Newyddion yr Is-Ganghellor

Mesurau COVID-19, Stonewall, gwrth-hiliaeth

Darllenwch neges a anfonodd yr Is-Ganghellor at yr holl staff heddiw (29 Hydref 2021).

Annwyl gydweithiwr

Er bod y rhaglen frechu wedi sicrhau ein bod mewn sefyllfa llawer gwell na’r sefyllfa yr adeg hon y llynedd, rwyf yn cydnabod bod llawer o gydweithwyr yn parhau i wynebu heriau hynod anodd gartref ac yn y gwaith. Mae nifer o bobl wedi dweud eu bod yn teimlo fel pe bai’r flwyddyn academaidd hon wedi llifo fwy neu lai’n syth o’r un flaenorol a bod unrhyw wyliau haf a gafwyd yn ymddangos eisoes yn atgof pell i rai. Er gwaethaf y gwelliannau felly, a ninnau’n sefydliad ac yn gydweithwyr sy’n gweithio gyda’n gilydd, mae COVID-19 yn parhau i effeithio arnom eleni, a bydd y gwaith o flaenoriaethu myfyrwyr ac addysgu yn parhau i ofyn cryn dipyn gennym.

Credaf fod llawer ohonom wedi ein synnu gan yr awydd cryf y mae nifer fawr o’n myfyrwyr wedi ei fynegi i gael cymaint o addysgu wyneb yn wyneb â phosibl, ond efallai na ddylem fod wedi ein synnu felly. Bid a fo am hynny, er bod modd inni gydnabod manteision addysgegol clir rhai mathau o addysgu sy’n cael eu cynnal ar-lein (natur ryngweithiol a chynwysoldeb dosbarthiadau fideo cydamserol yn ogystal â’r hyn yr ydym wedi’i ddysgu am ddysgu annibynnol dan arweiniad, er enghraifft), mae’n amlwg nad yw pob un o’n myfyrwyr o’r un farn. Yr her, felly, yw cynnal dull cyfunol sy’n cadw manteision dulliau amrywiol o gyflwyno addysg, gan argyhoeddi pawb sy’n gysylltiedig â hyn ei bod yn bosibl bod dull o’r fath yn well na’r dull traddodiadol o gynnal popeth wyneb yn wyneb, neu’r dull a orfodwyd arnom oherwydd Covid (sawl tro, am gyfnodau dros dro yn unig) pan gynhaliwyd popeth ar-lein. Oherwydd hynny, mae’n hynod bwysig nad ydym yn creu mwy o waith inni ein hunain ac, ni waeth beth fo’r model cyfunol, y gellir ei gyflawni’n ddiogel tra bod y coronafeirws yn fygythiad o hyd. Yn anad dim, mae’n rhaid iddo ddiwallu anghenion pawb, yn addysgol o ran y myfyrwyr ac o ran gallu’r staff i gyflawni hyn.

