
Darllenwch neges Claire Morgan, Rhag Is-Ganghellor Addysg a Myfyrwyr a anfonwyd at fyfyrwyr yn eu blwyddyn olaf ar 20 Mai.
Annwyl fyfyriwr
Gobeithio eich bod yn cadw’n iawn.
Wrth i’r haf agosáu, mae’n bleser gennyf rannu’r fideo hwn i amlinellu ein trefniadau ar gyfer eich dathliadau graddio chi a Graddedigion eraill 2021 ym mis Gorffennaf / Awst.
Gobeithhttps://youtu.be/TJ_IslWj-Noio bydd y fideo hwn yn egluro ein cynlluniau ar gyfer eich seremoni raddio ac yn ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych.
Wrth baratoi ar gyfer bod yn fyfyriwr graddedig, ewch ati i wneud y canlynol os gwelwch yn dda.
1. Cwblhewch y dasg i raddedigion
Mae’n hanfodol eich bod yn cwblhau’r dasg hon ac yn gwneud yn siŵr bod eich manylion cyswllt yn gywir er mwyn i ni allu parhau i gyfathrebu â chi.
- Mewngofnodwch i’ch cyfrif SIMS Ar-lein.
- Ewch i’r tab ‘Graddio’ ar frig eich porth myfyriwr
- Dilynwch y cyfarwyddiadau yn y dasg hon i raddedigion i gadarnhau eich dewisiadau a’ch bwriadau ar gyfer eich dathliad rhithwir, y seremoni raddio wyneb yn wyneb a’r negeseuon yr ydych am barhau i’w derbyn gennym.
2. Hwdi Graddedigion ‘21
I gofio am eich amser gyda ni, mae Undeb y Myfyrwyr wedi lansio fersiwn newydd o hwdi Graddedigion ‘21 wedi’i bersonoli ar gyfer pob ysgol a gydag enwau pawb yn eich dosbarth ar y cefn. Rydym am i chi gadarnhau:
- Os hoffech gael hwdi, bydd angen i chi archebu ymlaen llaw erbyn 13 Mehefin.
- Os nad ydych am i’ch enw fod ar yr hwdi gyda’ch dosbarth, ebostiwch susales@caerdydd.ac.uk a nodi NID WYF AM GYMRYD RHAN (OPT OUT) erbyn 31 Mai
Byddaf yn anfon ebost atoch eto ym mis Mehefin gyda diweddariad ar y trefniadau a’n gwasanaethau cefnogi i raddedigion, gan gynnwys cefnogaeth newydd ar gyfer Graddedigion 21 gan ein tîm Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd a’n platfform rhwydweithio newydd i Gynfyfyrwyr. Yn y cyfamser, bydd diweddariadau yn cael eu rhannu ar ein tudalennau graddio ar y we.
Yn olaf, hoffwn ddymuno’r gorau i chi ar gyfer eich arholiadau a’ch asesiadau ac edrychaf ymlaen at ddathlu’ch llwyddiannau gyda chi. Ar ben hynny, fel y nodwyd yn flaenorol yn y negeseuon rwyf wedi’u hanfon atoch, os oes angen cefnogaeth arnoch i oresgyn unrhyw heriau, cysylltwch â Chyswllt Myfyrwyr ar bob cyfrif fydd yn barod i’ch cynorthwyo.
Dymuniadau gorau
Claire Morgan
Rhag Is-Ganghellor, Addysg a Myfyrwyr