Newyddion yr Is-Ganghellor

Recriwtio myfyrwyr, blwyddyn academaidd newydd, Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr, cymorth rhyngwladol, Graddio

Darllenwch neges a anfonodd yr Is-Ganghellor at yr holl staff heddiw (31 Awst 2021).

Annwyl gydweithiwr

Er mai recriwtio myfyrwyr sy’n cael y prif sylw yn ystod mis Awst fel arfer, ni fydd y sefyllfa’n dod yn hollol glir nes yn hwyrach ymlaen ym mis Medi. Dyna pam na fyddaf yn anfon ebost mis Awst fel arfer, ac yn sôn am recriwtio yn rhifyn mis Medi yn lle hynny. Eleni, mae recriwtio’n stori fawr am resymau sydd y tu hwnt i’n rheolaeth mewn llawer o ffyrdd, ond nid dyna’r unig stori o bell ffordd. Er bod llawer ohonom yn cymryd seibiannau hynod haeddiannol yn ystod y cyfnod hwn, does dim egwyl i argyfyngau byd-eang megis argyfwng y ffoaduriaid yn Affganistan. Ar yr un pryd, mae problemau Covid a’r agweddau amrywiol at eu datrys yn mynnu ein sylw o hyd. Yn nes at adref, mae ein canlyniadau yn Arolwg Cenedlaethol y Myfyrwyr (NSS) eleni yn siomedig dros ben a dweud y gwir. Byddaf yn egluro hyn ymhellach nes ymlaen. Yng nghanol hyn i gyd, mae peth newyddion da, a byddaf yn sôn rhywfaint am Raddio hefyd.

Gan ddechrau gyda recriwtio, mae’r dulliau amgen sy’n parhau i gael eu defnyddio i asesu Safon Uwch ledled y DU wedi effeithio ar ein niferoedd yn sylweddol. Er nad yw rhai Ysgolion wedi llwyddo i fodloni eu targedau, mae Ysgolion eraill wedi gor-recriwtio’n aruthrol, i’r fath raddau fel ein bod wedi gorfod gwneud penderfyniadau ar frys a symud yn gyflym iawn i sicrhau bod modd rheoli’r niferoedd ychwanegol. Mae’r gor-recriwtio’n bennaf mewn pynciau penodol lle mae’r galw’n cynyddu’n gyffredinol, neu sydd wedi gweld cynnydd mawr eleni. Ymhlith y pynciau hynny mae’r Gyfraith, Troseddeg, Biowyddorau, Deintyddiaeth, Fferylliaeth, Seicoleg, Pensaernïaeth, Peirianneg a Chyfrifiadureg. Trefnais gyfarfod ychwanegol o Fwrdd Gweithredol y Brifysgol, gyda chyfranwyr o wasanaethau proffesiynol perthnasol, er mwyn ystyried cynllun sydd wedi cael ei ddatblygu’n gyflym iawn ers i ddimensiynau’r broblem ddod yn glir ddechrau mis Awst. Mae’n bosibl iawn y bydd 1,000 o fyfyrwyr israddedig ychwanegol dros y targed, yn fyfyrwyr cartref ac yn fyfyrwyr rhyngwladol. Er bod ansicrwydd o hyd ynghylch gallu myfyrwyr rhyngwladol i deithio, ac er nad yw’r niferoedd ôl-raddedig yn glir eto, bydd y niferoedd ychwanegol o israddedigion sydd wedi’u recriwtio yn golygu bod angen penodi 100 o staff newydd ar unwaith, a’r rhan fwyaf ohonyn nhw’n rhai academaidd. Mae hynny yn ôl yr amcangyfrifon diweddaraf ac efallai y bydd angen rhagor. Rhoddais ganiatâd i fynd ati i recriwtio staff ar unwaith yn yr achosion mwyaf brys, ond bydd gofynion eraill y tu hwnt i gael rhagor o staff. Bu cryn ymdrech wrth geisio dod o hyd i fannau a allai gael eu haddasu ar gyfer addysgu. Gyda lwc, bydd mannau addysgu newydd ar gael yng Nghanolfan Bywyd y Myfyrwyr fydd yn dechrau cael ei defnyddio yn yr wythnosau nesaf. Bydd mannau ar gael gan fod grwpiau ymchwil yn symud i’r Ganolfan Ymchwil Drosiadol ar Heol Maendy, a chan fod eraill yn symud i’n canolfan arloesedd newydd ar yr un safle – sbarc | spark. Rydym wedi ystyried y goblygiadau o ran TG a byddwn yn darparu offer, trwyddedau a chapasiti ychwanegol. Bydd y Llyfrgell hefyd yn gallu rhoi addasiadau angenrheidiol ar waith. Bydd rhagor o staff Cefnogi Myfyrwyr er mwyn i ni allu bodloni anghenion pob myfyriwr mewn meysydd megis iechyd meddwl, sgiliau astudio, lles, anableddau, cyngor ac arian. Y newyddion da yw bod gan Gaerdydd lawer o lety i fyfyrwyr, felly nid ydym yn disgwyl llawer o broblemau yn hynny o beth. Rydym yn cynllunio dros gyfnod o bum mlynedd, gan y bydd rhai o’r myfyrwyr hyn gyda ni am y cyfnod hynny o leiaf. Wrth i’r sefyllfa ddod yn fwy amlwg (bydd wastad rhai yn gadael) byddwn yn addasu yn ôl yr angen.

