Y flwyddyn academaidd newydd, newidiadau TG hanfodol, diweddariad i ap y myfyrwyr a chyrsiau iaith rhad ac am ddim
21 Medi 2022Darllenwch neges gan Claire Morgan, Rhag Is-Ganghellor, Addysg a Phrofiad y Myfyrwyr a anfonwyd at fyfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig a addysgir ar 21 Medi.
Annwyl fyfyriwr,
Gobeithio eich bod wedi mwynhau gwyliau hamddenol dros yr haf.
Mae’r flwyddyn academaidd newydd ar ein gwarthaf a gan fod rhai ohonoch chi eisoes ar y campws, ac eraill ar fin cyrraedd, hoffwn i estyn croeso cynnes i bob un ohonoch chi, gan ddymuno’r gorau ichi ar gyfer y flwyddyn i ddod.
A minnau’n Rhag Is-Ganghellor dros Addysg a Phrofiad Myfyrwyr, bydda i mewn cysylltiad â chi drwy gydol y flwyddyn i roi’r wybodaeth ddiweddaraf ichi am bynciau pwysig sy’n effeithio ar eich bywyd academaidd a bywyd myfyrwyr yn gyffredinol.
Paratoi ar gyfer newidiadau TG pwysig
Byddwch chi eisoes yn gwybod pa mor bwysig yw hi i gadw eich hun a’ch data yn ddiogel ar-lein, ac er mwyn helpu i gadw eich cyfrif prifysgol yn ddiogel bydd ein systemau TG yn newid.
O 26 Medi ymlaen, dim ond os ydych chi wedi gosod dilysu aml-ffactor (MFA) y byddwch chi’n gallu defnyddio rhai systemau TG yn y Brifysgol. Os bydd angen unrhyw help arnoch chi o ran gwneud hyn, cysylltwch â’n tîm TG.
Nodweddion newydd yn yr Ap Fyfyrwyr
Cyflwynwyd Ap Myfyrwyr y llynedd i’ch helpu i ddod o hyd i wybodaeth ddefnyddiol am y brifysgol a’ch cwrs, gwybod ble y dylech chi fod, cynllunio’ch diwrnod a derbyn hysbysiadau perthnasol.
Yn sgîl eich adborth, rydyn ni wedi bod yn gweithio’n galed i ddiweddaru’r ap, sydd bellach yn eich galluogi i gofrestru ar gyfer eich apwyntiadau gyda thîm Bywyd Myfyrwyr yng Nghanolfan Bywyd y Myfyrwyr a Thŷ Aberteifi. Os nad oes gennych chi’r ap eisoes, byddwn ni’n eich annog i’w lawrlwytho cyn gynted â phosibl. Os ydych chi’n gwybod ym mha ffordd y gall yr ap fod hyd yn oed yn fwy defnyddiol, dilynwch y ddolen ‘rhoi adborth’ ar hafan yr ap.
Gwnewch gais i astudio cwrs iaith yn rhad ac am ddim
Os ydych chi’n awyddus i ddysgu iaith newydd neu ddatblygu eich arbenigedd mewn iaith rydych chi wrthi’n ei dysgu, mae ein rhaglen Ieithoedd i Bawb yn rhoi’r cyfle ichi wella eich sgiliau ieithyddol ochr yn ochr â’ch astudiaethau. Ar hyn o bryd, cynigir cyrsiau mewn naw iaith a gallwch chi ddysgu mewn ffordd sy’n addas ichi, drwy gael dosbarthiadau wythnosol, sesiynau dwys neu ddysgu annibynnol. Cofrestrwch ar gyfer cwrs yn rhad ac am ddim cyn 23 Medi.
Ein hymrwymiad cymunedol
Rwy’n siŵr y byddech chi i gyd yn cytuno ei bod yn bwysig iawn ein bod ni i gyd yn trin ein gilydd â pharch a chwrteisi, gan gadw ein campws felly yn ddiogel i bawb. Mae ein hymrwymiad cymunedol yn gofyn ichi gadw hyn mewn cof yn ystod eich amser yma, gan sicrhau bod ein campws yn groesawgar, yn gynhwysol ac yn ddiogel i bob un o’n myfyrwyr a’n staff.
Bydda i’n anfon fy ebost nesaf ddechrau mis Hydref, ond yn y cyfamser cadwch lygad am Newyddion Myfyrwyr a diweddariadau eraill, ac os oes gennych chi gwestiynau cysylltwch â Chyswllt Myfyrwyr.
Dymuniadau gorau,
Claire Morgan
Rhag Is-Ganghellor Addysg a Phrofiad Myfyrwyr
- Mehefin 2024
- Mai 2024
- Ebrill 2024
- Chwefror 2024
- Ionawr 2024
- Rhagfyr 2023
- Tachwedd 2023
- Hydref 2023
- Medi 2023
- Awst 2023
- Gorffennaf 2023
- Mehefin 2023
- Mai 2023
- Ebrill 2023
- Mawrth 2023
- Chwefror 2023
- Ionawr 2023
- Rhagfyr 2022
- Tachwedd 2022
- Hydref 2022
- Medi 2022
- Awst 2022
- Gorffennaf 2022
- Mehefin 2022
- Mai 2022
- Ebrill 2022
- Mawrth 2022
- Chwefror 2022
- Ionawr 2022
- Rhagfyr 2021
- Tachwedd 2021
- Hydref 2021
- Medi 2021
- Awst 2021
- Gorffennaf 2021
- Mehefin 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Chwefror 2020
- Ionawr 2020
- Rhagfyr 2019
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Medi 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018
- Ebrill 2018
- Mawrth 2018
- Chwefror 2018
- Ionawr 2018
- Rhagfyr 2017
- Tachwedd 2017
- Hydref 2017
- Medi 2017
- Awst 2017
- Gorffennaf 2017
- Mehefin 2017
- Mai 2017
- Ebrill 2017
- Mawrth 2017
- Chwefror 2017
- Ionawr 2017
- Rhagfyr 2016
- Tachwedd 2016
- Hydref 2016
- Medi 2016
- Awst 2016
- Gorffennaf 2016
- Mehefin 2016
- Mai 2016
- Ebrill 2016
- Mawrth 2016
- Chwefror 2016
- Ionawr 2016
- Rhagfyr 2015
- Tachwedd 2015
- Hydref 2015
- Medi 2015
- Awst 2015
- Gorffennaf 2015
- Mehefin 2015
- Mai 2015
- Ebrill 2015
- Mawrth 2015
- Chwefror 2015
- Ionawr 2015
- Rhagfyr 2014
- Tachwedd 2014
- Hydref 2014
- Medi 2014