Parhau â’r broses o ddychwelyd i’r campws, ymweliadau ag Ysgolion, prosiectau adeiladu ar y campws
30 Ebrill 2021Darllenwch neges a anfonodd yr Is-Ganghellor at yr holl staff heddiw (30 Ebrill 2021).
Annwyl gydweithiwr
Ar ddechrau tymor olaf blwyddyn na welwyd ei thebyg o’r blaen, mae’n braf gweld cynifer o’n myfyrwyr yn ôl ac yn gallu ymgysylltu’n fwy eang â’u hastudiaethau wyneb yn wyneb. Rwy’n gwybod bod llawer o ysgolion yn gwneud eu gorau glas ac yn llwyddo i ddal i fyny gyda materion a fyddai wedi cael eu cynnal yn gynharach yn y flwyddyn fel arfer, ac rydym yn hyderus y bydd y deilliannau dysgu’n cael eu bodloni ar draws ein cyfres o raglenni. Mae enghraifft o’r fath i’w gweld yn Ysgol Gwyddorau’r Ddaear a’r Amgylchedd. Dywedodd y Pennaeth, yr Athro Ian Hall, wrtha i bod 103 o hyfforddwyr ar wahân yn mynd i 13 o leoliadau gwahanol dros gyfnod o chwe wythnos i alluogi myfyrwyr i wneud gwaith maes. Mae pob myfyriwr ar draws lefelau pedwar i chwech yn rhaglenni’r Ysgol yn cymryd rhan, ac mae dewisiadau amgen rhithwir yn lle addysgu ac asesu yn cael eu cynnig ochr hefyd. Mae hyn yn rhoi rhyw syniad o raddfa’r gweithrediadau ar hyn o bryd, ac mae’n enghraifft wirioneddol glodwiw o’r ymdrechion a wneir ar draws y Brifysgol i sicrhau bod ein myfyrwyr yn cael y profiad gorau posibl ac yn gallu cyflawni eu holl ddeilliannau dysgu, er gwaethaf yr amgylchiadau anodd yr ydym wedi’u hwynebu eleni.
Fel y soniais fis diwethaf, rwy’n dra ymwybodol fod rhai Ysgolion wedi bod yn ymgymryd â gweithgareddau wyneb yn wyneb trwy gydol y flwyddyn academaidd hon ac, fel llawer o ysgolion eraill, wedi gallu cynyddu’r gweithgareddau hynny ers 12 Ebrill (neu ers 22 Chwefror mewn rhai achosion). Gwelais enghraifft o’r fath yn yr Ysgol Cerddoriaeth, pan gefais y pleser o fynd yno’n bersonol tua diwedd y mis. Pan rwy’n deud pleser, rwyf wir yn golygu hynny. Pleser pur oedd gallu gwylio gweithdy cyfansoddi, gyda phawb oedd yn bresennol yn cadw pellter cymdeithasol, ond gyda bron yr un faint o fyfyrwyr yn ymuno drwy Zoom. Cefais fy nharo gan y ffordd y gellir cyfuno dysgu personol ac o bell mor llwyddiannus, ac fe wnaeth clywed perfformiad byw gan gerddorion proffesiynol, yn yr achos hwn o gyfansoddiad myfyriwr, am y tro cyntaf ers ymhell dros flwyddyn, fy atgoffa o faint rydym wedi’i golli a pha mor falch y byddwn ni i gyd o weld camau ail-agor pwrpasol a gofalus yn cael eu rhoi ar waith o dan arweiniad amryw lywodraethau’r DU. Roedd hefyd yn bleser cwrdd â staff a myfyrwyr yn wyneb yn wyneb eto, ac roedd yn braf clywed pa mor dda y mae pawb wedi bod yn ymdopi mewn pwnc lle mae ymarfer a chydweithio wyneb yn wyneb mor bwysig. Fe wnaeth y myfyrwyr fy atgoffa y bydd rhai ohonynt yn dechrau eu trydedd flwyddyn ar ol cael profiad o un semester yn unig o’r hyn y byddem wedi’i ystyried yn flaenorol fel bywyd prifysgol normal. Dywedon nhw pa mor awyddus yr oeddent i gael profiad o rywbeth llawer tebycach i 2019 yn hytrach na 2020 neu ddechrau 2021, pan fydd hynny, drwy lwc, yn bosibl. Sylwais hefyd y bydd dwy garfan o fyfyrwyr sydd heb gael profiad o fywyd prifysgol normal o gwbl hyd yma. Rwy’n clywed bod ychydig o nerfusrwydd ynghylch cael y profiad llawn o’r diwedd, felly bydd angen i ni gadw hynny mewn cof yn y ffyrdd y byddwn yn cefnogi ein myfyrwyr.
Rwy’n sylweddoli y gallai rhai staff deimlo ychydig yn nerfus ynghylch ailddechrau gweithgareddau ar y campws hefyd. Hoffwn roi sicrwydd i chi, o ran staff a myfyrwyr, y byddwn yn mynd ati’n ofalus ac yn cadw at ganllawiau Llywodraeth Cymru drwy’r amser yn ein gwaith. Byddwn hefyd yn gweithio mewn partneriaeth agos ag Iechyd Cyhoeddus Cymru a’r GIG. Cofiwch, mae cyngor ar gael ar y fewnrwyd ac os ydych yn bryderus mewn unrhyw ffordd, siaradwch â’ch rheolwr llinell a/neu defnyddiwch y gwasanaeth iechyd galwedigaethol.