Mae’r holl waith cynllunio hwn yn digwydd yng nghyd-destun y sefyllfa newydd o ran Covid yng Nghymru. Fel y byddwch eisoes yn ei wybod yn rhan o’ch bywyd bob dydd, mae Llywodraeth Cymru wedi symud i lefel rhybudd 0. Byddwn yn cadw at ganllawiau Llywodraeth Cymru, wrth gwrs. Bydd angen gwisgo gorchuddion wyneb mewn unrhyw fannau cyhoeddus yn y Brifysgol ar wahân i gaffis, bwytai ac ati, a byddwn yn cynnal yr arferion glanhau a’r cyfleusterau hylendid sydd wedi bod ar gael ers y llynedd. Byddwn hefyd yn annog pawb i gadw pellter corfforol lle bo hynny’n briodol, ond ni fydd unrhyw bellteroedd penodol. Bydd cyfnod o chwarter awr rhwng sesiynau addysgu er mwyn sicrhau nad oes gormod o bobl yn defnyddio’r coridorau ar yr un pryd. Ni fydd rhaid cadw at ofynion pellter cymdeithasol mwyach mewn ystafelloedd seminar a mannau addysgu tebyg, felly gellir eu defnyddio mewn ffyrdd a fydd yn lleihau’r angen am ddyblygu’r addysgu. Gall yr addysgu barhau i ddigwydd ar-lein lle bo’n briodol, am resymau ymarferol neu addysgeg.

O ystyried ein bod yn gorfod gwneud addasiadau cyflym i sut rydym yn defnyddio gofod yn sgil newidiadau i ganllawiau Llywodraeth Cymru a mewnlifiad annisgwyl myfyrwyr newydd, rwyf am fod yn glir y byddwn yn cefnogi staff trwy’r newidiadau hyn hefyd. Bydd prosiect Ffyrdd Gwell o Weithio yn adolygu ei amserlen oherwydd y pwyslais ar fannau addysgu, a byddwch yn cael gwybod am yr amserlen ddiwygiedig maes o law. Ond i’r rhai ohonoch sy’n ei chael hi’n anodd gweithio gartref, y nod yw cynnig mannau ac ystafelloedd cyfarfod y gellir eu llogi ymlaen llaw, i sicrhau bod pobl yn dal i weld ei gilydd wyneb yn wyneb, hyd yn oed wrth weithio gartref am gyfnod hirach na’r disgwyl.

Mae’n bwysig cydnabod ein bod yn ail-gomisiynu’r campws yn y flwyddyn academaidd hon; er na fyddwn yn ôl i 2019, bydd yn teimlo’n llawer mwy tebyg i hynny. Bydd yr holl wasanaethau fel cefnogi myfyrwyr, llyfrgelloedd, bwytai, llety a chyfleusterau chwaraeon ar agor, a bydd Undeb y Myfyrwyr yn cynnal ei gyfres o ddigwyddiadau Wythnos y Glas 2021 dros gyfnod o bythefnos fel nad oes gormod o bobl yno ar yr un pryd. Bydd gan ysgolion fwy o hyblygrwydd i weithredu yn unol â’u hanghenion, a hoffwn ofyn i bawb fod yn amyneddgar wrth i ni weithio trwy unrhyw broblemau y bydd angen mynd i’r afael â nhw ar fyr rybudd. Ar yr un pryd mae’n bwysig ein bod ni i gyd yn parhau i gymryd rhagofalon synhwyrol, yn enwedig pan nad ydyn nhw’n achosi fawr ddim o anghyfleustra. Rwyf wedi penderfynu cynnal dau o dri chyfarfod Fwrdd Gweithredol y Brifysgol ar Zoom. Pan fyddwn yn cwrdd wyneb yn wyneb, bydd hynny’n digwydd mewn mannau sydd wedi’u hawyru’n dda ac sy’n ddigon mawr i bobl beidio â gorfod ymgynnull yn glos, a chyda mesurau hylendid ar waith. O fewn cyfyngiadau angen busnes a’r canllawiau swyddogol, mae angen i ni barchu beth sydd orau gan bawb a dod o hyd i ffyrdd o ymdopi â’r amgylchiadau newydd hyn.

