Y flwyddyn academaidd nesaf, Cipolwg Caerdydd, gweithdrefn gwyno, eich cefnogi chi
21 Mai 2021Darllenwch neges gan Claire Morgan, Rhag Is-Ganghellor Addysg a Myfyrwyr a anfonwyd ar 21 Mai.
Annwyl Fyfyriwr
Cyn y cyfnod arholi ac asesu, hoffwn fod y cyntaf i ddymuno pob lwc i chi. Mae gennym rai awgrymiadau ynghylch sut i ymdopi yn ystod y cyfnod hwn, ac os ydych chi’n cael brechiad COVID-19 tua’r un amser, ystyriwch sut y gallai effeithio ar eich gallu i gael eich asesu.
Ddydd Llun, fe gyflwynwyd ‘lefel rhybudd 2‘ yng Nghymru, ac er bod hyn yn golygu mwy o gyfleoedd ar gyfer hamdden, cofiwch ganllawiau Llywodraeth Cymru ynglŷn â chymysgu ag aelwydydd eraill:
- “Nid yw’r rheolau yn caniatáu i ni gwrdd yn gymdeithasol â phobl o aelwyd arall yng nghartref rhywun arall, oni bai bod yr aelwyd yn rhan o’ch aelwyd estynedig. Mae hyn am ei fod yn cynyddu’r risg o ledaenu’r feirws yn sylweddol.”
- “Caniateir i hyd at chwech o bobl o hyd at chwe aelwyd (heb gynnwys plant dan 11 oed o aelwydydd neu ofalwyr aelod o’r aelwydydd hyn) gwrdd yn yr awyr agored, gan gynnwys mewn gerddi preifat a lleoedd awyr agored preifat.”
I fyfyrwyr mewn neuaddau preswyl, mae’r canllaw hwn yn parhau i olygu na chaniateir partïon cegin nac ymgynnull mewn mannau cymunedol – ac ni chaniateir i fwy na chwech o bobl ymgynnull yn yr awyr agored ychwaith. Yn olaf, hoffwn eich atgoffa i gario’ch cerdyn adnabod myfyriwr a’ch cerdyn adnabod preswylfeydd (os oes gennych un) bob amser er diogelwch pawb.
Y flwyddyn academaidd nesaf
Rwy’n ymwybodol bod sylw diweddar yn y cyfryngau wedi peri pryder i rai ohonoch. Hoffwn bwysleisio ein bod wedi nodi ein cynlluniau cyfredol ar gyfer 2021 i helpu myfyrwyr presennol a darpar fyfyrwyr i ddeall sut allai ein campws edrych ym mis Medi. Fodd bynnag, gall hyn newid wrth gwrs yn dibynnu ar y pandemig, a chanllawiau dilynol Llywodraeth Cymru.
Gobeithio y gallwch chi i gyd werthfawrogi bod pob sector, gan gynnwys ein sector ni, yn ceisio cydbwyso’r lefel hon o ansicrwydd ochr yn ochr â blaenoriaethu diogelwch. Er bod cyfyngiadau yn llacio yn y DU ar hyn o bryd, byddwch yn ymwybodol fod pryderon cynyddol hefyd ynghylch amrywiadau newydd o’r feirws. O gofio y gallai cyfyngiadau amrywio unwaith eto ledled y DU, byddwn yn gorfod cadw at arweiniad Llywodraeth Cymru.
Mae’r sefyllfa y byddwn ynddi ym mis Medi 2021 yn cael ei hadolygu’n gyson. Pan fydd yn newid, chi (a’n staff) fydd y cyntaf i gael gwybod – nid y cyfryngau.
Cipolwg Caerdydd – beth sydd wedi newid?
Diolch i’r 6,628 o fyfyrwyr a rannodd eu barn trwy arolwg Cipolwg Caerdydd mis Ebrill. Teclyn ar-lein yw’r arolwg hwn sy’n caniatáu inni gael adborth yn gyflym gan fyfyrwyr ar eich profiad yn y Brifysgol ar hyn o bryd.
Mae eich barn eisoes yn helpu i ddylanwadu ar newid go iawn. Bob mis, rydym yn rhannu canlyniadau â’ch Ysgolion ac aelodau allweddol eraill o’r Brifysgol. Mae hyn yn ein helpu i wneud newidiadau angenrheidiol a’ch cyfeirio at wasanaethau lle bo angen.
Yn seiliedig ar eich adborth ym mis Mawrth ac Ebrill, rydym wedi crynhoi eich ymatebion a’r camau a gymerwyd yn sgîl hynny ar ein tudalen adborth ar y fewnrwyd. Mae Cipolwg Caerdydd nawr ar agor ac yn canolbwyntio ar addysg ddigidol. Mae’r ddolen ar gael trwy naidlen ar Dysgu Canolog.
Mae’r arolwg o Brofiadau Ôl-raddedigion a Addysgir (PTES) ar agor hefyd, tan 17 Mehefin. Bydd y canlyniadau ar gael ym mis Gorffennaf, ac unwaith eto byddwn yn eich diweddaru ar ein hymateb. Caeodd yr Arolwg o Brofiad Ymchwilwyr Ôl-raddedig (PRES) ddydd Llun 17 Mai ar ôl cael ymateb gan 31% o fyfyrwyr Ymchwil Ôl-raddedig.
