Skip to main content

Newyddion Aelodau’r Bwrdd

Y diweddaraf am weithredu diwydiannol

30 Ionawr 2023
Claire Morgan

Darllenwch neges gan Claire Morgan, Rhag Is-Ganghellor, Addysg a Phrofiad y Myfyrwyr a anfonwyd at fyfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig a addysgir ar 30 Ionawr.

Annwyl fyfyriwr,

Gallech fod eisoes yn ymwybodol bod Undeb y Prifysgolion a’r Colegau wedi cadarnhau y bydd 18 diwrnod o weithredu diwydiannol dros y misoedd nesaf. Rwy’n cydnabod y gallai’r newyddion hyn beri pryder i chi, ac y bydd hyn yn arbennig o anodd i’r myfyrwyr hynny sydd eisoes wedi gorfod wynebu aflonyddwch o ganlyniad y pandemig COVID-19.

Gan ein bod bellach yn gwybod ar ba ddiwrnodau y cynhelir y streic, rydyn yn canolbwyntio ar wneud yn siŵr eu bod yn cael cyn lleied o effaith â phosibl ar eich addysg a’ch profiad. Yn yr un modd ag achosion o weithredu diwydiannol yn y gorffennol, ni fyddwn yn gwybod pwy fydd yn gweithredu tan ddiwrnod y streic. O’r herwydd, byddaf i a’ch ysgol yn parhau i ysgrifennu atoch yn rheolaidd yn ystod y cyfnod hwn.

Yn y cyfamser, mae’r adran am weithredu diwydiannol ar fewnrwyd y myfyrwyr yn cynnwys gwybodaeth am:

  • beth yw gweithredu diwydiannol?
  • sut gallwch gael gafael ar gyngor a chymorth
  • sut allai effeithio ar eich addysgu a’ch dysgu
  • canllawiau ar sut i wneud cwyn

Os bydd angen cymorth a chymorth arnoch chi, cysylltwch â’r gwasanaeth Cyswllt Myfyrwyr. Fel arall, dewch i’n gweld yng Nghanolfan Bywyd y Myfyrwyr. Mae gennym dimau arbenigol sy’n gallu helpu.

Cofion gorau

Claire Morgan
Rhag Is-Ganghellor Addysg a Phrofiad Myfyrwyr