Skip to main content

Newyddion Aelodau’r Bwrdd

Diweddariad yr haf i fyfyrwyr ôl-raddedig a addysgir (1 o 2 ebost)

28 Gorffennaf 2022
Claire Morgan

Darllenwch neges gan Claire Morgan, Rhag Is-Ganghellor, Addysg a Phrofiad y Myfyrwyr a anfonwyd at ôl-raddedig a addysgir ar 28 Gorffennaf.

Annwyl fyfyriwr,

Gobeithio eich bod yn cadw’n iawn.

Gan fod yr haf yn gyfnod prysur iawn i lawer ohonoch chi, p’un a ydych chi’n astudio ar y campws neu o bell, roeddwn i eisiau dechrau’r neges hon drwy eich atgoffa bod cymorth ar-lein ac wyneb yn wyneb ar gyfer eich astudiaethau ar gael o hyd yn ystod y cyfnod hwn. Isod mae nodyn atgoffa o rai o’r gwasanaethau allweddol y gallwch chi eu defnyddio, yn ogystal â rhai darnau eraill o newyddion sy’n berthnasol i’ch astudiaethau.

Lle astudio newydd ar gyfer ôl-raddedigion

Erbyn hyn, mae lle astudio ar gyfer ôl-raddedigion ar ffurf llyfrgell ar gampws Parc Cathays (yn Adeilad Guest). Ynddo mae ystod o lefydd astudio, o ddesgiau unigol i ystafelloedd astudio ar gyfer grwpiau, gan gynnwys cyfleusterau TG a lle i eistedd a chymdeithasu. Mae microdon, sinc a thegell yno.

Yn ystod gwyliau’r haf mae’r Lle Astudio i Ôl-raddedigion yn Adeilad Guest ar agor ddydd a nos (24/7). Mynediad PAC sydd ar waith yma, felly bydd angen eich cerdyn adnabod arnoch chi i fynd i mewn. Yn ogystal, mae lleoedd astudio eraill ar gael ichi ar draws ein campws.

Lansio gwasanaeth digidol newydd: Casgliadau Arbennig Ar-lein

Casgliad unigryw o lyfrau wedi’u creu â llaw – gwaith oes yr artist Shirley Jones – yw canolbwynt gwasanaeth digidol newydd sbon a ddatblygwyd gan y Casgliadau Arbennig ac Archifau. Mae Casgliadau Digidol Arbennig yn rhad ac am ddim i’w defnyddio, ac ynddyn nhw cewch weld trysorau nad yw’r staff, y myfyrwyr na’r cyhoedd yn aml yn eu gweld.

Ar gael eisoes mae mwy na 1,700 o eitemau prin, sef lluniau wedi’u tynnu’n fanwl iawn. Mae hyn yn golygu bod casgliadau’r Brifysgol yn fwy hygyrch nag erioed o’r blaen. Mae llawer o’r eitemau’n hynod o brin, ac mae rhai eraill yn gwbl unigryw i’r brifysgol.

Dyma a ddywedodd yr Archifydd, Alison Harvey: “Bydd llyfrau Shirley fel arfer mewn casgliadau preifat, a pheth eithaf radical yw trefnu eu bod ar gael i bawb, yn rhad ac am ddim, ar-lein – oes o waith felly, a chyda sêl bendith Shirley rydyn ni’n ei rannu â phawb.”

“Rydyn ni wedi dod yn bell ers dyddiau sganiau graddlwyd y gorffennol: Lluniwyd y Casgliadau Digidol Arbennig i weithio gyda phlatfformau eraill er mwyn creu deunyddiau addysgu, arddangosfeydd ar-lein a llawer mwy. Mae’r potensial ar gyfer ymchwil ac effaith yn y dyfodol yn aruthrol.”

Mae’r Casgliadau Digidol Arbennig yn tyfu o hyd, wrth i ragor o eitemau gael eu digideiddio ac mae hyn yn creu trysorfa o ddeunydd ymchwil. Ymhlith yr eitemau eraill sydd ar gael am y tro cyntaf mae ffotograffau unigryw o fyfyrwyr yn dysgu crefftau yn Ysgol Dechnegol Caerdydd ym 1898 a dyddiaduron â llaw o adeg Rhyfel Cartref Sbaen.

Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth am sut i ddefnyddio’r dechnoleg hon wrth addysgu, ymchwilio neu gynnal gwaith ymestyn, ebostiwch specialcollections@caerdydd.ac.uk.

Cadw’n ddiogel ar-lein

Mae’n siŵr y byddwch chi eisoes yn ymwybodol ynghylch sut i gadw’n ddiogel ar-lein, ond dyma nodyn atgoffa a fydd hwyrach yn ddefnyddiol. Yma byddwch chi’n gallu ymgyfarwyddo â’n canllawiau ar sut i ddiogelu eich hun a’ch data, gosod cyfrineiriau cryf, a sut i osgoi sgamiau wrth weithio ar-lein. Cofiwch y gallwch chi hefyd ddefnyddio meddalwedd gwrthfeirysau yn rhad ac am ddim i helpu i gadw eich gwybodaeth yn ddiogel.

Eich cyfrifoldeb chi yw amddiffyn eich hun a data’r Brifysgol ar-lein, a hefyd i sicrhau na fyddwch chi’n torri unrhyw ddeddfau trwyddedu drwy ddefnyddio offer megis BitTorrent i dorri cyfreithiau hawlfraint.

Deoniaid Addysg Ôl-raddedig newydd

Rydyn ni wedi penodi dau Ddeon Addysg Ôl-raddedig newydd:

  • Cychwynnodd Dr Mandy Tonks yn ei swydd yn Ddeon Addysg Ôl-raddedig Coleg y Gwyddorau Biofeddygol a Bywyd ar 1 Mai 2022. Darllenydd Addysg Feddygol yw Dr Tonks, a hi yw Cyfarwyddwr Ansawdd, Llywodraethu a Gwella presennol yr Ysgol Meddygaeth. Hi oedd Dirprwy Gyfarwyddwr ac yna Gyfarwyddwr Astudiaethau Ymchwil Ôl-raddedig yr Ysgol Meddygaeth am dair blynedd a phedair blynedd, yn y drefn honno. Mae Dr Tonks yn uwch-gymrawd yn yr Academi Addysg Uwch.
  • Bydd Dr Liz Wren-Owens yn ymgymryd â swydd Deon Addysg Ôl-raddedig Coleg y Celfyddydau, y Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol ym mis Medi 2022. Ar hyn o bryd, mae Dr Wren-Owens yn Ddarllenydd Eidaleg ac Astudiaethau Cyfieithu. Mae wedi dal nifer o uwch-swyddi gweinyddol yn yr Ysgol Ieithoedd Modern, gan gynnwys bod yn Gyfarwyddwr Dysgu ac Addysgu, yn Ddirprwy Bennaeth ac yn Gyd-Bennaeth Dros Dro.

Ymrwymiad cymunedol

Yn ystod y pandemig bu pawb yn ein cymuned yn gweithio i gefnogi ei gilydd, i ymddwyn yn briodol ac yn ystyriol, ac i ymyrryd pan welsom fod pobl eraill yn methu â chynnal ymddygiad a safonau’r Brifysgol. Er bod bron pob cyfyngiad COVID-19 bellach wedi’i ddileu, rydyn ni serch hynny yn gofyn i bob myfyriwr ddarllen ein hymrwymiad cymunedol ar gyfer 22/23, a chytuno arno.

Arolwg Ôl-raddedigion a Addysgir Prifysgol Caerdydd

Diolch yn fawr i bawb a gwblhaodd ran gyntaf y Arolwg Ôl-raddedigion a Addysgir ym mis Mai. Mae’r canlyniadau’n cael eu defnyddio i lywio cynlluniau gwella ar gyfer y flwyddyn academaidd newydd a bydd timau rhaglenni yn rhoi adborth i fyfyrwyr ar y prif newidiadau sydd wedi deillio o’r arolwg hwn yn sgîl paneli myfyrwyr a staff. Ym mis Awst, byddwn ni’n lansio dilyniant fydd yn canolbwyntio ar brofiad y traethawd hir. Mae eich barn yn bwysig inni ac yn ein helpu i lunio’r profiad addysgol a’r gwasanaethau rydyn ni’n eu rhoi ym Mhrifysgol Caerdydd, a bydda i’n rhannu’r arolwg hwn gyda chi unwaith y bydd ar gael yn fyw.

Dymuniadau gorau,

Claire Morgan
Rhag Is-Ganghellor Addysg a Phrofiad Myfyrwyr