Skip to main content

Newyddion yr Is-Ganghellor

Seremonïau Graddio 2022

31 Awst 2022

Annwyl gydweithiwr,

Fis diwethaf, pan ysgrifennais atoch yn ystod wythnos y Seremonïau Graddio, dywedais y byddwn yn ysgrifennu unwaith eto i ddweud gair ynghylch sut aeth ein rhaglen hynod uchelgeisiol o ddigwyddiadau. Er nad oedd popeth wedi mynd yn gwbl esmwyth — yn ystod yr ail fore roedd gan Ede & Ravenscroft gryn nifer o broblemau o ran darparu’r gwisgoedd graddio mewn pryd ar gyfer digwyddiadau dathlu’r Ysgolion — aeth y digwyddiadau yn yr Ysgolion yn ogystal â’r tri digwyddiad gyda’r nos yn Stadiwm Principality yn esmwyth iawn ac ymddengys eu bod wedi cael derbyniad da iawn. Yn sicr, wrth imi gymryd rhan yn yr orymdaith ymhlith y miloedd o fyfyrwyr a oedd wedi ymgynnull ar hyd y ffordd i’r llwyfan yn y Stadiwm ac wrth ddychwelyd oddi yno, roedd yn gwbl amlwg eu bod yn fodlon dros ben ac yn mwynhau’r digwyddiad yn fawr. Wrth reswm, dyna oedd y tro cyntaf i’r Brifysgol gynnal seremonïau ar gyfer tair carfan raddio yn olynol fel hyn, ac nid oeddem erioed wedi cynnal digwyddiadau yn yr Ysgolion o’r blaen. Bu holl staff a myfyrwyr Prifysgol Caerdydd a gymerodd ran yn gweithio’n galed iawn i sicrhau bod y graddedigion yn cael diwrnod i’r brenin. Cafodd hyd yn oed seremonïau ychwanegol eu trefnu, a hynny heb unrhyw rybudd bron iawn, gan olygu nad amharwyd yn ormodol ar y rheini yr effeithiwyd arnynt oherwydd yr oedi yn ystod yr ail ddiwrnod. Heb os, hon oedd yr enghraifft odidocaf o waith tîm ar raddfa fawr imi ddod ar ei thraws erioed, ac rwy’n hynod falch o bawb a chwaraeodd ran. Roedd cynifer o bobl ynghlwm wrth drefnu’r seremonïau imi gael fy nghynghori – ac rwyf yn cytuno yn hynny o beth – y byddai’n well peidio ag enwi unigolion. Fodd bynnag, hoffwn i bawb yn y Brifysgol a thu hwnt gydnabod gymaint o gamp fu trefnu’r seremonïau, yn ogystal â’r ymrwymiad a’r ymroddiad diymwad sydd gennym tuag at ein myfyrwyr a’n graddedigion. Hoffwn ddiolch yn fawr iawn i bawb a gymerodd ran. Gwn fod ein Canghellor, y Farwnes Jenny Randerson, a Chadeirydd y Cyngor, Pat Younge, o’r un farn.

I roi syniad o faint o waith oedd o dan sylw, dyma ychydig o ffeithiau a ffigurau ichi. Yn ystod y tridiau, daeth 56,000 o fyfyrwyr a’u gwesteion i’r seremonïau, ac fe wirfoddolodd dros 300 o staff o bob rhan o’r sefydliad i gefnogi’r gwaith o gynnal y digwyddiad yn y Stadiwm yn ogystal â’r digwyddiadau dathlu yn yr Ysgolion. Bu llawer o bobl yn gweithio y tu hwnt i’w cyfrifoldebau arferol gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i’r canlynol: staff yn yr Adran Cyfathrebu a Marchnata, Datblygu a Chysylltiadau â Chynfyfyrwyr, y Gofrestrfa, Gwasanaethau’r Campysau, Gwasanaethau TG, Gwasanaethau Cymorth yn ogystal â’r gwaith a wnaed ym mhob Ysgol academaidd. Mae’n rhaid rhoi clod i’r rheini yng Ngrŵp Llywio a Grwpiau Gorchwyl y Seremonïau Graddio a fu ynghlwm wrth y gwaith trefnu yn gyffredinol.

