Skip to main content

Newyddion Aelodau’r Bwrdd

Canlyniad pleidlais UCU a’r hyn y gallai ei olygu i chi

13 Ebrill 2022

Darllenwch neges gan Claire Morgan, Rhag Is-Ganghellor, Addysg a Phrofiad y Myfyrwyr a anfonwyd ar 13 Ebrill.

Annwyl fyfyriwr,

Efallai eich bod eisoes yn gwybod bod Undeb y Prifysgolion a’r Colegau (UCU) wedi cynnal pleidlais ymhlith ei aelodau ledled y DU yn ddiweddar ynghylch y posibilrwydd o gynnal gweithredu diwydiannol. Ar ôl i’r pleidleisio orffen ar 8 Ebrill, a oedd o blaid gweithredu diwydiannol (neu fynd ar streic), bydd UCU bellach yn cyfarfod i benderfynu ar y camau y byddant yn eu cymryd, a phryd. Ni fyddwn yn gwybod beth fydd canlyniad y trafodaethau hyn hyd nes y bydd UCU yn rhoi gwybod inni.

Yn rhinwedd ein gwaith fel Prifysgol, ni allwn gymryd camau ar ein pen ein hunain i atal gweithredu diwydiannol. Y prif faterion a godwyd yw’r materion cenedlaethol sy’n effeithio ar y sector Addysg Uwch cyfan yn y Deyrnas Unedig.

Pa gamau bynnag y bydd UCU a’i aelodau yn eu cymryd, hoffwn bwysleisio mai ein blaenoriaeth fydd lleihau eu heffaith arnoch chi a’ch addysg, ac mae cynllunio eisoes ar y gweill ar hyn. Rydym yn gwerthfawrogi y gallai hyn achosi pryder, ond byddwn yn parhau i fod ar agor, a byddwn yn cymryd camau i leihau unrhyw amhariad.

Mae hyn yn parhau i fod yn gyfnod heriol i lawer, a hoffwn ddiolch unwaith eto ichi am eich dealltwriaeth a’ch amynedd. Byddaf yn cysylltu unwaith eto cyn gynted ag y bydd cynlluniau’r UCU yn hysbys.

Dymuniadau gorau,

Claire Morgan
Rhag Is-Ganghellor Addysg a Phrofiad Myfyrwyr