Newyddion yr Is-Ganghellor

Wcráin, Partneriaeth Iechyd Meddwl De Ddwyrain Cymru, Llais y Myfyrwyr, COVID-19

Annwyl gydweithiwr,

Fe fyddwch yn ymwybodol bod Putin bellach yn ceisio cyflawni nodau ei ryfel anghyfreithlon drwy ymosod yn ddiwahân ar leoedd sy’n gartref i ddinasyddion cyffredin. Mae hyn yn dilyn methiant ei strategaeth blitzkrieg yn Wcráin. Mae diystyru arferion dyngarol rhyngwladol mewn modd mor haerllug yn golygu bod Rwsia yn datblygu i fod yn wladwriaeth sy’n fygythiad i weddill y byd, ac mae effeithiau’r sancsiynau ar Rwsia i’w gweld yno ac mewn gwledydd ar y naill ochr i’r gwrthdaro. Nid oes unrhyw un yn ennill yn yr amgylchiadau hyn ac mae’r goblygiadau i boblogaeth Wcráin yn parhau i arswydo. Rydym yn gweithio’n galed ar raglen gymorth i staff a myfyrwyr o Wcráin a allai fod angen noddfa, ar ffurf ysgoloriaethau a lleoliadau â chymorth. Rwyf wedi amlinellu mewn negeseuon ebost blaenorol ein safbwynt ar ynysu Rwsia yn rhyngwladol. Rydym wedi torri pob cysylltiad â sefydliadau’r wladwriaeth neu ffynonellau cyllid. Fodd bynnag, rydym hefyd yn cydnabod y bydd angen i unigolion drafod perthnasoedd academaidd fesul achos, gan wybod nad yw ein holl gymheiriaid yn Rwsia o blaid y rhyfel o bell ffordd. Rwyf hefyd yn deall y straen y mae’r rhyfel yn ei achosi i’n staff a’n myfyrwyr presennol o Wcráin, Rwsia a Belarws, ac yn wir yn fwy cyffredinol. Anaml y mae digwyddiadau rhyngwladol yn cael effeithiau mor eang, ond mae’n gwbl glir bod yr ymosodiad ar Wcráin yn achosi rhagor o bryder i lawer. Mae hyn ar ben y pryderon ynghylch y cynnydd mewn costau byw, sydd wedi’i achosi o leiaf yn rhannol gan y rhyfel. Mae Care First yn cynnig cymorth penodol sydd ar gael i’r holl staff.

Fel y gwyddoch, rwy’n siŵr, daw hyn ar ben y cynnydd mewn anawsterau iechyd meddwl ar hyn o bryd. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae pob prifysgol, gan gynnwys Caerdydd, wedi gweld cynnydd sylweddol yn nifer y myfyrwyr â phroblemau iechyd meddwl. Mae’r rhain yn amrywio o broblemau y gellir eu trin drwy roi cyngor neu wasanaeth cwnsela, i achosion brys lle mae angen ymyrraeth feddygol ar unwaith. Mae’r ffaith bod problemau iechyd meddwl yn gallu amrywio fel hyn o ran eu difrifoldeb yn her ynddi hi ei hun. Rhaid i ni, yn yr un modd â phrifysgolion eraill, fod yn glir nad ydym yn cynnig gwasanaethau iechyd meddwl clinigol, ac ni allwn eu cynnig ychwaith. Er ein bod yn gallu delio â llawer o’r achosion drwy ein gwasanaeth cwnsela, mater i’r GIG yw problemau iechyd meddwl mwy difrifol. Mae gwybod yn union pa bryd y mae angen cyfeirio myfyriwr at wasanaeth y GIG yn gallu bod yn anodd, ac mae bob amser risg y gallai rywbeth fynd o’i le wrth gyfeirio. Rydym ni ym Mhrifysgol Caerdydd wedi bod yn ymwybodol o hyn ers rhai blynyddoedd, ac wedi cyflwyno ystod o fesurau i wneud yn siŵr bod ein myfyrwyr yn cael eu cefnogi drwy gydol eu hamser gyda ni. Fodd bynnag, nid problem i ni yn unig yw hon, felly gweithio mewn partneriaeth â phrifysgolion eraill yn y ddinas, yn ogystal â’r GIG, yw’r ffordd gywir o fynd o’i chwmpas. O fis Ebrill ymlaen, bydd Partneriaeth Iechyd Meddwl De-ddwyrain Cymru a ariennir gan CCAUC yn dechrau ar ei gwaith. Bydd hyn yn caniatáu i unrhyw un o’n myfyrwyr, yn ogystal â myfyrwyr o Brifysgol Metropolitan Caerdydd a Phrifysgol De Cymru, gael eu cyfeirio at dîm iechyd meddwl y GIG yng Nghanolfan Bywyd y Myfyrwyr. Bydd hyn yn gwneud yn siŵr bod modd cynnig asesiad clinigol a thriniaeth amserol a phriodol i fyfyrwyr ar gyfer achosion nad ydynt yn rhai brys. Bydd hefyd yn galluogi pawb sy’n ymwneud â chynorthwyo achosion myfyrwyr i gyfathrebu â’i gilydd yn haws. Mae hwn yn gam mawr ymlaen i’n myfyrwyr ac yn bluen yn het ein tîm Bywyd Myfyrwyr a’n holl bartneriaid.