Yn Stadiwm Principality, cymerodd dros 100 o academyddion a staff yn y gwasanaethau proffesiynol ran yn yr orymdaith gan fynd drwy dwnnel ‘  y chwaraewyr. Ar un noson gofiadwy cawsant y cyfle i dynnu hunlun yng nghwmni Warren Gatland, a oedd yn digwydd bod yn un o’r 24 o westeion arbennig a oedd yno i dderbyn Cymrodoriaeth er Anrhydedd, a hynny yn ei hen weithle, yn ogystal â dau arall a oedd yn derbyn Gradd er Anrhydedd. Ar ben hynny, roedd llawer o gyffro gan fod Cerys Matthews a Huw Edwards yno hefyd. Rhoddodd Huw, sydd eisoes yn Gymrawd, araith ragorol yn Gymraeg a Saesneg, ac yn wir cafodd pawb a oedd yn derbyn cymrodoriaeth neu radd er Anrhydedd groeso hynod o frwd. Rhoddodd Laura Trevelyan, un o gynfyfyrwyr Prifysgol Caerdydd a phrif gyflwynydd BBC America, yn ogystal a Julia Gillard, cyn-Brif Weinidog Awstralia, areithiau ysbrydoledig a grymus a oedd wedi dal sylw’r miloedd o raddedigion y Brifysgol a oedd yn y stadiwm. Gwnaed gwyrthiau anhygoel o ran y gwaith trefnu yn y digwyddiadau gyda’r nos. Er mwyn gwneud hyn, roedd angen y canlynol: offer llwyfan a rigin a oedd yn llenwi 13 lori, chwe darn o beiriannau trwm yr oedd un ohonynt yn gallu ymestyn 40m i gyrraedd to’r stadiwm, pyrotechneg gwirioneddol ysblennydd, 300 o oleuadau LED deallus a symudol yn ogystal â 1577 o oriau staff cynhyrchu er mwyn cynnal y digwyddiadau.

Unwaith eto, mae’n rhaid imi ddiolch o waelod calon, ar ran y Brifysgol gyfan, i’r holl staff yn yr Ysgolion academaidd a gytunodd i gynnal digwyddiadau dathlu unwaith ei bod yn amlwg bod ein graddedigion yn ogystal â’r sawl a oedd ar fin derbyn gradd eisiau’r cyfle hwnnw. At ei gilydd, fe wnaethom gynnal cyfanswm o 231 o ddigwyddiadau dathlu yn yr ysgolion, a hynny mewn 23 o leoliadau gwahanol ledled y campws, yn ogystal â 10 digwyddiad ychwanegol ar y funud olaf i ddiwallu anghenion y rheini yr oedd yr oedi ynghlwm wrth y gwisgoedd graddio wedi effeithio arnyn nhw. Yn yr holl ddigwyddiadau hynny, fe aeth staff ymroddedig yr ail filltir i flaenoriaethu ein myfyrwyr.

