Newyddion yr Is-Ganghellor

Lles staff, Gwasanaeth Sgrinio COVID-19 Prifysgol Caerdydd, cydraddoldeb hiliol, sparc|spark

Annwyl Gydweithiwr,

Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, rydw i wedi gorfod rhoi sylw i fater difrifol ym mhob un o fy ebyst misol. Mae’r materion hyn wedi cynnwys y pandemig, gweithredu diwydiannol, digwyddiadau geowleidyddol, pryderon ynghylch cyllido, rhyfeloedd diwylliant, ac ati. Am y tro cyntaf ers amser maith, rhyddhad yw cael osgoi trafod mater o’r fath y mis hwn, gan olygu mod i’n cael sôn am neu ddau o bynciau eraill na fyddwn wedi cael amser i’w trafod fel arfer.

Pan ddaeth difrifoldeb argyfwng y coronafeirws i’r amlwg yng ngwanwyn 2020, cynigiais i’r Cyngor y dylem ail-lunio ein strategaeth, Y Ffordd Ymlaen, i adlewyrchu hynny. Roedd rhan o’r broses honno’n cynnwys canolbwyntio ar bum ffactor llwyddiant hanfodol a fyddai’n ein helpu i oroesi’r pandemig. Y ffactor cyntaf o’r rhain, a’r pwysicaf, oedd iechyd a lles staff a myfyrwyr. Sut aeth hynny o ran y staff? Wel, ar wahân i gyflwyno camau penodol ac uniongyrchol y byddwch yn eu cofio, fel Diwrnodau Lles Staff, y peth cyntaf a wnaethom oedd paratoi Strategaeth Lles y Staff, a lansiwyd ym mis Medi 2020 ac sydd wedi’i chynllunio i bara tan fis Medi 2023. Ar adeg ei lansio, roedd y strategaeth yn cwmpasu 26 o gamau gweithredu oedd yn ceisio hyrwyddo lles y staff. Hyd yma, rydym wedi cwblhau neu wneud cynnydd sylweddol yn erbyn 18 o’r ymrwymiadau hynny. Nid wyf am fynd trwy’r rhain i gyd, ond mae enghreifftiau’n cynnwys rhoi hyfforddiant ymwybyddiaeth o iechyd meddwl a lles i’r Bwrdd ac uwch-arweinwyr eraill, a ddigwyddodd yn 2021; galluogi staff i gymryd rhan mewn mentrau lles fel yr Her Cyfrif Camau, rhoi’r gorau i ysmygu, a phethau tebyg; datblygu’r Rhwydwaith o Gysylltiadau Urddas a Lles; a chyflwyno Cynlluniau Gweithredu Lles. Rwy’n sylweddoli na fydd pob un o’r agweddau hyn yn berthnasol i bawb, ond wrth barhau i fireinio a gwella’r model llwyth gwaith neu ystyried effaith yr amgylchedd gwaith ar les, sy’n waith sy’n mynd rhagddo ond yn cael sylw parhaus, buan iawn y mae’r manteision yn pentyrru.

Ar fater mwy technegol, pleser o’r mwyaf yw cael dweud bod y Brifysgol wedi derbyn cadarnhad eu bod yn cydymffurfio ag ISO 45003, y safon ryngwladol newydd ar gyfer rheoli peryglon seicogymdeithasol yn y gweithle. Er nad yw’r cysylltiad rhwng hyn â phryderon bob dydd yn amlwg ar un olwg, mae’n gadarnhad allanol o bwys o’n hymrwymiad i les staff a’r dull gweithredu yr ydym yn ei ddilyn.  Mewn dilysiad allanol pellach o’n dull gweithredu, roedd Prifysgol Caerdydd yn 4ydd yn y DU ac yn 41ain yn y byd o ran effaith ar restr ddiweddaraf Times Higher Education (THE). Mae’r categori hwn yn asesu ein perfformiad yn erbyn Nod Datblygu Cynaliadwy 3 y Cenhedloedd Unedig: Iechyd a Lles Da. Mae’r dulliau mesur a ddefnyddir gan THE ar gyfer ei werthusiad yn erbyn Nod 3 yn cynnwys mynediad at wasanaethau a chymorth lles cyffredinol, yn ogystal â gwasanaethau gofal iechyd i fyfyrwyr a chymorth iechyd meddwl rhad ac am ddim i fyfyrwyr a staff.