Y newyddion da yw bod y mwyafrif helaeth o’n myfyrwyr bellach wedi cael eu brechu. Mae 95% o’n myfyrwyr bellach wedi cwblhau’r broses ymrestru, ac yn sgîl hynny, ymatebodd 87% i gwestiynau am eu statws brechu, a dim ond 3% ohonynt yr oedd yn well ganddynt beidio â datgelu eu statws. O’r rheiny a wnaeth hynny, mae 86% wedi cael un dos o’r brechlyn ac mae 82% wedi cael dau ddos, a bydd y rhain wedi cael y brechlynnau ar ôl y grwpiau oedran hŷn eu cael, wrth reswm. Gallwn ddisgwyl i’r nifer hwnnw gynyddu wrth i’r ail ddos gael ei roi. Rydym hefyd yn cynnig y cyfle i fyfyrwyr rhyngwladol gael brechlyn atgyfnerthu (os nad yw eu brechlyn wedi cael ei gydnabod yn y DU), ac wrth gwrs bydd unrhyw fyfyriwr nad yw wedi cael ei frechu yn cael y cynnig yn gynnar i gael dos cyntaf. Mae effeithiau hyn yn amlwg. Ar adeg ysgrifennu hyn (26 Hydref) y cyfartaledd treigl o ran heintiau newydd ymhlith ein myfyrwyr a gadarnhawyd yn sgîl profion newydd y GIG yn ystod cyfnod o saith diwrnod yw pedwar; ar yr un diwrnod y llynedd 38 oedd y nifer. Eleni mae gennym 48 o fyfyrwyr sy’n hunanynysu am wahanol resymau sy’n gysylltiedig â COVID-19; y ffigur cyfatebol yn 2020 oedd 1,590. Felly, nid ydym yn wynebu’r cynnydd sydyn a dramatig yn nifer yr heintiau a’r myfyrwyr sy’n hunanynysu ag a gafwyd yn 2020, er bod cyfleusterau cymdeithasol a chyfleusterau eraill gan gynnwys clybiau nos ar agor ac yn cael eu defnyddio (o ystyried hefyd fod pasiau COVID y GIG ar waith). Ymddengys bod y dystiolaeth yn awgrymu mai plant oedran ysgol yw’r rheswm pennaf dros nifer yr heintiau yn y gymuned, ac mewn rhai achosion mae rhieni’n dal COVID-19 yn sgîl hyn. Gwn fod hyn yn cael effaith ar nifer o’n staff, ac rwyf yn cydymdeimlo â chi (rwyf yn edmygu’n fawr iawn ddewrder y bobl hynny sydd wedi bod yn gofalu am blant oedran ysgol drwy gydol y pandemig). Fodd bynnag, mae’n bwysig nodi, fel y llynedd, nad ydym yn gweld arwyddion a fyddai’n awgrymu bod yr haint yn cael ei drosglwyddo mewn lleoliadau addysgu yn y Brifysgol.

Hoffwn fachu ar y cyfle i’ch atgoffa fod Llywodraeth Cymru yn ddiweddar wedi newid ei chanllawiau ar hunanynysu. Mae’r canllawiau newydd yn nodi: ‘Gofynnir i oedolion sydd wedi’u brechu’n llawn a phlant a phobl ifanc rhwng pump a 17 oed hunanynysu nes eu bod wedi cael prawf PCR negyddol os oes gan rywun yn eu haelwyd symptomau neu brofion cadarnhaol am Covid-19.’ Gall staff Caerdydd ddefnyddio ein Gwasanaeth Sgrinio mewnol achrededig at y diben hwn os dymunir, neu wrth gwrs gellid mynd i ganolfan brofi’r GIG fel yr un ar Faes yr Amgueddfa.

Hoffwn hefyd atgoffa pawb bod yn rhaid gwisgo gorchudd wyneb ym mhob ardal yn y Brifysgol y mae gan y cyhoedd fynediad iddi ac mewn dosbarthiadau, er bod modd tynnu’r gorchudd wrth siarad i helpu pobl i ddeall ei gilydd. Caiff aelodau’r staff atgoffa myfyrwyr o’r gofyniad hwn, er y bydd rhai myfyrwyr wedi’u heithrio hwyrach a dylai’r rhain fod yn barod i nodi hynny os bydd angen. Mae gwisgo masg yn elfen bwysig o ran atal y feirws rhag ymledu ac mae cyfleu’r neges hon yn bwysig. Ar nodyn cysylltiedig, rydyn ni’n edrych yn ofalus iawn ar y cyfleoedd i wella ein gallu i gynnig addysgu wyneb yn wyneb ar ôl y Nadolig drwy ganiatáu mwy o bobl mewn darlithfeydd y mae’r niferoedd yn gyfyngedig ar eu cyfer ar hyn o bryd, o gofio bod y modelu’n dangos gostyngiad serth posibl yng nghyfradd yr heintiau. Bydd yr un peth yn berthnasol hwyrach hefyd yn achos ystafelloedd cyfarfod.  Mae hyn oll yn rhagdybio na fydd amrywiolyn newydd a fyddai’n amharu’n sylweddol ar y cyfeiriad cyffredinol y mae’r modelau yn ei ddangos. Unwaith y bydd y gwaith hwn yn barod, byddwn yn sicrhau bod pawb yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf.