Un o’r elfennau pwysicaf wrth gynorthwyo myfyrwyr fel hyn yw’r gallu i wrando. Mae hyn yn berthnasol i brofiad myfyrwyr ar lefel ehangach, ac yn yr ysbryd hwnnw roeddwn am roi gwybod i chi fod prosiect mawr ar y gweill mewn perthynas â Llais y Myfyrwyr, ac mai cam cychwynnol yn unig yw’r newidiadau diweddar i wella modiwlau. Y weledigaeth dros y tair blynedd nesaf yw hwyluso newid o bwys o ran ymddygiad a diwylliant yng ngweithgarwch Llais y Myfyrwyr yng Nghaerdydd, gan newid o fod yn broses adweithiol i roi proses ragweithiol o welliant parhaus ar waith. Mae’r gwaith yn cael ei arwain gan yr Athro Luke Sloan, Cyfarwyddwr Dysgu ac Addysgu yn Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol, a Ellie Mayo-Ward, Rheolwr Ymgysylltu â Myfyrwyr yn ein Hacademi Addysgu a Dysgu. Ar hyn o bryd maent yn gweithio ar Fframwaith Llais y Myfyrwyr fydd yn amlinellu disgwyliadau holl randdeiliaid y Brifysgol wrth wrando ar lais y myfyrwyr, ymgysylltu â myfyrwyr mewn ffyrdd ystyrlon, cau’r cylch adborth, a gwneud yn siŵr bod myfyrwyr yn rhan annatod o ddod o hyd i atebion. Mae’r pwynt olaf hwn yn hanfodol. Bydd profiad y myfyrwyr yn gwella po fwyaf y maen nhw’n chwarae rhan yn gynnar mewn newidiadau sy’n effeithio arnyn nhw. Bydd y fframwaith hefyd yn cwmpasu’r sianeli hynny a ddefnyddir i amlygu Llais y Myfyrwyr ar lefel fodiwlaidd, rhaglenni ac ysgol/sefydliadol. Bydd yn nodi dulliau pwysig o gasglu data, pwy sy’n gyfrifol am eu goruchwylio, a rolau gwahanol bobl yn y prosesau hyn. Yn olaf, bydd y fframwaith yn nodi’r disgwyliadau ar gyfer sut mae Paneli Myfyrwyr/Staff a’r System Cynrychioli Myfyrwyr yn gweithio mewn ysgolion academaidd. Yn anad dim, bydd y fframwaith yn helpu i greu diwylliant o gwmpas Llais y Myfyrwyr fydd yn annog ymddygiadau craidd fel meithrin perthynas â myfyrwyr gan chwalu’r rhwystr rhwng ‘ni a nhw’. Gofynnwn i chi gefnogi’r prosiect hwn, ac os hoffech gymryd rhan yn yr ymgynghoriad ar y fframwaith, cysylltwch â’r Tîm Ymgysylltu â Myfyrwyr drwy ebostio studentengagement@caerdydd.ac.uk.