Os oes yn well gennych gael dull mwy personol ac uniongyrchol o gymryd rhan mewn gweithgareddau lles staff, cofiwch am bythefnos PHEW, a gynhelir rhwng 4 a 15 Gorffennaf. Mae PHEW yn rhoi cyfle i staff gymryd rhan mewn amrywiaeth eang o weithgareddau sy’n ymwneud ag iechyd, lles a’r amgylchedd, ac eleni yw’r 15fed flwyddyn iddo gael ei gynnal. Mae’r digwyddiadau i gyd yn gysylltiedig â phum colofn Strategaeth Lles y Staff a gafodd ei chrybwyll uchod, yn ogystal â Phum Ffordd at Les Mind (sy’n ddefnyddiol dros ben). Mae’r gweithgareddau’n cynnwys gweithdai, sesiynau rhagflas, cyngor ar iechyd, sesiynau ffitrwydd a dawns, teithiau tywys, gweithgareddau creadigol, ymhlith llu o rai eraill.

Gan aros ar thema iechyd, daeth Gwasanaeth Sgrinio Covid Prifysgol Caerdydd i ben ddiwedd y mis ar ôl chwarae rhan ganolog yn y gwaith o gadw ein campws yn ddiogel a sicrhau iechyd a lles staff a myfyrwyr am bron i ddwy flynedd. Roedd yn dasg enfawr ond, mewn llai na thri mis, sefydlodd ein tîm rhagorol wasanaeth casglu swmp o samplau a labordy ar gyfer eu prosesu. Ni oedd un o’r rhai cyntaf i gynnig profion asymptomatig rhad ac am ddim ymhlith y nifer cymharol isel o brifysgolion yn y DU a gynigiodd y gwasanaeth hwn yn y pen draw. Dyma beth wnaeth ein galluogi ni i ddeall sut roedd coronafeirws yn datblygu yng Nghaerdydd a chyhoeddi rhybuddion cynnar a helpodd i fynd i’r afael ag achosion cyn gynted â phosibl. Roedd yr hyn a ddysgodd y tîm am sut i ddadansoddi a phrosesu samplau o boer yn gyflym ac ar raddfa eang, yn amhrisiadwy a bydd yn cryfhau ymchwil barhaus yn y maes hwn yn y dyfodol. Casglwyd 59,980 o samplau i gyd, ac roedd 854 ohonynt yn bositif (gan gynnwys fy un i ym mis Mawrth y llynedd!). Roedd yn ymdrech ar y cyd hynod bwysig ac, ar ran y brifysgol gyfan, hoffwn ddiolch o galon i bawb a chwaraeodd ran, boed trwy gasglu samplau, eu dadansoddi, cyfleu’r canlyniadau a dilyniannu samplau positif. Yr oedd yn llwyddiant ysgubol ac yn gyflawniad y gallwn fod yn falch ohono gyda’n gilydd. Gyda lwc, ni fydd angen cyfleuster o’r fath arnom eto ond, os bydd, byddwn yn barod.