Ar bwnc y myfyrwyr o hyd, byddwch yn gwybod am yr achosion annymunol a gadarnhawyd o sbeicio diodydd sydd ar led, a’r adroddiadau mwy annymunol fyth o sbeicio diodydd drwy chwistrellu. Mae pob un o’r tair prifysgol yng Nghaerdydd, ynghyd â Chyngor Dinas Caerdydd a Heddlu De Cymru, yn unfryd ein barn wrth gondemnio’r gweithredoedd troseddol gwrthun hyn, ac maent wedi cyhoeddi datganiad ar y cyd i gefnogi ein myfyrwyr. Rydym yn gweithio’n agos gydag Undeb y Myfyrwyr yn y Brifysgol ynghylch y mater hwn, ac yn ddiweddar cyfarfûm, yng nghwmni’r is-gangellorion eraill, ag Arweinydd Cyngor Caerdydd a’i gydweithwyr i gadarnhau ein hymrwymiad i’r Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol, sy’n cynnwys Heddlu De Cymru, ac i drafod sut y gallwn gydweithio’n fwy effeithiol i gadw Caerdydd yn ddiogel.

Gan symud ymlaen i faterion pwysig eraill, efallai y byddwch yn cofio fy mod, yn fy ebost ym mis Mehefin, wedi cyfeirio at nifer o lythyrau agored a gafwyd mewn perthynas â’r elusen LHDTC+ Stonewall. Yn yr ebost hwnnw dywedais y byddem yn cynnig cyfleoedd i’r gwahanol grwpiau drafod eu pryderon, a chynhaliwyd gennym gyfres o ddigwyddiadau i ganiatáu i hynny ddigwydd.

Un agwedd drawiadol ar y digwyddiadau hyn oedd bod aelodau ym mhob un o’r grwpiau a oedd yn teimlo eu bod wedi cael cam, ac weithiau eu bod hefyd yn teimlo’n anniogel o ganlyniad i’r safiad yr oeddynt wedi’i gymryd. Roedd rhai’n teimlo nad oeddynt yn cael eu cefnogi’n ddigonol, a/neu eu bod yn wynebu anawsterau gyrfaol neu ryngbersonol a oedd ond wedi codi oherwydd y materion hyn. Rwyf am bwysleisio y bydd y Brifysgol yn cynnig cymorth i bob aelod o staff a phob myfyriwr sy’n wynebu anawsterau o’r math hwn, gan wybod bod cryn hollti barn wedi bod yn y drafodaeth hon yn y gymdeithas yn ehangach. Mae’r pwnc yn ennyn teimladau cryf ac nid yw cylch dylanwad y Brifysgol yn ymestyn i bob maes y mae’r pwnc hwn hwyrach yn effeithio arno. Fodd bynnag, dylai unrhyw un y mae angen cymorth arno neu sy’n teimlo’n anniogel gysylltu â’i reolwr llinell, neu â chydweithiwr o Adnoddau Dynol yn uniongyrchol os yw’n well ganddo, a dylai fod yn dawel ei feddwl y byddwn yn ymgymryd â’n dyletswydd i ofalu pob aelod o’n cymuned.

Er bod y trafodaethau’n deillio o lythyr cychwynnol am ein perthynas â Stonewall, cytunodd pob un o’r grwpiau fod y materion dan sylw yn ddyfnach eu natur na phwnc ein cysylltiad â sefydliad penodol. Yn ystod yr haf, mae pynciau sy’n ymwneud â hunaniaeth rhywedd, rhyw biolegol, hawliau a’r gyfraith wedi bod yn destun cryn ddadlau cythryblus ar gampysau prifysgolion a thu hwnt. Fy mlaenoriaeth yw sicrhau y gall Prifysgol Caerdydd chwarae ei rhan yn y drafodaeth honno mewn ffyrdd sy’n sicrhau diogelwch pawb sy’n cymryd rhan tra’n cynnal ac yn hyrwyddo’r rhyddid i lefaru y tu fewn i’r gyfraith.

