Newyddion yr Is-Ganghellor

Cofio’r Frenhines, gwleidyddiaeth y DU a chostau byw, model Caerdydd a safleoedd prifysgolion

Annwyl gydweithiwr,

Fel y gwyddoch, roedd mis Medi’n llawn digwyddiadau y tu hwnt i’r Brifysgol oedd o bwys hanesyddol. Taflodd marwolaeth y Frenhines gysgod llwyr dros y broses o drosglwyddo grym o Boris Johnson i Liz Truss. Rhan ffurfiol y broses oedd y ddyletswydd swyddogol olaf i’r Frenhines ymgymryd â hi fwy neu lai. Prin y cafodd y Prif Weinidog newydd gyfle i gyhoeddi’r cap o £2500 ar brisiau ynni cyn i bob cyhoeddiad a gweithgarwch llywodraethol a gwleidyddol cyhoeddus gael ei atal.cyn i bob cyhoeddiad a gweithgarwch llywodraethol a gwleidyddol cyhoeddus gael ei atal. Unwaith i’r cyfnod swyddogol o alaru ddod i ben gyda busnes y llywodraeth yn gallu dechrau unwaith eto, creodd yr argyfwng costau byw, diwygiadau cyllidol y llywodraeth newydd, ac yn ddramatig, y rhyfel yn Wcráin ymdeimlad pwerus o newid hanesyddol, ansefydlogrwydd a risg. Er bod y rhain i gyd y tu allan i’r Brifysgol, maent yn effeithio’n uniongyrchol ac yn anuniongyrchol arnom mewn ffyrdd gwahanol, a dyna wyf i am drafod yng ngohebiaeth y mis hwn.

Does fawr ddim y gallaf i ei ychwanegu at y geiriau di-ri a ysgrifennwyd ac a lefarwyd yn sgil marwolaeth y Frenhines ac yn ystod y cyfnod o alaru, ar wahân i ddweud fy mod wedi cynnig cydymdeimlad dwys ar ran y Brifysgol ac y bûm i yn y gwasanaeth coffa yn Eglwys Gadeiriol Llandaf ar y dydd Gwener cyn yr angladd. Rwy’n ymwybodol y gall ymatebion amrywio, ond fy argraff i oedd y cafwyd cydbwysedd synhwyrol yn ystod y digwyddiadau hyn. Yn bersonol, mae gennyf atgofion dymunol iawn o ymweliad y Frenhines â Chaerdydd yn 2016 pan agorodd Ganolfan Ymchwil Delweddu’r Ymennydd newydd Prifysgol Caerdydd, yng nghwmni’r Tywysog Philip, ac rwyf i’n falch ein bod wedi gallu ei chroesawu i’r Brifysgol ar y diwrnod hwnnw. Rwy’n gobeithio y gallwn edrych ymlaen at groesawu’r Brenin ar achlysuron tebyg yn y dyfodol.

Un o sgil-effeithiau’r cyfnod o alaru oedd na chafwyd unrhyw gyhoeddiadau gan lywodraeth newydd y DU a bod busnes seneddol arferol wedi’i atal dros dro, felly roedd hi bron yn ddiwedd y mis cyn i’r Canghellor newydd, Kwasi Kwarteng, ddatgelu’r hyn a elwir y digwyddiad cyllidol mwyaf ers cenhedlaeth gyda’r teitl camarweiniol ‘mini-gyllideb’. Cafodd ‘Cynllun Twf’ y Canghellor ymateb cymysg, o frwdfrydedd cadarnhaol i bron anghrediniaeth negyddol, ond mae’n deg dweud ei fod ar y cyfan yn wrthwynebus. Daeth yr ymateb negyddol pwysicaf o du’r marchnadoedd ariannol rhyngwladol, sydd wedi arwain at gynnydd sylweddol yng nghost benthyca’r llywodraeth gyda sgil-effeithiau ar gyfradd sylfaenol Banc Lloegr a chwyddiant yn fwy cyffredinol. Roedd diffyg hyder buddsoddwyr rhyngwladol yng ngallu llywodraeth y DU i fantoli’r cyfrifon cenedlaethol dros amser yn boenus o amlwg. Mae gan y stori honno ffordd bell i fynd, ond mae posibilrwydd real y bydd cynnydd sydyn mewn cyfraddau morgais yn gwneud mwy na gwrthbwyso unrhyw arbedion yn sgil toriadau treth mewn llawer o aelwydydd. Disgwylir cyhoeddiadau cyllidol pellach cyn y Nadolig yn ôl y sôn, ond yn y cyfamser prin yw’r briwsion o gysur yn nhermau costau byw.