Bydd unrhyw un a oedd yno yn cofio’r awyrgylch hyfryd, prysur a gorlawn ar y campws yn y Pentref Graddio a’r Gerddi Graddio a godwyd yn arbennig ar gyfer yr achlysur. Yn wir, ers hynny rwyf wedi cwrdd â phobl a aeth i’r digwyddiadau hynny ac sydd wedi dweud wrthyf y bydd ganddynt atgofion hyfryd gydol oes o’r diwrnod. Bob dydd, bu 84 aelod o’n staff lletygarwch yn gweithio i weini 54,345 gwydraid o siampên. Os cofiwch, cawsom dywydd poeth iawn ac felly bu’n rhaid danfon 8 tunnell o fefus yn uniongyrchol o’r fferm i geginau Prifysgol Caerdydd gan fod yn rhaid casglu’r mefus yn ystod y nos pan oedd hi’n oerach i’r casglwyr. Roedd hyn, yn ei dro, yn golygu bod yn rhaid i’n tîm rhagorol yn y gegin fod ar y safle i dderbyn y mefus am 2am cyn mynd ati i olchi, paratoi a rhoi 44,560 dogn o fefus mewn potiau a blychau er mwyn i’n gwesteion eu mwynhau’n awchus. I gefnogi #plasticfreeJuly, ymrwymodd Gwasanaethau Arlwyo Prifysgol Caerdydd i gynnal digwyddiad heb ddarnau plastig untro. Nid oedd Gwasanaethau Arlwyo Prifysgol Caerdydd na’u masnachwyr wedi defnyddio’r un deunydd plastig untro ar y safle. Mae hyn yn dangos ymrwymiad go iawn i’n gwerthoedd yn ogystal â ffordd glodwiw a chyfrifol o drin yr amgylchedd. Yn ogystal â’n staff arlwyo ein hunain, roedd chwech o fasnachwyr bwyd o Gymru ar y safle yn yr ŵyl Bwyd a Diod. Rhoddwyd gwybod inni eu bod wedi gweini mwy o gwsmeriaid na’r un ŵyl arall iddyn nhw gymryd rhan ynddi ers y cyfnod cyn Covid. Wrth reswm, mae’r seremonïau graddio’n adeg pan fydd cryn waith camera ar waith, ac er mai pum cadair gynfas enfawr oedd y cefndir mwyaf poblogaidd i dynnu lluniau, ymhlith rhai eraill roedd drychau, waliau byw, stondinau aur graddio a fideos 360 gradd. Defnyddiwyd gennym 1925 metr o faneri bach ynghyd â 100 o benynau a 144 o blanhigion ar gyfer y lleoliadau yn yr Ysgolion. Bu wyth band lleol yn perfformio, yn canu ac yn dawnsio am 30 awr, gan ganu dros 400 o ganeuon yn ystod y tridiau.

Rwy’n gobeithio bod hyn oll yn cyfleu ichi rywfaint o naws y dathliadau dyddiol a gafwyd, ond roedd cyrraedd y nod hwnnw yn golygu cryn ymdrech a gwaith ar y cyd hefyd. Aeth staff yn adran y Neuaddau Preswyl a Chynadledda ati i sicrhau bod y llety a’r lleoliadau ar gael i’n gwesteion, ac ni fyddem wedi gallu dod i ben â’r cyfan heb gyfraniad y staff domestig a chynnal a chadw, o ystyried cynifer y bobl a oedd yn defnyddio cyfleusterau’r Brifysgol bryd hynny. Yn yr adrannau Datblygu a Chysylltiadau â Chynfyfyrwyr, Cyfathrebu â Myfyrwyr a’r Gofrestrfa, anfonwyd 305,895 o ebyst at fyfyrwyr a chynfyfyrwyr yn ystod y cyfnod cyn y Seremonïau Graddio gan roi gwybod am y digwyddiadau swyddogol. Cynhyrchwyd 28,500 o bamffledi Graddio a 16,000 o fapiau’n dangos lleoliadau’r Seremonïau Graddio, a dosbarthwyd 20,000 o fathodynnau pin. Ac, wrth gwrs, bu masgot y Brifysgol, Dylan y Ddraig, yn cyfarch pobl ar hyd a lled y campws.

Os nad oedd yn bosibl ichi fod yn bresennol yn y digwyddiadau, gallwch chi weld popeth yma. Hefyd, mae’r ffilm sy’n dangos y Seremonïau Graddio a gynhaliwyd bob nos yn Stadiwm Principality ar YouTube ac mae’n werth ei gwylio, gan ei bod yn dangos cameos gan ein cynfyfyrwyr, ein myfyrwyr a’n staff.

Yn anaml y byddaf yn neilltuo ebost cyfan i ymdrin ag un pwnc, ond rwy’n gobeithio y byddwch yn cytuno bod hwn yn achos arbennig. Er bod y ffordd yn un anwastad ar adegau, roedd ein cynllun yn un eithriadol o uchelgeisiol ac yn y diwedd llwyddasom i ddwyn y maen i’r wal. Llongyfarchiadau, Tîm Caerdydd!

Dymuniadau gorau

Colin Riordan
Is-Ganghellor