Gadewch imi fod yn gwbl glir. Rydym yn ddiamwys yn ein cefnogaeth i bobl drawsryweddol, sydd â’r hawl ddiymwad i deimlo’n ddiogel, eu bod yn cael eu cefnogi a’u bod yn gallu mynegi eu hunain yn y Brifysgol hon, ac i fwynhau’r cyfleoedd y mae Prifysgol Caerdydd yn eu cynnig i bawb, yn rhydd a heb ofn. Rydym yn falch bod Prifysgol Caerdydd yn cael ei hystyried yn noddfa ddiogel ar gyfer aelodau o’r gymuned LHDTC+. Nid ydym yn credu bod cynnig ein diogelwch a’n cefnogaeth i’r gymuned hon yn nacáu nac yn lleihau’r diogelwch a ymestynnwn i hawliau pobl eraill. Rydym yn diogelu ac yn cynnal hawl pob aelod o’n cymuned i fynegi ei hun yn rhydd a heb ofn, waeth beth fo’i farn o fewn y gyfraith, ac os bydd unrhyw un o’r farn bod ei hawliau’n cael eu torri, byddwn yn mynd i’r afael â’i broblemau ac yn ei gefnogi.

O ran y mater a godwyd gan y llythyr gwreiddiol, mae Stonewall wedi chwarae rhan bwysig wrth inni fynd ati’n barhaus i ddatblygu cymuned lle bydd pobl LHDTC+ yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi ac yn gallu ffynnu’n academaidd ac yn gymdeithasol. Felly, byddwn yn parhau â’n perthynas â Stonewall. Nid yw’r un sefydliad allanol yn gosod amodau polisïau’r Brifysgol; er ein bod yn defnyddio adnoddau Stonewall, rydym hefyd yn defnyddio adnoddau sefydliadau eraill, ac yn y modd hwn rydym yn datblygu polisïau sy’n seiliedig ar dystiolaeth ac mor gytbwys â phosibl.

Rwyf yn datgan unwaith eto ein hymrwymiad llwyr i’r rhyddid i lefaru. Mae sefydliadau academaidd yn ffynnu ar gyfnewid, dadlau a gwrthod syniadau, a byddwn yn parhau i ddiogelu’r hawl i fynegi, dadlau a herio barn o fewn y gyfraith. Rydym wedi gwneud penderfyniadau anodd yng Nghaerdydd yn y gorffennol. Rai blynyddoedd yn ôl, gwnaethom wrthsefyll deiseb i atal Germaine Greer rhag rhoi darlith (nid ar faterion trawsryweddol) o’r enw ‘Menywod a Grym: Gwersi’r 20fed Ganrif.  Cafwyd protest heddychlon ond aeth y ddarlith yn ei blaen heb broblemau, ac er bod rhai yn ein cymuned wedi mynegi eu syndod a’u pryder, roeddem yn teimlo mai’r peth iawn oedd rhoi’r cyfle i bobl fynegi eu barn, ac yn ei dro i’r farn honno gael ei herio’n gadarn. Fel yn yr achos hwnnw, mae’n rhaid i unrhyw her o’r fath ddigwydd yng nghyd-destun dadl wâr, ac ni oddefir defnyddio bygythiadau.