Nid yw’r pandemig drosodd eto o bell ffordd, a dim ond yn raddol y bydd yr epidemig yn y wlad hon yn sefydlogi i fod yn sefyllfa lle mae SARS-CoV-2 yn feirws endemig a thymhorol i raddau helaeth a reolir yn bennaf trwy frechiadau. Mae yna gafeat o hyd y gallai fod angen mesurau mwy caeth gan Lywodraeth Cymru rywbryd os bydd pethau’n mynd o chwith. Fodd bynnag, rydyn ni’n gwybod ein bod ni’n hen law ar ymdopi â beth bynnag a allai ddigwydd yn hynny o beth yng nghyd-destun Covid.

Rwy’n ymwybodol iawn bod ein holl staff ym Mhrifysgol Caerdydd wedi gweithio’n galed iawn trwy gydol y flwyddyn ddiwethaf i sicrhau bod myfyrwyr yn cael y profiad gorau posibl er gwaethaf y pandemig, a does dim dwywaith bod canlyniad Arolwg Cenedlaethol y Myfyrwyr, a welodd ostyngiad o 8 y cant ym moddhad myfyrwyr, wedi bod yn siom aruthrol. Efallai nad yw 72% i’w weld yn rhy wael ar un olwg, ond mae’n ostyngiad sy’n fwy na chyfartaledd y sector ac mae’n golygu ein bod yn ia na’n meincnodau mewn nifer o feysydd. Byddaf yn sôn mwy am hyn yn yr hydref, ond mae’n gwymp sydyn arall mewn dirywiad sydd wedi para chwe blynedd bellach. Fel Prifysgol bydd angen i ni weithio gyda’n gilydd i wrthdroi’r duedd hon ac rwy’n ymwybodol iawn y bydd hyn yn golygu nid yn unig elfen o newid diwylliant, ond buddsoddiad ariannol sylweddol hefyd. Rwy’n golygu buddsoddiad fan hyn yn ofalus (mae bron unrhyw wariant yn cael ei alw’n fuddsoddiad y dyddiau hyn) ond bydd enillion ar y buddsoddiad hwn. Enillion anniriaethol fydd y rhain, nid enillion ariannol. Mae arnom angen i’n myfyrwyr wybod ein bod ni’n gofalu amdanynt, ac mae angen i ni wneud popeth y gallwn i gynnig y gofal a’r gefnogaeth honno a sicrhau eu bod nhw’n gwybod pa mor galed rydyn ni’n gweithio ar eu rhan. Yn yr un modd â’r myfyrwyr ychwanegol y gwnes i eu crybwyll uchod, rhaid i ni sicrhau bod sail ariannol ddigonol i gael y gwelliant sydd ei angen arnom ni, ac yn bwysicaf oll, y myfyrwyr. Ond mae angen i ni gydnabod hefyd bod angen i ni wneud pethau’n wahanol. Os byddwn yn parhau i wneud yr un pethau, byddwn yn cael yr un canlyniadau. Yn anad dim, mae angen i ni wrando ar beth mae’r myfyrwyr yn ei ddweud wrthym drwy Arolwg Cenedlaethol y Myfyrwyr. Rhaid i hyn fod yn flaenoriaeth i ni eleni ac yn y blynyddoedd i ddod, oherwydd mae angen i’r newid a gyflwynir fod yn un parhaus.