Gan ddychwelyd at thema iechyd, fe fyddwch yn ymwybodol bod Llywodraeth Cymru wedi dileu bron pob cyfyngiad covid, ac mae ein canllawiau ar gyfer Prifysgol Caerdydd yn cyd-fynd â hynny. Yn amlwg, mae’n bosibl o hyd y gallai amrywiad newydd a mwy difrifol ddechrau lledaenu rywbryd, felly byddwn yn parhau i gadw llygad ar y sefyllfa. Fodd bynnag, mae gennym gryn brofiad erbyn hyn o sut i ddelio â datblygiad o’r fath, a bydd gennym gynlluniau wrth gefn yn ôl yr angen, yn enwedig yn ystod misoedd y gaeaf. Yn y cyfamser, gofynnwn i chi barhau i ystyried pobl eraill, ac os oes gennych unrhyw symptomau tebyg i annwyd neu anawsterau anadlu, cymerwch y rhagofalon angenrheidiol i leihau’r risg o ledaenu’r haint, beth bynnag sydd wedi achosi’r symptomau hynny.

Fel y gwyddoch, mae’r coronafeirws yn parhau i ledaenu ar lefelau uchel iawn yma a ledled y byd, a bydd angen triniaeth o hyd ar gyfer rhai achosion, yn anffodus. Felly, braf iawn oedd gweld ein bod yn parhau i chwarae ein rhan wrth fynd i’r afael â’r pandemig. Yn yr achos o dan sylw, gwnaethpwyd hyn drwy ail-bwrpasu brechlyn Pfizer – a ddyluniwyd i fod yn broffylactig – i drin cleifion sydd eisoes â COVID-19. Yn yr achos cyntaf o’i fath yn ôl pob sôn, fe ddefnyddiodd tîm o dan arweiniad yr Athro Stephen Jolles, fu’n gweithio gyda Dr Mark Ponsford yn yr Ysgol Meddygaethy brechlyn i drin y feirws yn hytrach na’i atal. Mae hyn yn cynnig gobaith i gleifion â diffyg imiwnedd sydd heb ymateb yn dda i’r brechlyn fel arall, ac mae’n edrych ar y broblem mewn ffordd hollol wahanol. Heb os, bydd y defnydd newydd hwn o frechlyn MRNA yn cael effaith arwyddocaol yn y gymuned wyddonol a bydd yn sbarduno ymchwil mewn meysydd eraill nawr ein bod yn gwybod bod y cysyniad yn gweithio.

Wrth gwrs, mae annog ymddygiad cadarnhaol yr un mor bwysig ag atal pathogenau rhag lledaenu wrth hyrwyddo iechyd da, ac rydym ni ym Mhrifysgol Caerdydd yn chwarae ein rôl yn hynny o beth hefyd. Gan weithio gyda Phrifysgol Nottingham, mae prosiect i annog mwy o bobl i elwa ar fanteision iechyd nofio gwyllt wedi’i lansio. Ei nod yw helpu pobl i ddeall lle mae’n ddiogel ac yn gyfleus i nofio, yn ogystal â’u haddysgu am ragofalon diogelwch a’r dystiolaeth o ran sut mae’r gweithgaredd hwn o fudd i’w hiechyd. Rwy’n siŵr y bydd y prosiect hwn yn adeiladu ar yr adfywiad mewn gweithgareddau awyr agored a ddigwyddodd yn annisgwyl o ganlyniad i’r cyfyngiadau symud y gwnaethom oll eu hwynebu am gyfnodau hir yn 2020 a 2021. Dr Dawn Knight o’r Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth sy’n arwain y gwaith o ran y Brifysgol. Roedd hefyd yn wych gweld Hanner Marathon Caerdydd yn dychwelyd tua diwedd y mis. Dyma ddigwyddiad yr ydym wedi’i noddi ers nifer o flynyddoedd. Roeddwn i’n arfer rhedeg y pellter hwn fy hun ac rwy’n deall yn llwyr y manteision iechyd enfawr a ddaw yn sgîl y gweithgaredd hwn, drwy fynd ati mewn modd synhwyrol. Fe gymerodd ein Dirprwy Is-Ganghellor ran yn y ras yn ogystal â llawer o’n staff a’n myfyrwyr eraill, gan godi dros £60,000 (hyd yma). Felly, diolch o galon i bob un ohonynt ac i bob un ohonoch chi a wnaeth eu noddi a’u cefnogi.