Gan barhau â phwnc dadlau a thrafod, cynhelir nifer o ddigwyddiadau sy’n rhan o Fis Hanes Pobl Dduona hoffwn dynnu eich sylw’n enwedig at lansio cyfres newydd o sgyrsiau ar-lein a fydd yn parhau yn ystod yr ychydig o flynyddoedd nesaf, gan sicrhau nad yw’r pynciau hyn ond yn digwydd yn ystod tymor yr hydref. Mae’r gyfres ar-lein o’r enw ‘Trafod Gwrth-hiliaeth’ yn dwyn ynghyd arbenigwyr yn ein Hysgolion academaidd, yng nghwmni siaradwyr gwadd arbenigol, i hyrwyddo trafodaethau pwysig ar hil. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf rwyf wedi dysgu llawer am y broses o gydnabod a thrafod hiliaeth, a sut i roi’r ddealltwriaeth newydd sy’n digwydd yn sgîl y trafodaethau hynny ar waith, a bydd hyn yn caniatáu inni wneud cynnydd go iawn. Yr oedd y digwyddiad lansio, yr oeddwn wrth fy modd yn ei gadeirio, yn drafodaeth hynod o ddiddorol rhwng yr arbenigwraig ar wrth-hiliaeth Nova Reid, siaradwraig yng nghyfres TED, entrepreneur ac awdur The Good Ally, a Matt Williams, Athro Troseddeg a Chyfarwyddwr y Labordy Gwrth-Gasineb ac awdur The Science of Hate. Roedd y sgwrs a’r sesiwn holi ac ateb a ddilynodd yn gyfuniad cyffrous o wybodaeth, dadansoddiadau ac arweiniad ar sut i fynd i’r afael â gwrth-hiliaeth a bod yn gynghreiriad dda, fel yr awgryma teitl llyfr Nova. Cafodd y digwyddiad dderbyniad da iawn, ymunodd llawer o bobl â’r sesiwn, gan osod y safon ar gyfer y gyfres i gyd a fydd, yn fy marn i, yn parhau i ddenu cynulleidfaoedd rhagorol.

O ran hiliaeth a gwrth-hiliaeth, yn ôl yn 2016 gofynnais i’r Athro Dinesh Bhugra o Goleg y Brenin Llundain gynnal ymchwiliad i ddigwyddiad hiliol trallodus a oedd yn ymwneud â myfyrwyr ym Mhrifysgol Caerdydd. Casglodd banel o arbenigwyr a gyflwynodd adroddiad yn 2017. Derbyniasom yr argymhellion yn llawn ac rydym wedi bod yn eu rhoi ar waith ers hynny. Nid yw’r ffordd ymlaen bob amser wedi bod yn esmwyth, ac er ein bod wedi gwneud llawer o gynnydd  mae’n rhaid inni wella o hyd mewn nifer o feysydd. Yng ngoleuni hynny, yn gynharach eleni, cytunodd yr Athro Bhugra yn garedig i gynnal adolygiad ychwanegol i asesu ein cynnydd a gwneud unrhyw argymhellion angenrheidiol. Mae’r adolygiad hwnnw bellach wedi’i gwblhau ac mae Bwrdd Gweithredol y Brifysgol wedi cael y cyfle i’w ystyried. Rydym wedi derbyn yr argymhellion yn llawn a byddwn yn cyhoeddi’r adroddiad a’n hymateb rheoli iddo yn ystod y dyddiau nesaf, felly cadwch lygad amdanynt.

Gan droi at faterion ehangach, roedd cyllideb llywodraeth y DU a chanlyniad yr Adolygiad Cynhwysfawr o Wariant yn cynnwys llawer o newyddion da (er nad yn gwbl ffafriol) i’r prifysgolion. O ran ymchwil, mae sicrwydd bellach ynghylch yr arian ar gyfer ein cyfranogiad yn Horizon 2020, neu offeryn arall yn y DU os bydd yr anghydfod ynghylch Protocol Gogledd Iwerddon yn parhau heb ei ddatrys am gyfnod hir. Cadarnhawyd ymrwymiad y llywodraeth i gynnydd sylweddol o un flwyddyn i’r llall o ran ymchwil, er bod y targed yn y pen draw o £22bn y flwyddyn wedi’i ymestyn am ddwy flynedd arall. Serch hynny, croesewir yr ymrwymiad i £20bn o gyllid y llywodraeth erbyn diwedd cyfnod tair blynedd yr Adolygiad Cynhwysfawr o Wariant, yn ogystal â’r penderfyniad (y dadleuodd Grŵp Russell yn gryf drosto) i broffilio’r gwariant fel y byddai’r manteision yn digwydd yn gynharach na’r hyn a gynlluniwyd yn wreiddiol. Y tu hwnt i ymchwil, roedd yn ddefnyddiol iawn cael y cadarnhad y bydd  cynllun Turing sy’n ymwneud â symudedd allanol myfyrwyr yn cael ei ariannu yn ystod y tair blynedd nesaf (£110m eleni), ond yn llai defnyddiol felly i gael gwybod y bydd ymateb y llywodraeth i’r cynigion i ddiwygio’r system cymorth i fyfyrwyr a chyllid i’r prifysgolion yn Lloegr ar sail adroddiad Augar yn mynd i gael ei ohirio unwaith eto. Felly, mae’r ansicrwydd ynghylch sgil-effeithiau hyn i Gymru yn parhau, er y bydd y cynnydd o leiaf mewn gwariant cyhoeddus yn Lloegr o fudd i Gymru drwy fformiwla Barnett, gan godi’r dyraniad i Lywodraeth Cymru i £18bn y flwyddyn. Mae llawer mwy yn y gyllideb wrth gwrs — nad yw’n newyddion da i aelwydydd, yn enwedig i unigolion a theuluoedd ar incwm isel — ond byddaf yn dychwelyd at y materion hyn yn y dyfodol yn ôl yr angen.