O ystyried popeth sy’n digwydd, mae’n bwysig cadw persbectif, ac mae’r digwyddiadau yn Affganistan yn gwneud hynny’n arbennig o glir ar hyn o bryd. Efallai eich bod yn ymwybodol bod Prifysgol Caerdydd yn gefnogwr hirsefydlog i CARA. Elusen yw hon sy’n cefnogi ac yn ymgyrchu dros ffoaduriaid academaidd sydd â’i chysylltiadau â ffoaduriaid o’r Almaen Natsïaidd a geisiodd a chael cymorth, cefnogaeth, swyddi a lleoedd mewn prifysgolion yn y wlad hon wedi iddynt gael eu gorfodi o’u cartrefi. Byddaf yn trafod hyn fel mater brys gyda Bwrdd Gweithredol y Brifysgol yng nghyfarfod cyntaf y flwyddyn, a byddaf yn falch o gael awgrymiadau ynghylch y ffordd orau i ni helpu. Ein dyletswydd gyntaf yw i’n myfyrwyr sy’n dod o Affganistan, ond byddwn yn ceisio helpu ym mha bynnag ffordd bosibl. Yn ogystal â CARA, byddwn am weithio gydag elusennau ffoaduriaid lleol fel Oasis Cardiff neu sefydliadau cenedlaethol fel Universities of Sanctuary. Bydd yr anghenion yn fawr, nawr ac yn y dyfodol agos, a hoffwn weld Prifysgol Caerdydd yn chwarae ei rhan.

Mae gennym hanes da o wneud hyn. Yn ddiweddar, cyhoeddodd y Prif Weinidog y rhoddwyd gwerth £7.2m o gyfarpar diogelu personol (PPE) i Namibia, gwlad sydd wedi bod yn dioddef yn ddifrifol eleni yn ystod y pandemig. Cyn bo hir, bydd y cyflenwadau dros ben yng Nghymru yn cael eu hanfon allan (11 cynhwysydd llawn yn rhad ac am ddim gan Maersk, ac rydym yn hynod ddiolchgar iddynt), ac mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi rhoi grant o £500,000 i gynorthwyo i adeiladu gallu meddygol. Cynhaliwyd y prosiect hwn o ganlyniad i waith rhagorol yr Athro Judith Hall ym Meddygaeth, sydd wedi arwain Prosiect Phoenix mor egnïol dros y saith mlynedd diwethaf, ac yn wir, yr Is-Ganghellor yn ein partner rhagorol ym Mhrifysgol Namibia, yr Athro Kenneth Matengu, a lwyddodd i esbonio hyd a lled y broblem i Brif Weinidog Cymru yn gynharach eleni. Mae’n enghraifft wych o sut gall ein partneriaethau rhyngwladol chwarae rhan flaenllaw a chreiddiol o’n cenhadaeth ddinesig yn ogystal â’n hymdrech ymchwil a’n gweithgaredd symudedd gyda myfyrwyr rhyngwladol. Mewn cysylltiad â hynny, gyda llaw, gwnaethom yn dda iawn yn ein cais i Raglen Turing newydd, gan dderbyn mwy na £1.5m i ganiatáu i’n myfyrwyr brofi manteision profiad rhyngwladol sy’n gwella bywyd yn ystod eu hastudiaethau.

Gan droi at fath arall o deithio, cofiwch lenwi’r Arolwg Teithio Staff a lansiwyd yn ddiweddar. Mae angen i ni ddeall eich anghenion teithio wrth inni symud yn ôl i ryngweithio mwy personol, ac mae’n werth nodi y bydd maes parcio’r Prif Adeilad yn cau ym mis Medi 2021 (yr union ddyddiad i ddilyn) yn rhan o gynigion Cyngor Caerdydd i leihau traffig ar Blas y Parc. Byddwn yn gallu defnyddio’r cyfle i drawsnewid y gofod yn ardal ar gyfer cymdeithasu yn yr awyr agored. Bydd mynediad i gerbydau o hyd i bobl ag anableddau, ac ni fydd unrhyw newid i gerddwyr a beicwyr. Sôn am feiciau, byddwn yn gosod 330 o fannau parcio beiciau dan do newydd ar draws y campws i gefnogi dewisiadau teithio llesol, gyda 200 o leoedd parcio beiciau eraill ar y gweill. Gall unrhyw staff sydd am gael eu hystyried ar gyfer parcio ar y campws o fis Ionawr 2022 wneud cais nawr gan ddefnyddio ein meini prawf cymhwysedd newydd ar sail anghenion. Wrth i ni weithio mewn gwahanol ffyrdd, rydym am i’r trefniadau ar gyfer parcio yn y dyfodol fod yn deg a chynhwysol.

