Skip to main content

Newyddion Aelodau’r Bwrdd

Y diweddaraf am raddio – 6 Ebrill 2022

6 Ebrill 2022
Claire Morgan

Darllenwch yr ebost a anfonwyd at ein graddedigion 2022, 2021 a 2020 ar 6 Ebrill gan ein Dirprwy Is-Ganghellor, Addysg a Phrofiad Myfyrwyr.

Annwyl myfyrwyr/cynfyfyrwyr

Yn dilyn yr ebost a anfonais ar 4 Mawrth, rwy’n ysgrifennu’r diweddariad hwn i geisio ymateb i bryder penodol a godwyd ynghylch Seremonïau Graddio 2022.

Mae llawer ohonoch wedi dweud wrthym nad ydych yn hapus ynghylch fformat y digwyddiad. Fe wnaethoch ddweud wrthym eich bod yn siomedig na fydd cerdded ar draws y llwyfan yn rhan o ddathliadau’r dydd.

Mae graddio tair carfan mewn blwyddyn yn her ymarferol enfawr. Mae hyn yn bennaf oherwydd maint y digwyddiadau o dan sylw gan ein bod yn amcangyfrif y bydd tua 13,500 o fyfyrwyr a 51,000 o westeion yn ymuno â ni yn ystod wythnos y Seremonïau Graddio. Wrth i ni ddatblygu ein cynlluniau, roedd cyfyngiadau anochel yn cael eu gosod ar y digwyddiad yn y stadiwm, gan gynnwys o ran yr amseru a nifer y digwyddiadau.

Yn fy ymateb cychwynnol i’ch pryder, fe eglurais ein bod yn parhau i gau pen y mwdwl ar fformat y digwyddiad(au) – ac mae hynny’n wir o hyd. Fodd bynnag, rwy’n gallu dweud yn hyderus ein bod wedi gwrando, ein bod yn deall, ac rydym wedi ymrwymo i ymateb i’ch adborth.

Ers cael eich adborth, rwyf wedi cadeirio sawl cyfarfod o Grŵp Llywio’r Seremonïau Graddio, sy’n cynnwys aelodau o Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd, a’n bod wedi edrych ar y gwahanol opsiynau.  Rydym yn cytuno ein bod eisiau gallu cydnabod eich cyflawniadau unigol.

O ganlyniad, gallaf gadarnhau y bydd cyfle i bob myfyriwr graddedig gael ei gydnabod yn bersonol yn eich cap a’ch gwisg graddio ac y cewch y gydnabyddiaeth unigol yr ydych wedi dweud wrthym sydd mor bwysig i chi.

Bydd hyn yn digwydd yn nigwyddiadau cydnabod yr Ysgolion. Yn y digwyddiadau hyn byddwch nawr yn cael y cyfle i gerdded, bydd eich enw’n cael ei gyhoeddi, ac i’ch gwesteion gymeradwyo eich cyflawniadau. Bydd yr elfen hon o’r diwrnod yn digwydd ar gampws y Brifysgol ac, fel oedd yn gallu digwydd yn y gorffennol, byddwch yn cael dod â dau westai i’r digwyddiad.

Mae eich swyddogion myfyrwyr wedi bod yn rhan o’r trafodaethau ac yn cael adborth gan fyfyrwyr, ac maent o blaid cynnwys yr elfennau hynny fydd yn cydnabod unigolion. Mae’r rhain yn cael eu hailgyflwyno’n rhan o’r diwrnod erbyn hyn.

Er ein bod yn gwybod y byddai’n well gan rai ohonoch gael y foment arbennig hon yn Stadiwm Principality – nid oedd hyn yn bosibl oherwydd y niferoedd a’r cyfyngiadau. Rydym yn gobeithio y byddwch yn cydnabod ein bod yn gwneud popeth posibl i gyflwyno’r elfen hanfodol hon yn rhan o’ch diwrnod unwaith eto.

Stadiwm Principality fydd canolbwynt Seremonïau Graddio 2022 o hyd gan mai yno y byddwn yn dathlu eich dyfarniad yn swyddogol.

Fel yr oeddem eisoes wedi’i gynllunio, byddwn hefyd yn cynnal dathliadau yn ein Gerddi Graddio, ym mhrif gampws y Brifysgol ac o’i chwmpas – man anffurfiol i gwrdd unwaith eto â ffrindiau, cyd-raddedigion ac aelodau staff o’ch amser yn y Brifysgol.

Bydd y dyddiadau a gafodd eu hysbysebu yn yr ebost ar 4 Mawrth yn aros yr un fath. Rydym erbyn hyn yn gweithio ar yr elfen ychwanegol hon drwy ymgynghori ag Ysgolion, staff, a chynrychiolwyr myfyrwyr. Bydd holl ddigwyddiadau derbyn, cydnabod a seremonïau’r ysgol yn cael eu cynnal ar yr un diwrnod.

Nid yw’n bosibl siarad â phob myfyriwr yn unigol, ond gallwn eich sicrhau ein bod yn gwrando ar eich adborth a byddwn yn parhau i ymgynghori â’ch cynrychiolwyr myfyrwyr etholedig.

Mae graddio yn ddigwyddiad mor arbennig. Daw’r campws yn fyw ac mae’r ddinas yn fwrlwm wrth i deuluoedd, ffrindiau, a staff ddod ynghyd i ddathlu eich cyflawniadau academaidd; dyma pam rydym yn benderfynol o wneud yn siŵr bod popeth yn ei le.

A ninnau wrthi’n cau pen y mwdwl ar yr holl fanylion, bydd ychydig o oedi cyn y gallwn anfon gwahoddiadau ffurfiol sy’n cynnwys manylion penodol eich seremoni, ond diolch i chi am fod mor amyneddgar. Mae’n bwysig pwysleisio mai diwrnod o ddathlu fydd hwn yn hytrach na seremoni yn unig. Bydd amserlen lawn o weithgareddau ond y prif ddigwyddiad ffurfiol yn Stadiwm Principality fydd yn cael y prif sylw o hyd.

Bydd gwahoddiadau ffurfiol yn cael eu hanfon ddiwedd mis Ebrill neu ddechrau mis Mai, a byddem yn eich annog i gofrestru ar gyfer yr elfennau perthnasol. Bydd mwy o wybodaeth ar gael ar ein porth pwrpasol hefyd a bydd ein tudalennau am y Seremonïau Graddio ar y we yn cael eu diweddaru dros yr wythnosau nesaf.

Yn y cyfamser, os oes gennych gwestiynau, ebostiwch ni: Dosbarth 2020 a 2021 (alumni@caerdydd.ac.uk) Dosbarth 2022 (studentconnect@caerdydd.ac.uk) a byddwn yn gwneud ein gorau i ymateb iddynt cyn gynted ag y gallwn.

Gobeithio bod y diweddariad hwn o ddefnydd i chi a’ch bod yn gallu gweld ein bod yn gwneud ymdrech arbennig i wneud yn siŵr bod y diwrnod hwn yn un arbennig i chi, eich teulu a’ch ffrindiau.

Rydw i a phob un o fy nghydweithwyr yn y brifysgol yn edrych ymlaen at eich gweld chi a’ch gwesteion ym mis Gorffennaf.

Yn gywir,

 

Claire Morgan
Rhag Is-Ganghellor, Addysg a Phrofiad Myfyrwyr