Ar nodyn llai cadarnhaol, efallai bod rhai ohonoch wedi clywed bod y Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch yn Lloegr, y Gwir Anrhydeddus Michelle Donelan, wedi ysgrifennu at Is-gangellorion yn Lloegr yn honni y gallai cadw at Siarter Cydraddoldeb Hiliol AdvanceHE wrthdaro â rhyddid mynegiant (free speech). Ni fyddwn erioed wedi dychmygu sefyllfa pan mae is-gangellorion yn cael eu cynghori i beidio â mynd ar drywydd ymdrechion i hyrwyddo cydraddoldeb hiliol. Mae hyn hyd yn oed yn fwy anodd ei amgyffred o ystyried mai olynydd i asiantaeth sector (yr Uned Hyrwyddo Cydraddoldeb) yw’r sefydliad o dan sylw sydd wedi canolbwyntio ar anghenion penodol y sector ers blynyddoedd lawer, ac sydd wedi gwneud cynnydd enfawr o ran hyrwyddo cydraddoldeb a meithrin cynwysoldeb mewn sawl ffordd. Yr hyn sy’n eironig yw y bydd y llythyr hwn wedi cael ymateb negyddol yr ochr arall i Glawdd Offa ac wedi annog rhai i wrthwynebu’r cam rhyfeddol hwn, ond mae ymateb gofalus AdvanceHE i’w weld yma. Rwy’n hapus i gadarnhau bod Prifysgol Caerdydd yn falch o fod yn cymryd yr holl gamau posibl i fod yn sefydliad gwrth-hiliol. I ategu hynny, cymeradwyodd y Bwrdd bapur o’r enw Mesurau Ychwanegol i Gefnogi Cydraddoldeb Hiliol rai wythnosau yn ôl. O ganlyniad i hynny, rwyf wedi llofnodi polisi Dim Hiliaeth Cymru yn ogystal â chymeradwyo ein bod yn dod yn aelod cefnogol o Gynghrair Hil Cymru ac yn sefydliad sy’n noddi Cyngor Hil Cymru. Wrth gwrs, mae hyn ar ben ein gwaith parhaus gydag AdvanceHE. I fod yn gwbl glir, nid yw hyn yn gwrthdaro â’n hymrwymiad amlwg i ryddid mynegiant a rhyddid academaidd ac, mewn gwirionedd, mae’n ategu’r ymrwymiad i siarad am hiliaeth sy’n sail i’n dull gweithredu yn gyffredinol.

Gan fynd yn ôl at rai uchafbwyntiau, rwy’n falch o ddweud bod ein sefyllfa ariannol yn parhau i fod yn un gref. Cewch ragor o fanylion am hyn gennyf yn fy ebyst nesaf, wrth inni agosáu at ddiwedd y flwyddyn ariannol. Ar y nodyn hwnnw, hoffwn longyfarch Alison Jarvis, ein Cyfarwyddwr Gweithrediadau Ariannol, sydd wedi’i phenodi’n Brif Swyddog Ariannol Prifysgol Plymouth, ar ôl ein helpu i foderneiddio a gwella ein gweithrediadau a’n gweithdrefnau ariannol dros y pedair blynedd diwethaf. Dymunaf yn dda i Alison yn ei rôl strategol newydd, a diolch iddi am bopeth y mae wedi’i wneud dros Gaerdydd. Yn amlwg, rwy’n ymwybodol o ymdrechion enfawr yr holl staff yn ystod y flwyddyn er mwyn sicrhau ein bod yn parhau i fod ar y trywydd iawn yn academaidd ac yn ariannol, a hynny mewn amgylchiadau heriol dros ben, a byddaf yn trafod y pwnc hwn hefyd maes o law.