Fel y soniais y tro diwethaf, rydym yn cynllunio ar gyfer Seremonïau Graddio wyneb yn wyneb y flwyddyn nesaf, ond eleni roeddem yn gallu rhoi cyfle i’n myfyrwyr ddathlu’n rhithwir, a gwnaethon nhw ddathlu’n frwd iawn hefyd! Ymunodd miloedd o fyfyrwyr â’r 38 digwyddiad Zoom byw dros bythefnos, a diolch yn fawr i’r holl staff a gymerodd yr amser a’r ymdrech i recordio neges ar gyfer Graddedigion 2021 ar dudalennau Flipgrid ein Hysgolion. Fe wnaeth ein graddedigion newydd werthfawrogi’r rhain yn fawr ac, ar ran y Brifysgol, hoffwn ddiolch yn fawr i Alison Carter, Lucy Skellon ac Emma Knight o’r Tîm Digwyddiadau Corfforaethol a Seremonïol fu’n gyfrifol am gydlynu a chefnogi’r digwyddiadau byw. Ffilmiodd Richard Martin o’r Uned Ffilmiau’r elfennau a recordiwyd ymlaen llaw gyda’i ddawn a’i arbenigedd trawiadol arferol, yn ogystal â goruchwylio’r gwaith o ffrydio digwyddiadau ar YouTube yn fyw. Rhaid diolch hefyd i’r Tîm Cyfathrebu, Tîm y Cynfyfyrwyr a’r Gofrestrfa, ac i Benaethiaid Ysgolion neu eu cynrychiolydd am gyflawni’r dasg eithaf brawychus o gyflwyno’n fyw, ac yn enwedig i’r staff wrth gefn oedd ar gael rhag ofn (profiad hyd yn oed yn fwy brawychus mae’n siŵr). Diolch enfawr i’r cynfyfyriwr Huw Edwards, a recordiodd fideos llongyfarchiadau yn Gymraeg a Saesneg ar gyfer Graddedigion 2021 o’r stiwdio newyddion, a Meleri Williams (Myfyriwr yn Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant) a Hannah Doe (Llywydd Undeb y Myfyrwyr) am eu cyfraniadau hefyd. Yn fwy na dim, llongyfarchiadau a da iawn i holl Raddedigion 2021 a gymerodd ran; roeddent yn wych a manteisiodd bawb i’r eithaf ar y cyfle. Roedd holl nodweddion diddorol Zoom i’w gweld hefyd wrth gwrs; gwelsom anifeiliaid anwes a phlant, partïon gardd, gwisgoedd graddio cartref, a phobl yn ymuno  o’u gweithle, gan gynnwys rhywun oedd yn gweithio ar sgaffaldiau. Mae’n rhaid bod hynny’n brofiad tra gwahanol i naill ai weithio ar sgaffaldiau neu fynd i seremoni raddio draddodiadol! Am ymrwymiad, fodd bynnag, ymrwymiad a welsom gan bawb. Diolch yn fawr.

Rhaid hefyd bachu ar y cyfle hwn i ddiolch o galon am rywbeth arall; yn fy ebost diwethaf fe soniais am ymdrechion enfawr staff Caerdydd i gefnogi myfyrwyr ar y campws yn ystod y pandemig. Anghofiais sôn am dîm Cyfleusterau Campws, oedd yn gorfod, yn rhinwedd eu swyddi, bod ar y safle’n cysylltu gyda myfyrwyr, cynnig gwasanaethau llety ac ymateb i ystod o anghenion eraill yn ystod y cyfnod. Fe wnaethon nhw hefyd weithio’n galed a bod yn ddewr iawn, ac rydym i gyd yn ddiolchgar.

Yn olaf, llongyfarchiadau i’r Athro Damian Walford-Davies, sydd wedi’i benodi’n Ddirprwy Is-Ganghellor i olynu’r Athro Karen Holford, ac i’r Athro Urfan Khaliq, sydd wedi’i benodi’n olynydd i Damian yn Rhag Is-Ganghellor Coleg y Celfyddydau, y Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol. Edrychaf ymlaen yn fawr at weithio gyda’r ddau ohonynt yn eu swyddi newydd.

Dymuniadau gorau

Colin Riordan
Is-Ganghellor