Skip to main content

Newyddion Aelodau’r Bwrdd

Diogelwch, lles, gorchuddion wyneb, sgiliau astudio

1 Tachwedd 2021
Claire Morgan

Darllenwch neges gan Claire Morgan, Rhag Is-Ganghellor, Addysg a Phrofiad y Myfyrwyr a anfonwyd ar 1 Tachwedd.

Annwyl Fyfyriwr

Gobeithio eich bod yn cadw’n dda ac yn mwynhau’r flwyddyn academaidd newydd. Mae’n wych gweld y campws yn brysur a chymaint ohonoch yn defnyddio ein hadeilad newydd, Canolfan Bywyd y Myfyrwyr. Rwy’n siŵr y bydd pob un ohonom yn cael budd o gyfleusterau gwych yr adeilad trawiadol hwn.

Rwy’n gwybod y bydd llawer ohonoch yn poeni ar ôl clywed sôn am ddiodydd yn cael eu sbeicio a phobl yn cael eu sbeicio drwy bigiad yng Nghaerdydd a thu hwnt. Gwnaethom ni, ynghyd â’n partneriaid yn y ddinas, wneud datganiad ar y cyd yr wythnos ddiwethaf i’w gwneud yn glir bod gwneud y fath pethau’n anghyfreithlon, yn ogystal ag yn wrthun. Rwy’n annog unrhyw un sy’n credu eu bod wedi’u sbeicio mewn unrhyw ffordd i gysylltu â’r heddlu. Nid oes lle i drais a cham-drin ar ein campws. Os ydych chi wedi profi unrhyw un o’r pethau hyn, cysylltwch â’n Tîm Ymateb i Ddatgeliadau i gael cymorth. Os ydych yn dymuno gwneud cwyn ffurfiol am ymddygiad myfyriwr, gallwch wneud hynny trwy ddilyn ein Gweithdrefn Cwyno Myfyrwyr.

Ydych chi’n iawn?

Gall bod yn fyfyriwr fod yn anodd ar adegau, ac rydym yn cynnig amrywiaeth o gymorth. Beth bynnag rydych yn ei wynebu, mae mewnrwyd y myfyrwyr yn rhoi arweiniad, manylion cyswllt a manylion digwyddiadau a all helpu.

Os nad yw eich profiad o’r brifysgol hyd yma wedi cyflawni eich disgwyliadau, am ba reswm bynnag, gallwch gysylltu â’r gwasanaeth Cyswllt Myfyrwyr. Bydd yn eich rhoi mewn cysylltiad â’r staff a all gynnig cymorth a chyngor.

Ar yr adeg hon o’r flwyddyn, rydym yn gwybod y gall rhai ohonoch ystyried gadael y brifysgol. Os ydych chi’n ystyried gwneud hyn, rwy’n eich annog i gysylltu â’ch Tiwtor Personol a cheisio cyngor gan y tîm Bywyd Myfyrwyr a/neu dîm cyngor a chymorth Undeb y Myfyrwyr cyn gwneud penderfyniad.

Yn yr un modd, os ydych yn meddwl eich bod yn gwneud y cwrs anghywir neu am newid y modiwlau rydych yn eu gwneud, mae opsiynau ar gael i chi. Unwaith eto, rwy’n argymell eich bod yn trafod eich opsiynau gyda ni cyn gwneud unrhyw newidiadau.

Os bydd angen i chi ddelio ag amgylchiadau difrifol, eithriadol, annisgwyl neu anochel sy’n codi tua’r un adeg â’r cyfnod asesu ac sy’n cael effaith ar eich gwaith, mae gennym bolisi Amgylchiadau Esgusodol. Os byddwch wedi dilyn y polisi hwn yn y gorffennol, sicrhewch eich bod yn ei ddarllen eto, gan ei fod wedi’i newid yn ddiweddar.  Os byddwch yn gwneud datganiad, mae’n bwysig nad ydych yn gwneud hyn mwy nag unwaith, gan y gall arwain at oedi wrth brosesu eich cais.

Gorchuddion wyneb

Cofiwch nad yw COVID-19 wedi diflannu. Mae perygl o hyd i’r feirws gael ei drosglwyddo. Mae’n rhaid i bob un ohonom chwarae ein rhan i’w atal rhag lledaenu, ac un o’r ffyrdd gorau o wneud hyn yw drwy wisgo gorchudd wyneb. Gan fod mwy a mwy o fyfyrwyr yn cael eu haddysgu wyneb-yn-wyneb, mae’n bwysig bod pob myfyriwr yn gwisgo gorchudd wyneb (oni bai ei fod wedi’i eithrio rhag gwneud hynny) mewn ystafelloedd addysgu, labordai a gweithdai, llyfrgelloedd ac wrth symud o gwmpas Canolfan Bywyd y Myfyrwyr, caffis a mannau cyhoeddus eraill ar y campws.

Hunanynysu

Hoffwn fachu ar y cyfle i’ch atgoffa fod Llywodraeth Cymru yn ddiweddar wedi newid ei chanllawiau ar hunanynysu. Mae’r canllawiau newydd yn nodi: ‘Gofynnir i oedolion sydd wedi’u brechu’n llawn a phlant a phobl ifanc rhwng pump a 17 oed hunanynysu nes eu bod wedi cael prawf PCR negyddol os oes gan rywun yn eu haelwyd symptomau neu brofion cadarnhaol am Covid-19.’ Gallwch ddefnyddio ein Gwasanaeth Sgrinio mewnol achrededig at y diben hwn os dymunir, neu gallwch chi fynd i ganolfan brofi’r GIG fel yr un ar Faes yr Amgueddfa.

Cael cymorth sgiliau astudio

Dylech edrych ar yr adnoddau astudio sydd ar gael, os nad ydych wedi gwneud hynny’n barod. Rydym yn eu diweddaru’n barhaus drwy sôn am ddysgu digidol a thechnegau astudio, sut i ddod o hyd i wybodaeth academaidd a’i gwerthuso’n feirniadol, sut i ysgrifennu a chyfeirnodi, cymorth mathemateg ac ystadegaeth, cymorth iaith Saesneg a sgiliau astudio academaidd. Bydd y timau sy’n creu’r adnoddau hyn yn cynnal digwyddiad ar-lein ar 3 Tachwedd. Byddwn yn eich cynghori i achub ar y cyfle hwn i gyfarfod â nhw a chael gwybod sut y gallwch wella eich dysgu.

Llywiwch eich cwrs

Mae’n bleser gennyf gyhoeddi ein bod yn lansio ein System Gwella Modiwlau newydd y semester hwn. Mae gofyn eich barn am fodiwl yn un ffordd o wrando arnoch yma yn y Brifysgol. Mae eich adborth yn bwysig dros ben i’n helpu i ddeall eich profiad a gwella ein haddysgu. Helpwch ni drwy gwblhau’r arolwg a fydd ymddangos fel hysbysiad ar Ddysgu Canolog.

Graddio

Er bod graddio fel pe bai’n bell i ffwrdd i rai ohonoch, gallwn gadarnhau y bydd y rhai ohonoch sydd i fod i raddio yn 2022 yn gwneud hynny yn un o leoliadau eiconig y ddinas, Stadiwm Principality. Gobeithio bod y rhai ohonoch yn eich blwyddyn olaf yn edrych ymlaen at y digwyddiad dathlu unigryw hwn.

Dymuniadau gorau,

Claire Morgan
Rhag Is-Ganghellor Addysg a Phrofiad Myfyrwyr