Skip to main content

Newyddion Aelodau’r Bwrdd

Y flwyddyn academaidd newydd (1 o 3 ebost)

13 Medi 2021
Claire Morgan

Darllenwch neges gan Claire Morgan, Rhag Is-Ganghellor Addysg a Myfyrwyr a anfonwyd ar 13 Medi.

Annwyl Fyfyriwr

Rwy’n gobeithio eich bod yn cadw’n iawn a’ch bod wedi mwynhau gwyliau’r haf.

Mae’r flwyddyn academaidd newydd yn prysur agosáu a gan fod rhai ohonoch chi eisoes ar y campws, ac eraill ar fin dod aton ni neu’n paratoi ar gyfer astudio o bell, hoffwn i estyn croeso cynnes i bob un ohonoch chi gan ddymuno’r gorau ichi ar gyfer y flwyddyn i ddod.

Fel eich Rhag Is-Ganghellor dros Addysg a Phrofiad Myfyrwyr, bydda i mewn cysylltiad â chi drwy gydol y flwyddyn i roi’r wybodaeth ddiweddaraf am bynciau pwysig sy’n effeithio ar eich bywyd academaidd a bywyd myfyrwyr yn gyffredinol. Yn ogystal â chael fy negeseuon ebost, bydd y tîm cyfathrebu â myfyrwyr hefyd yn anfon y newyddion  diweddaraf atoch chi fydd yn tynnu sylw at y gwasanaethau, y gefnogaeth, y digwyddiadau a’r cyfleoedd sydd ar gael ichi. Ar ben hynny, bydd eich ysgol yn cysylltu â chi i roi gwybodaeth sy’n benodol i’ch ysgol a’ch rhaglen astudio.

Bydda i’n anfon ebost atoch chi bob wythnos dros y tair wythnos nesaf (dyma’r cyntaf) fydd yn cynnwys gwybodaeth a thasgau hanfodol i’w cwblhau er mwyn rhoi’r dechrau gorau posibl ichi yn ystod y flwyddyn academaidd newydd a’ch helpu i wneud yn fawr o’ch bywyd fel myfyriwr. Mae’n hanfodol eich bod yn edrych ar eich ebyst yn rheolaidd.

Mae’r ebost cyntaf hwn yn nodi’r hyn y gallwch chi ei ddisgwyl a’r ffordd orau o baratoi ar gyfer yr astudiaethau o’ch blaen.

Effaith barhaus COVID-19

Mae Cymru yn parhau ar lefel rhybudd 0 ers fy ebost diwethaf, rhywbeth sydd i’w groesawu’n fawr, gan fod hyn yn rhoi mwy o ryddid a chyfleoedd inni o ran pob agwedd ar eich bywyd yn fyfyriwr. Fodd bynnag, ceir mesurau diogelwch pwysig sydd yn eu lle o hyd ac mae’n rhaid i bob un ohonon ni gefnogi’r rhain i gadw pawb yn ddiogel, oherwydd bydd hyn yn ein helpu ni i barhau ar lefel rhybudd 0.

Os bydd Llywodraeth Cymru yn newid y lefel rhybudd genedlaethol yn ystod y flwyddyn, byddwn ni’n asesu effaith hynny ar bob un ohonon ni, a byddwn ni’n gweithio’n agos gyda’ch ysgol a’r timau ar draws y Brifysgol i sicrhau mai eich diogelwch yw ein blaenoriaeth o hyd. Gallwch chi ddisgwyl clywed gennym os bydd unrhyw newidiadau.

Pan fyddwch yn astudio ar y campws, cofiwch:

Rwy hefyd yn ymwybodol o’r angen i rai ohonoch chi, yn enwedig y rhai ar ein rhaglenni sy’n gysylltiedig â maes Iechyd, gymryd mesurau diogelwch llymach a’ch bod yn gwneud hynny yn unol â’ch cwrs a’r cyfarwyddwyd gan eich Ysgol.

Gallwch ddarllen rhagor am y mesurau diogelwch ar ein tudalennau cyngor ac arweiniad ar y Coronafeirws (COVID-19), gan gynnwys:

  • Teithio i Gaerdydd o dramor – bydd gwybod y camau y mae’n rhaid ichi eu cymryd yn dibynnu ar y wlad y byddwch chi’n ymadael â hi.
  • Polisi Astudio o Bell – cefnogaeth os ydych chi’n wynebu heriau sy’n gysylltiedig â’r coronafeirws (COVID-19) yn y flwyddyn academaidd hon.
  • Ein hymrwymiad i’r gymuned – mae gan bob un ohonon ni ran i’w chwarae o ran cadw ein campws yn ddiogel i bawb – atgoffwch eich hun beth mae’r ymrwymiad hwn i’r gymuned yn gofyn gennych chi.

Paratoi ar gyfer eich astudiaethau

Mae tasgau hanfodol i’w cwblhau ar ddechrau pob blwyddyn i wneud yn siŵr eich bod yn cael y dechrau gorau posibl i’r flwyddyn.

Os ydych chi’n fyfyriwr newydd, byddwch chi eisoes wedi dechrau cael gwybodaeth gennym i’ch helpu wrth ichi bontio’r cyfnod rhwng yr ysgol a’r brifysgol.  Defnyddiwch y wybodaeth ar eich cyfer ar ein tudalennau gwe a’n rhaglen ymgyfarwyddo.

Os ydych chi’n fyfyriwr sy’n dychwelyd, dylech fod yn gyfarwydd â’r broses o ymuno â ni am flwyddyn newydd. Fodd bynnag, o ystyried pa mor wahanol oedd y flwyddyn academaidd ddiwethaf, gallai’r ddogfen ‘Paratoi ar gyfer y flwyddyn academaidd newydd‘  fod o ddefnydd i’ch atgoffa. Mae’r fewnrwyd yn parhau i roi gwybodaeth ichi am bob agwedd ar eich bywyd fel myfyriwr, felly defnyddiwch hi fel man cychwyn bob tro.

Yn olaf, yn ebost yr wythnos nesaf bydda i’n canolbwyntio ar y cyfleoedd a’r cymorth sydd ar gael i’ch helpu i ymgartrefu ym mywyd y brifysgol. Yn y cyfamser, os oes gennych chi gwestiynau, cysylltwch â Cyswllt Myfyrwyr.

Dymuniadau gorau,

Claire Morgan
Rhag Is-Ganghellor Addysg a Phrofiad Myfyrwyr