I droi at faterion eraill, mae’n bleser gen i ddweud bod ein hadeilad arloesedd newydd, sbarc | spark wedi agor. Mae’n adeilad hardd gyda chaffi gwych sydd ar agor i’r cyhoedd. Mae hefyd yn gartref addas dros ben ar gyfer yr holl waith yr ydym yn ymgymryd ag ef ym maes y gwyddorau cymdeithasol sydd er budd y cyhoedd. Dyma ein prif ganolfan ar gyfer arloesedd o bob math, ac mae’n gwireddu ein gweledigaeth o ran sicrhau bod arloesedd yn rhywbeth sy’n digwydd ar draws y campws, ac yn deillio o’r cydadwaith rhwng syniadau, pobl a chyfleusterau. I fod yn glir, dylunio cynhyrchion a thechnolegau newydd yw hanfod arloesedd, fel y daw i’r amlwg yn y Ganolfan Ymchwil Drosi drws nesaf fydd yn agor cyn bo hir. Fodd bynnag, bydd cynhyrchion newydd yn cael eu defnyddio gan bobl ac yn y gymdeithas. Mae llwyddiant arloesedd yn dibynnu ar yr agweddau cymdeithasol sy’n gysylltiedig â’r maes ac o ran polisïau, a bydd sbarc | spark yn cynnig sail i hynny.  Mae’n werth galw heibio os ydych yn yr ardal, neu hyd yn oed fynd yno’n unswydd i’w weld drosoch eich hun.

Dim ond pwynt cyflym am ein gweithgareddau rhyngwladol: yn rhan o’n partneriaeth â Phrifysgol Waikato, rydym wedi lansio Cronfa Sbarduno Cydweithredu Rhyngwladol, ac rwyf yn eich annog i wneud cais. Mae wedi bod mor galonogol gweld sut y bu’n bosibl dyfnhau a chryfhau’r bartneriaeth hon, hyd yn oed yn ystod yr amser pan nad oedd modd cwrdd wyneb yn wyneb oherwydd COVID-19. Erbyn hyn, nawr yw’r amser i wneud trefniadau i gydweithio mewn ffordd a fyddai wedi gallu digwydd cyn-covid, yn ogystal â manteisio ar bopeth rydyn ni wedi’i ddysgu am gydweithio o bell.

Yn olaf, mae Ramadan yn dechrau fis nesaf, a hoffwn ofyn i chi gynorthwyo’r rhai sy’n dilyn y cyfnod pwysig hwn yn y calendr Islamaidd, o fewn y Brifysgol a thu hwnt. Mae Ramadan – un o Bum Piler y Ffydd Islamaidd – yn fis sanctaidd o weddïo a hunanfyfyrio, ac mae Mwslimiaid yn cael eu hannog i ddarllen y Qur’an cyfan. Bydd yn dechrau ddydd Sadwrn 2 Ebrill 2022 a daw i ben gydag Eid-al-Fitr, neu Ddathliad Dod â’r Ympryd i Ben, ar 1 Mai. Mae’n bosibl y bydd cydweithwyr neu fyfyrwyr yn newid eu horiau gweithio/astudio er mwyn cael cyfle i wneud rhagor o ddarllen, gweddïo neu addoli. Bydd y rhai sy’n dilyn Ramadan yn ymprydio bob dydd hefyd o doriad gwawr hyd fachlud haul. Mae hyn yn cynnwys peidio ag yfed hylifau neu ysmygu, yn ogystal â pheidio â bwyta. Gall ymprydio effeithio ar bobl mewn gwahanol ffyrdd, felly cofiwch fod yn sensitif i hyn. Rwy’n cofio o ddyddiau fy mhlentyndod yn Bahrain pa mor bwysig yw Ramadan. Mae’n fis o fyfyrio yn hytrach na hunanatal arwynebol yn unig, gyda phwyslais ar osgoi dadl a malais, yn ogystal â hyrwyddo gweithredoedd da. Gall pob un ohonom chwarae ein rhan trwy ddeall a chefnogi’r rhai a allai fod yn cymryd rhan.

Dymuniadau gorau

Colin Riordan
Is-Ganghellor