Gweithdrefn gwyno
Yn y cyfamser, rydym yn parhau i gymryd camau i fynd i’r afael â sut mae pandemig COVID-19 wedi tarfu ar eich cyfleoedd dysgu yn ogystal â sicrhau bod y campws yn ddiogel rhag COVID i chi a’r staff. Fel y byddech chi’n ei ddisgwyl, mae’r camau hyn yn cael eu diweddaru wrth i amgylchiadau newid, ac maent yn cyd-fynd â’r cyngor iechyd cyhoeddus diweddaraf a chanllawiau’r Llywodraeth.
Mae’r camau hyn yn cynnwys proses gwynion COVID-19. Mae wedi’i diweddaru i fynd i’r afael â chwynion sy’n gysylltiedig â’r pandemig ac i roi’r cyfle i chi amlygu unrhyw achosion penodol pan mae’r pandemig wedi tarfu arnoch.
Os ydych chi, ar ddiwedd blwyddyn academaidd 2020/21, pan fydd eich gweithgareddau addysgu ac asesu wedi’u cwblhau, yn anfodlon â’r camau a gymerwyd, neu os ydych chi’n teimlo nad oedd y cyfleoedd dysgu neu’r gwasanaethau eraill yr hyn y byddech chi wedi’i ddisgwyl yn rhesymol ar sail y wybodaeth a gawsoch ar ddechrau’r flwyddyn academaidd, gallwch wneud cwyn.
Cofiwch:
- Bydd y flwyddyn academaidd yn dod i ben ar 18 Mehefin 2021, ac, os ydych am wneud cwyn, rhaid i’r mwyafrif ohonoch wneud hynny erbyn 16 Gorffennaf 2021 fan bellaf (28 diwrnod yn ddiweddarach)
- Ni fydd y dyddiad hwn yn berthnasol os bydd yr addysgu ar eich rhaglen ar gyfer blwyddyn academaidd 2020/21 yn ymestyn y tu hwnt i 18 Mehefin 2021. Cewch chi wneud cwyn hyd at 28 diwrnod ar ôl derbyn eich trawsgrifiad.
Mae mwy o wybodaeth ar gael am y broses, yn ogystal â chyngor annibynnol gan Ganolfan Gynghori Undeb y Myfyrwyr.
Eich cefnogi chi
Gall asesiadau beri mwy o bryder ar adeg pan mae llawer o bobl eisoes yn bryderus. Beth bynnag sy’n eich poeni, Cyswllt Myfyrwyr yw eich pwynt cyswllt cyntaf o hyd i gael cefnogaeth.
Yn benodol, os ydych chi’n poeni am arian, o bosibl o ganlyniad i’r pandemig, cofiwch ddarllen ein Pecyn Cymorth COVID-19 i Fyfyrwyr.
Dymuniadau gorau
Claire Morgan
Rhag Is-Ganghellor, Addysg a Myfyrwyr
- Mehefin 2024
- Mai 2024
- Ebrill 2024
- Chwefror 2024
- Ionawr 2024
- Rhagfyr 2023
- Tachwedd 2023
- Hydref 2023
- Medi 2023
- Awst 2023
- Gorffennaf 2023
- Mehefin 2023
- Mai 2023
- Ebrill 2023
- Mawrth 2023
- Chwefror 2023
- Ionawr 2023
- Rhagfyr 2022
- Tachwedd 2022
- Hydref 2022
- Medi 2022
- Awst 2022
- Gorffennaf 2022
- Mehefin 2022
- Mai 2022
- Ebrill 2022
- Mawrth 2022
- Chwefror 2022
- Ionawr 2022
- Rhagfyr 2021
- Tachwedd 2021
- Hydref 2021
- Medi 2021
- Awst 2021
- Gorffennaf 2021
- Mehefin 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Chwefror 2020
- Ionawr 2020
- Rhagfyr 2019
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Medi 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018
- Ebrill 2018
- Mawrth 2018
- Chwefror 2018
- Ionawr 2018
- Rhagfyr 2017
- Tachwedd 2017
- Hydref 2017
- Medi 2017
- Awst 2017
- Gorffennaf 2017
- Mehefin 2017
- Mai 2017
- Ebrill 2017
- Mawrth 2017
- Chwefror 2017
- Ionawr 2017
- Rhagfyr 2016
- Tachwedd 2016
- Hydref 2016
- Medi 2016
- Awst 2016
- Gorffennaf 2016
- Mehefin 2016
- Mai 2016
- Ebrill 2016
- Mawrth 2016
- Chwefror 2016
- Ionawr 2016
- Rhagfyr 2015
- Tachwedd 2015
- Hydref 2015
- Medi 2015
- Awst 2015
- Gorffennaf 2015
- Mehefin 2015
- Mai 2015
- Ebrill 2015
- Mawrth 2015
- Chwefror 2015
- Ionawr 2015
- Rhagfyr 2014
- Tachwedd 2014
- Hydref 2014
- Medi 2014