Ar y mater hwnnw, rydym ni’n cwblhau cyfres o fesurau i helpu myfyrwyr a staff dros yr wythnosau nesaf, ond mae’r mesurau rydym eisoes wedi’u cymryd yn cynnwys ymrwymo bron i £1m i gynyddu cyflogau myfyrwyr Ymchwil Ôl-raddedig yn unol â’r cynnydd o 10% a gyhoeddwyd gan UKRI i’r myfyrwyr doethurol a gyllidir ganddynt. Yn ogystal, rydym wedi gwneud cynnydd o £400,000 yn y cronfeydd caledi sydd ar gael i bob myfyriwr yng Nghaerdydd ar gais, a byddwn yn adolygu’r cronfeydd hynny yn ystod y flwyddyn, rhag ofn i’r galw godi ymhellach. Rydym ni’n ystyried y ffordd orau i gynnig cymorth i staff, a hefyd yn gweithio ar fesurau fel sicrhau bod pobl yn gallu gweithio ar y campws yn hytrach na gartref os oes angen, ac y bydd bwyd fforddiadwy ar gael yn ein mannau gwerthu. Byddwn yn rhannu manylion y rhain ynghyd â mesurau eraill unwaith y byddant wedi’u cytuno, ond rydym am eich sicrhau chi ein bod yn cydnabod yr angen i neilltuo adnoddau i helpu staff a myfyrwyr drwy’r gaeaf hwn.

Does dim cytundeb cyffredinol am yr hyn sy’n achosi’r codiadau mewn prisiau sydd i’w gweld ar draws y byd, ond er mai effaith y pandemig yw rhan o’r hyn a welwn, mae’n eithaf amlwg mai’r prif ysgogydd yw’r rhyfel yn Wcráin, y mae Rwsia’n dal i wrthod ei alw’n rhyfel er ei bod yn dechrau byddino’n rhannol. Mae strategaeth gychwynnol Putin wedi methu ac mae’n bosibl ei fod nawr yn ceisio atgyfnerthu a chyfeddiannu’r diriogaeth sydd yn dal ym meddiant Rwsia ar ôl llwyddiant dramatig gwrthymosodiad Wcráin. Nid yw Wcráin yn derbyn iddi golli ei thiriogaeth ond mae Putin yn edrych yn debygol o fynnu ei bod bellach yn rhan o Rwsia a darlunio Wcráin fel ymosodwr sy’n gorfod cael ei drechu ar bob cyfrif posibl. Mae hon yn sefyllfa hynod o beryglus ac ymfflamychol, ac mae’n rhaid i ni obeithio y bydd synnwyr yn drech yng nghanol yr holl gymhlethdod a dryswch. Yn y cyfamser mae’r wasgfa ar gyflenwadau ynni’n parhau, sy’n arwain at yr argyfwng uniongyrchol sy’n ein hwynebu. Mae ymosodiad Rwsia ar Wcráin wedi amlygu’n ddramatig yr angen i bob gwlad, ac nid lleiaf y DU, sicrhau ffynonellau ynni annibynnol sy’n ddiogel i’r hinsawdd a fydd yn ateb y galw ar gost fforddiadwy, a bydd prifysgolion, Caerdydd yn eu plith, yn chwarae rhan hanfodol wrth wynebu’r her honno. Y mesur mwyaf uniongyrchol y gallwn ei gymryd yw lleihau’r defnydd o ynni cyn belled ag y bo modd, er y gwyddom o brofiad blaenorol nad yw hynny mor hawdd ag y mae’n swnio. Er enghraifft, os ydym am ddarparu mannau cynnes i staff a myfyrwyr am gyfnodau hirach, gallai’r defnydd o ynni gynyddu. Gallwn ymdopi â’r pethau hyn yn y tymor byr ond yn y tymor canolig bydd rhaid dod o hyd i ateb cynaliadwy.