Llongyfarchiadau o fewn y Brifysgol i brosiect Treftadaeth Caer, un o’n prosiectau cymunedol mwyaf llwyddiannus, dan arweiniad Dr Dave Wyatt a Dr Oliver Davis yn yr Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd mewn partneriaeth â Gweithredu yng Nghaerau a Threlái, ysgolion lleol,  trigolion a phartneriaid treftadaeth. Ddiwedd y mis diwethaf agorodd y Prif Weinidog Ganolfan Treftadaeth Gymunedol y Fryngaer Gudd yn swyddogol (sef ailddatblygiad o hen Neuadd Efengylu yn Heol yr Eglwys yn Nhrelái), a gafodd gyllid o £650,000 gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol. Bydd y Ganolfan yn ganolbwynt ar gyfer gweithgareddau dan arweiniad y gymuned, gan gynnwys archwiliadau archeolegol ar y cyd. Camp sylweddol iawn o gydweithio yw’r Ganolfan sydd, mewn rhai ffyrdd, yn teimlo fel penllanw ymdrech blynyddoedd o waith, ond y gwir amdani yw mai’r dyma gychwyn dyfodol gwych newydd ym maes gweithredu a chydweithio cymunedol yn yr ardal.

Rwyf hefyd eisiau estyn llongyfarchiadau gwresog i’r Athro Rachel Ashworth a holl aelodau Ysgol Busnes Caerdydd yn sgîl sicrhau achrediad llwyddiannus gan Gymdeithas y Meistri MBA (AMBA). Penllanw llawer iawn o waith yw’r achrediad mewn gwirionedd ac yn garreg filltir hynod o bwysig yn hanes yr Ysgol. Gallwn fod yn falch iawn o Ysgol Busnes y Brifysgol a’i hethos arbennig ym maes Gwerth Cyhoeddus, a bydd yr anrhydedd haeddiannol hwn yn ychwanegu’n sylweddol at ei phroffil cyhoeddus sydd eisoes yn destun cryn glod.

Yn olaf, hoffwn groesawu’n wresog iawn i Gaerdydd Gadeirydd newydd y Cyngor, Pat Younge, cyn-Lywydd Undeb Myfyrwyr y Brifysgol (1985) a chyn Is-lywydd UCM. Mae Pat yn ein hadnabod yn dda, a bydd ei lwyddiant ysgubol yn niwydiant y cyfryngau dros gyfnod o flynyddoedd lawer o fudd mawr inni wrth iddo arwain ein corff llywodraethu tuag at ddyfodol sydd mor ansicr ag erioed. Mae Pat yn cymryd yr awenau oddi wrth yr Athro Stuart Palmer ar 1 Ionawr, a hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch yn ddiffuant i Stuart am bopeth y mae wedi’i wneud dros y Brifysgol yn ystod ei gyfnod yn Gadeirydd.

Dymuniadau gorau

Colin Riordan
Is-Ganghellor