felly cysylltwch â’n tîm Cyngor ac Arian i Fyfyrwyr trwy Gyswllt Myfyrwyr os ydych yn cael trafferthion ariannol. Dim ond ar SIMS y gallwch wneud cais hyd at eich dyddiad gorffen cofrestredig.

Arolwg Myfyrwyr Ôl-raddedig a Addysgir

Mae Arolwg Myfyrwyr Ôl-raddedig a Addysgir Prifysgol Caerdydd (CUPTS) yn gyfle i roi adborth am eich profiad prifysgol fel myfyriwr ôl-raddedig a addysgir, a’n helpu i nodi agweddau i’w gwella. Dim ond 5 i 10 munud y mae’n ei gymryd i’w gwblhau, ac os ydych yn fyfyriwr ôl-raddedig a addysgir ac nad ydych wedi cyflwyno’ch barn drwy’r CUPTS, byddwn yn eich annog i wneud hynny cyn iddo gau ar 28 Mai.

Yn olaf, dymunaf y gorau i chi ar gyfer eich astudiaethau a’ch arholiadau y semester hwn. Gobeithio bod eich misoedd olaf yn y flwyddyn academaidd hon yn gynhyrchiol.

Dymuniadau gorau,

Claire Morgan
Rhag Is-Ganghellor Addysg a Phrofiad y Myfyrwyr