Skip to main content

Newyddion Aelodau’r Bwrdd

Gweithredu diwydiannol, cymorth ynghylch arholiadau, graddio, ac arolygon myfyrwyr ôl-raddedig ag addysgir

16 Mai 2022
Claire Morgan

Darllenwch neges gan Claire Morgan, Rhag Is-Ganghellor, Addysg a Phrofiad y Myfyrwyr a anfonwyd at fyfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig a addysgir ar 16 Mai.

Y tro diwethaf imi ysgrifennu, fe wnes i sôn am bleidlais Undeb y Prifysgolion a’r Colegau (UCU) o blaid gweithredu diwydiannol. Maent erbyn hyn wedi cadarnhau sut a phryd y bydd hyn yn digwydd.

O ddydd Llun 23 Mai, bydd y staff hynny sy’n dewis gwneud hynny yn ‘gweithredu heb gynnwys streicio’. Gall hyn fod ar sawl ffurf wahanol, gan gynnwys gwrthod marcio ac asesu.

Rwy’n sylweddoli y gallai hyn beri pryder i chi ar adeg sydd eisoes yn anodd. Dros yr wythnosau nesaf, mi fydd eich Ysgol a minnau yn cysylltu’n rheolaidd i roi’r wybodaeth ddiweddaraf am sut byddwn yn gwneud popeth i leihau effaith y gweithredu diwydiannol hwn a’ch cefnogi. Yn y cyfamser, rydym wedi cyhoeddi adran newydd ar y fewnrwyd, ac ynddi cewch atebion i gwestiynau cyffredin ynghylch gweithredu diwydiannol ac ynghylch sut y gallai gweithredu diwydiannol effeithio ar eich astudiaethau.

Cysylltwch â Chyswllt Myfyrwyr neu ymwelwch â ni yng Nghanolfan Bywyd y Myfyrwyr os ydych yn poeni am eich arholiadau ac yr hoffech siarad â rhywun.

Yn ogystal â bod yn gartref i’n Gwasanaethau Bywyd Myfyrwyr, mae gan Ganolfan Bywyd y Myfyrwyr amrywiaeth o fannau astudio cymdeithasol ar gael dros bum llawr. Gallwch hefyd gymryd seibiant o astudio yn yr ystafell ymlacio bwrpasol, rhwng 12 a 27 Mai yn ystafell 2.25.

Diweddariad am Seremonïau Graddio

Mae paratoadau wedi hen ddechrau ar gyfer seremonïau graddio eleni, lle amcangyfrifir y bydd 65,000 o fyfyrwyr a gwesteion yn dod at ei gilydd yn ystod yr wythnos raddio. Mae graddio yn achlysur pwysig lle rydym yn dathlu llwyddiannau anhygoel ein graddedigion ochr yn ochr â staff y Brifysgol, cymrodyr er anrhydedd, pobl bwysig iawn (VIPs) a gwesteion.

I’r rhai ohonoch a fydd yn graddio ym mis Gorffennaf, erbyn hyn dylech fod wedi derbyn eich gwahoddiad i drefnu popeth sydd ei angen arnoch ar gyfer eich diwrnod graddio. Os nad ydych wedi derbyn hwn, neu os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â Chyswllt Myfyrwyr.

Gwobrau Cyfoethogi Bywyd y Myfyrwyr 2022

Roedd yn bleser gennyf cael mynd i Wobrau Cyfoethogi Bywyd y Myfyrwyr eleni yr wythnos diwethaf. Mae’r gwobrau’n dathlu’r gwaith rhagorol sy’n cael ei wneud gan staff a myfyrwyr ar draws y Brifysgol ac yn cydnabod y rhai sy’n cyfrannu mor gadarnhaol at eich profiad fel myfyriwr. Diolch i bawb a gymerodd ran yn y digwyddiad a llongyfarchiadau i’r holl enwebeion a’r enillwyr.

Arolygon myfyrwyr ôl-raddedig ag addysgir

Mae Arolwg Myfyrwyr Ôl-raddedig a Addysgir Prifysgol Caerdydd (CUPTS) yn gyfle i roi adborth gwerthfawr am eich profiad prifysgol os ydych yn fyfyriwr ôl-raddedig a addysgir, ac i’n helpu i nodi meysydd lle gellir gwneud gwelliannau.

Mae CUPTS wedi’i gynllunio ar y cyd â myfyrwyr ôl-raddedig a addysgir, i wneud yn siŵr ein bod yn holi am y pethau pwysig. Bydd canlyniadau’r arolwg yn cael eu dadansoddi a’u rhannu gyda staff sy’n ymwneud ag addysgu a rheoli myfyrwyr a rhaglenni ôl-raddedig a addysgir.

Dim ond 5-10 munud y mae’n ei gymryd i’w gwblhau, ac mae’r ymatebion yn ddienw. Os ydych yn fyfyriwr ôl-raddedig a addysgir ac nad ydych eto wedi cyflwyno’ch barn drwy’r CUPTS, byddwn yn eich annog i wneud hynny cyn i’r arolwg ddod i ben ar 9 Mehefin.

Pob lwc yn eich arholiadau a’ch asesiadau, a byddaf yn ysgrifennu atoch eto cyn bo hir.

Claire Morgan
Rhag Is-Ganghellor Addysg a Phrofiad Myfyrwyr