Yn gynharach y mis hwn, lansiwyd ein Parc Ymchwil Gwyddorau Cymdeithasol newydd, sbarc | spark. Os nad ydych wedi bod yno eto, ewch ar bob cyfrif, gan ei fod yn gadarnhad gwych o’n cred ym mhwysigrwydd gwyddorau cymdeithasol ym mhantheon ehangach ymchwil, ac mewn arloesedd. Mae caffi ardderchog yno hefyd sy’n hanfodol er mwyn trafod syniadau, fel y gwyddoch rwy’n siŵr. Mae Sbarc, sydd y drws nesaf i’r Ganolfan Ymchwil Drosi (a gaiff ragor o sylw gennyf yn fy ebyst yn y dyfodol) a thafliad carreg o’r Ysgol Busnes, yn ffordd arloesol o ddod ag ymchwil ynghyd er mwyn creu polisïau, arloesedd, addysg, gwyddoniaeth fel maes ynddi hi ei hun, yn ogystal â llu o feysydd eraill sy’n ffurfio’r ecosystem arloesedd. Drwy ddefnyddio Sbarc fel y ffocws, rwy’n hyderus y gallwn fod â gobeithion mawr o lwyddo yn ein hymgais i ddatblygu campws arloesedd sy’n arwain y byd yma ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae’r adeilad yn gartref i fusnesau ac asiantaethau lleol perthnasol yn y gofod arloesedd, ac rydym am iddo sbarduno cyfarfodydd a chydweithio sy’n digwydd ar hap a damwain. Yn anffodus ni allwn fod yn y lansiad fy hun – nawr bod modd teithio a chynnal cyfarfodydd wyneb yn wyneb, rwy’n cael fy rhwygo i sawl cyfeiriad unwaith eto – ond roedd yn wych gweld bod yr Athro John Goddard yno, sydd â dealltwriaeth arbennig o ddatblygiad rhanbarthol ac economaidd. Gan John (a oedd yn Ddirprwy Is-Ganghellor ym Mhrifysgol Newcastle pan oeddwn yn Rhag Is-Ganghellor yno) y dysgais gymaint am Genhadaeth Ddinesig, allgymorth, rôl ranbarthol hanfodol prifysgolion a’n grym fel peiriannau economaidd sy’n gallu gwella iechyd, cyfoeth a lles cynifer o bobl yn ein cymunedau ac ar draws y byd. Mae ei wybodaeth a’i ddealltwriaeth wedi bod o fudd i mi ac wedi arwain llawer o fy mhenderfyniadau yng Nghaerdydd (a phan oeddwn yng Nghaerwysg hefyd, o ran hynny). Daeth y lansiad â llawer o bobl sy’n rhannu’r ymagwedd hon at ei gilydd. Yn benodol, roedd y rhain yn cynnwys yr Athro Julia Black, Llywydd yr Academi Brydeinig, ac Adam Price, arweinydd Plaid Cymru, sydd wedi bod yn eiriolwr amlwg ers ei gyfnod yn NESTA. Bu Adam hefyd yn cynghori’r Brifysgol ar ddatblygiad Sbarc a materion cysylltiedig eraill pan oedd yn aelod o’r Bwrdd Arloesedd yr oedd gennym yn ystod cyfnod datblygiadol ein Campws Arloesedd.

sbarc l spark oedd un o’r nifer o brosiectau cyfalaf a oruchwyliwyd gan ein Cyfarwyddwr Ystadau a Chyfleusterau Campws, Dev Biddlecombe, sy’n ein gadael i fod yn Gyfarwyddwr Seilwaith Campws ym Mhrifysgol Caerfaddon. Hoffwn longyfarch Dev ar ei swydd newydd, diolch iddo am bopeth y mae wedi’i wneud yn ystod ei wyth mlynedd yng Nghaerdydd, a dymuno’n dda iddo ar gyfer y dyfodol. Llongyfarchiadau hefyd i Dr Angharad Jones o Ysgol y Biowyddorau, Dr Pete Barry o’r Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth a Dr John Harvey, sydd ar fin ymuno â’r Ysgol Mathemateg, gan fod pob un ohonynt wedi derbyn Cymrodoriaethau Arweinwyr y Dyfodol gan Ymchwil ac Arloesedd y DU (UKRI). Mae’n wych gweld cydweithwyr yng Nghaerdydd yn llwyddo yn y broses hynod gystadleuol hon, a dymunaf yn dda i bob un ohonynt yn eu hymdrechion yn y dyfodol.

Dymuniadau gorau

Colin Riordan
Is-Ganghellor