Skip to main content

Newyddion Aelodau’r Bwrdd

Cyfle i gwrdd â Rashi Jain

2 Tachwedd 2022
A black and white photograph of Rashi Jain

Yn ddiweddar, bu Rashi Jain, Cwnsler Cyffredinol ac Ysgrifennydd y Brifysgol, yn cymryd rhan yn ein cyfres fewnol sy’n cydnabod merched o liw, aruthrol, yn y brifysgol.

Soniwch wrthon ni am eich swydd bresennol yn y Brifysgol

Rashi Jain ydw i (née Chopra) ac rwy’n gyn-fyfyrwraig falch. Cyfreithiwr sy’n ymarfer ydw i yn ogystal â bod yn Gwnsler Cyffredinol ac yn Ysgrifennydd y Brifysgol. Rwy’n gyfrifol am ddarparu gwasanaethau cyfreithiol yn y Brifysgol yn ogystal â chynghori ar y defnydd priodol o bwerau’r Corff Llywodraethol o dan y Siarter Frenhinol a’r ddeddfwriaeth.

Rwy’n aelod o rwydwaith Menywod Hŷn o Liw sy’n hyrwyddo rhagor o gynrychiolaeth o du menywod Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol ym myd addysg uwch y DU.

Pa ddarn o wybodaeth am eich diwylliant neu draddodiad yr hoffech chi ei rannu gyda chydweithwyr?

Un o fy hoff draddodiadau Indiaidd yw Rakhi sy’n digwydd ym mis Awst bob blwyddyn ac sy’n nodi’r cwlwm arbennig rhwng brodyr a chwiorydd. Mae’r chwaer yn clymu edau am arddwrn ei brawd i nodi’r cwlwm teuluol na ellir ei dorri a bydd y brawd yn rhoi anrheg i’w chwaer i ddiolch iddi am bob un o’i bendithion. Ar ôl colli fy mrawd ym 1998 rwy wedi trosglwyddo’r traddodiad i fy mhlant sy’n rhannu hyn â’u cefndryd hefyd.

Pam mae hyn yn bwysig ichi?

Mae’n draddodiad sy’n twymo’r galon gan ei fod yn ein dysgu bod gan bob un ohonon ni rôl i’w chwarae yn y teulu a bod hyn yn rhywbeth y dylen ni ei ddathlu a’i feithrin.

Pam rydych chi’n meddwl bod cael diwylliant cynhwysol yn hanfodol yn y gweithle?

Mae diwylliant cynhwysol yn hanfodol mewn gweithle proffesiynol sy’n gwerthfawrogi trafodaethau rhesymegol ac ymdrechion academaidd megis Prifysgol Caerdydd. Mae’n ddyletswydd arnon ni sy’n aelodau o’r gymuned addysgu a dysgu i herio’r status quo a chynyddu’r gynrychiolaeth o bob rhan o’r gymdeithas.