Gan droi at newyddion llawer mwy cadarnhaol, o bryd i’w gilydd dros y degawd diwethaf efallai eich bod wedi gweld sôn yn fy ebost misol am Fodel Caerdydd er Atal Trais, a ddatblygwyd yn wreiddiol gan yr Athro Jonathan Shepherd yn y 1990au ac sydd wedi’i ddatblygu ganddo ers hynny yn fodel datblygedig ac aeddfed. Mae’n ymwneud â lleihau trais drwy fesurau allweddol fel casglu, dadansoddi a gweithredu ar ddata manwl o unedau derbyn ysbytai ar faterion hollbwysig fel union leoliad trais, yr arfau a ddefnyddiwyd ac ymosodwyr. Ymhlith llawer o fesurau eraill ceir cyngor ar sut i gynllunio clybiau nos i leihau’r tebygolrwydd o wrthdaro treisgar, a sut i blismona mewn modd effeithiol ond heb wrthdaro er mwyn ei gwneud yn llai tebygol y bydd trais yn digwydd yn y lle cyntaf. Erbyn hyn mae’r Model mor helaeth ac wedi bod mor llwyddiannus fel bod cyfres o wledydd wedi’i fabwysiadu, gan gynnwys yr Unol Daleithiau, Awstralia a’r Iseldiroedd, er bod Jonathan yn nodi’n ysmala nad yw eto wedi’i gyflwyno’n llawn drwy Cymru, er iddo  gael ei arloesi a’i ymarfer yng Nghaerdydd. Y newyddion diweddaraf yw bod Sefydliad Iechyd y Byd yn argymell y dylai llywodraethau ledled y byd fabwysiadu Model Caerdydd er Atal Trais. Mae’r argymhelliad yn gymeradwyaeth bwysig tu hwnt i’r prosiect rhagorol hwn, ac mae’n iawn ein bod yn ymfalchïo yng ngwaith yr Athro Shepherd a’i gydweithwyr yn y Sefydliad Arloesedd Diogelwch, Troseddu a Chudd-wybodaeth, a’i gydweithwyr ymchwil ar draws y byd.

Yn olaf, roedd yn braf gweld bod Prifysgol Caerdydd wedi codi deg safle yn y Times and Sunday Times Good University Guide 2023, i safle 25. Mae’r ffaith ein bod wedi codi 3 lle i safle 35 yn y Guardian yn dangos bod y tablau hyn yn dibynnu ar y data a ddewisir a sut y caiff ei bwysoli, ynghyd â llu o newidynnau eraill, gyda rhai o’r rhain yn anodd eu dirnad. Serch hynny, mae’n dda gweld cydnabyddiaeth i’n llwyddiant yn y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil a’n gwelliant yn yr NSS y llynedd, ac yn enwedig cael ein henwi’n Brifysgol y Flwyddyn yng Nghymru am yr ail flwyddyn yn olynol ac am y trydydd tro ers i’r anrhydedd arbennig honno gael ei chyflwyno am y tro cyntaf lai na deng mlynedd yn ôl.

Dymuniadau gorau

Colin Riordan
Is-Ganghellor

 

Diweddarwyd cynnwys y neges hon ar 7 Hydref i egluro gwybodaeth am Warant Pris Ynni Llywodraeth y DU.