Derbyn eich canlyniadau, cael gafael ar wasanaethau a chymorth yr haf hwn
15 Mehefin 2022Darllenwch neges gan Claire Morgan, Rhag Is-Ganghellor, Addysg a Phrofiad y Myfyrwyr a anfonwyd at fyfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig a addysgir ar 15 Mehefin.
Annwyl fyfyriwr,
Gobeithio eich bod yn cadw’n iawn.
Wrth i’r flwyddyn academaidd ddod i ben, a’r haf yma bron iawn, rwy’n anfon neges fyrrach atoch chi ar y cyd â rhai diweddariadau hollbwysig:
Derbyn canlyniadau eich arholiadau a’ch asesiadau
Byddwch chi’n derbyn eich canlyniadau ar gyfer arholiadau a’r asesiadau’r haf hwn cyn bo hir. Os oes gennych chi ymholiadau am eich canlyniadau, cysylltwch â’ch ysgol academaidd neu’ch tiwtor personol. Gallwch chi hefyd chwilio ar fewnrwyd y myfyrwyr neu gysylltu â Chyswllt Myfyrwyr.
Cefnogaeth Dyfodol Myfyrwyr i raddedigion
I’r rheiny hynny ohonoch chi sy’n graddio eleni, defnyddiwch ein cefnogaeth yrfaol ar gyfer Graddedigion ‘22. Rydyn ni’n cynnig adnoddau, cymorth a digwyddiadau i’ch helpu i ddeall eich opsiynau, cyflawni eich potensial a sicrhau swydd, mynd ymlaen i wneud rhagor o astudiaethau neu unrhyw gyfleoedd eraill yr hoffech chi eu dilyn.
Eich gwyliau haf
Efallai y bydd rhai o’n hadeiladau a’n gwasanaethau – gan gynnwys ein llyfrgelloedd, ein cyfleusterau chwaraeon a Chyswllt Myfyrwyr – ar agor ar adegau gwahanol yn ystod yr haf. Gwiriwch ymlaen llaw os ydych chi’n bwriadu defnyddio unrhyw un o’r gwasanaethau hyn yn ystod y cyfnod hwn.
Mis Balchder
Mis Balchder yw mis Mehefin: mis sy’n dathlu cymunedau LHDT+ ledled y byd. Rwy’n falch o fod yn Aelod o Fwrdd Gweithredol y Brifysgol ar gyfer staff a myfyrwyr LHDT+ ac rwy eisiau ichi wybod, ni waeth pwy ydych chi, y gallwch chi fod yn driw i chi’ch hun yma. Ewch i’n tudalennau LHDT+ i gael gwybodaeth am ddigwyddiadau sydd ar y gweill, rhwydweithiau y gallwch chi ymuno â nhw, a chymorth gan fyfyrwyr eraill sydd hefyd yn hyrwyddwyr.
Wythnos Ffoaduriaid, 20 i 26 Mehefin
Yn ein Prifysgol, rydym yn dal i weithio tuag at fod yn ‘Brifysgol Noddfa‘, sef cynllun sy’n cydnabod arferion da prifysgolion megis Prifysgol Caerdydd wrth iddi groesawu pobl sy’n chwilio am noddfa i sicrhau eu bod yn cael eu croesawu, eu cynnwys, eu cefnogi a’u grymuso. Mae Wythnos Ffoaduriaid yn dechrau ddydd Llun 20 Mehefin a thrwy gydol yr wythnos byddwn ni’n rhannu straeon ymfudwyr gorfodol a cheiswyr lloches yn ein cymuned.
Gwasanaeth Sgrinio COVID-19
Mae ein gwasanaeth sgrinio COVID-19 wedi bod yn hollbwysig o ran ein cadw ni i gyd yn ddiogel drwy gydol y pandemig. Ar ôl mwy na 600 diwrnod ar waith, bydd y gwasanaeth yn cau ar ddydd Mercher 22 Mehefin. Cadwch eich lle yma os bydd angen prawf COVID-19 arnoch chi ar 22 Mehefin neu cyn hynny.
Rwy’n dymuno gwyliau haf hapus ac iach iawn ichi i gyd.
Dymuniadau gorau,
Claire Morgan
Rhag Is-Ganghellor Addysg a Phrofiad Myfyrwyr
- Mehefin 2024
- Mai 2024
- Ebrill 2024
- Chwefror 2024
- Ionawr 2024
- Rhagfyr 2023
- Tachwedd 2023
- Hydref 2023
- Medi 2023
- Awst 2023
- Gorffennaf 2023
- Mehefin 2023
- Mai 2023
- Ebrill 2023
- Mawrth 2023
- Chwefror 2023
- Ionawr 2023
- Rhagfyr 2022
- Tachwedd 2022
- Hydref 2022
- Medi 2022
- Awst 2022
- Gorffennaf 2022
- Mehefin 2022
- Mai 2022
- Ebrill 2022
- Mawrth 2022
- Chwefror 2022
- Ionawr 2022
- Rhagfyr 2021
- Tachwedd 2021
- Hydref 2021
- Medi 2021
- Awst 2021
- Gorffennaf 2021
- Mehefin 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Chwefror 2020
- Ionawr 2020
- Rhagfyr 2019
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Medi 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018
- Ebrill 2018
- Mawrth 2018
- Chwefror 2018
- Ionawr 2018
- Rhagfyr 2017
- Tachwedd 2017
- Hydref 2017
- Medi 2017
- Awst 2017
- Gorffennaf 2017
- Mehefin 2017
- Mai 2017
- Ebrill 2017
- Mawrth 2017
- Chwefror 2017
- Ionawr 2017
- Rhagfyr 2016
- Tachwedd 2016
- Hydref 2016
- Medi 2016
- Awst 2016
- Gorffennaf 2016
- Mehefin 2016
- Mai 2016
- Ebrill 2016
- Mawrth 2016
- Chwefror 2016
- Ionawr 2016
- Rhagfyr 2015
- Tachwedd 2015
- Hydref 2015
- Medi 2015
- Awst 2015
- Gorffennaf 2015
- Mehefin 2015
- Mai 2015
- Ebrill 2015
- Mawrth 2015
- Chwefror 2015
- Ionawr 2015
- Rhagfyr 2014
- Tachwedd 2014
- Hydref 2014
- Medi 2014