Rwyf wedi bod yn ymweld â lleoedd o bell hefyd, gan gynnwys ymweliad cofiadwy wnaeth argraff arna’ i â gweithgareddau ymchwil, addysgu a chenhadaeth ddinesig yr Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd (SHARE). Fe wnaeth hyn fy atgoffa o faint y gallwn ei gyflawni ar-lein, a pha mor bwerus yw ein cynnig pan rydym yn cyfuno manteision dysgu ar-lein ac wyneb yn wyneb. Fel yr wyf wedi sôn o’r blaen, yr her y flwyddyn nesaf fydd cynnig y ddarpariaeth orau bosibl i bawb o’r cyfuniad hwnnw, gan wneud yn siŵr bod pawb yn cadw’n ddiogel a’n bod yn gweithio’n unol â’r canllawiau perthnasol. Mae’r pandemig – fel y gwelais yn SHARE – wedi gyrru arloesedd mewn ffyrdd na allai’r un ohonom fod wedi’u rhagweld, ac mae cyfleoedd enfawr ar y gweill.
Gyda llaw, mae Dr Jess Cotton, darlithydd yn yr Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth, wedi bod yn myfyrio ar y ffordd y mae marwolaeth a salwch yn cael ei ysgrifennu yn y stori genedlaethol. Wrth wneud hynny mae hi’n sôn am ei harfer addysgu ei hun yn ystod y pandemig, yn addysgu am Virginia Woolf yng nghyd-destun pandemig ffliw 1919-23. Roedd ei gwaith, sydd wedi’i gyhoeddi yn The Conversation, yn ddiddorol tu hwnt. Mae The Conversation ar fin penodi golygydd o Gymru unwaith eto ar ôl bwlch o ryw ddwy flynedd. Er bod academyddion Prifysgol Caerdydd yn gallu cyhoeddi eu gwaith yn The Conversation, ac wedi parhau i wneud hynny, mae cael golygydd o Gymru yn golygu bydd mwy o sylw arnom ni eto, ac mae hefyd yn rhoi’r cyfle i gyhoeddi drwy gyfrwng y Gymraeg am y tro cyntaf. Felly, fel Jess, bachwch ar y cyfle hwn i arddangos ein hymchwil a’n haddysgu i’r cyhoedd. Dylwn ddatgan buddiant fel Cadeirydd The Conversation UK, er fy mod yn agosáu at ddiwedd fy nghyfnod yn y rôl. Fodd bynnag, hyd yn oed pe na bawn yn y rôl hon, byddwn yn sicr yn argymell y ffordd hon o gysylltu â’r cyhoedd sydd mor aml yn clywed straeon negyddol am brifysgolion yn unig.
Yn anffodus, mae un pwnc negyddol a drafodais yn y rhifyn diwethaf, o gamymddwyn rhywiol mewn prifysgolion, wedi cael mwy o sylw yn ôl pob golwg, fel y byddech wedi’i weld ar y cyfryngau cymdeithasol a’r wasg o bosibl. Felly, hoffwn eich atgoffa o’r gefnogaeth sydd ar gael i unrhyw fyfyriwr neu aelod staff sydd wedi cael ei effeithio yn hyn o beth, neu a fyddai’n falch o gael cefnogaeth a chyngor ar hyn. Fe wnes i sôn y tro diwethaf am y gwasanaethau sydd ar gael i fyfyrwyr, ond yn ogystal â chael mynediad at gwnsela ar-lein drwy Care First, gall staff fanteisio ar gyrsiau hyfforddiant ar-lein hefyd i ddysgu sut i adnabod arwyddion o drais a chamdriniaeth. Bydd hyn yn ein helpu ni i gyd chwarae ein rhan i gadw’r gymuned gyfan yn ddiogel.
Ar bwnc tra gwahanol, yn ddiweddar ymwelais â’r amrywiol brosiectau adeiladu sydd wedi bod yn bwrw ymlaen â’u gwaith, ar wahân i egwyl fer yn unig yn ystod y pandemig. Bydd Canolfan Bywyd y Myfyrwyr (CSL), y mae disgwyl iddi agor yn nes ymlaen eleni, yn trawsnewid ein gallu i gefnogi ein myfyrwyr, nid yn unig yn yr adeilad ei hun ond hefyd drwy’r ffyrdd newydd o gynnig cefnogaeth o bell sydd wedi’u cael eu datblygu ochr yn ochr â’r prosiect hwn. Yn ogystal â bod yn fynediad i Undeb y Myfyrwyr, y Ganolfan hon fydd drws ffrynt y Brifysgol, a bydd yn gallu cynnal digwyddiadau yn ogystal â bod yn siop un safle i fyfyrwyr. Mae’r gwaith adeiladu ar Gampws Arloesedd Caerdydd (CIC) bron wedi gorffen hefyd. Mae’n cynnwys sbarc | spark, y cyfeiriad o bwys i unrhyw fusnesau, partneriaid neu randdeiliaid sydd â diddordeb mewn gweithio gyda staff a myfyrwyr yn y Brifysgol i yrru arloesedd. Bydd hefyd yn gartref i’r Ganolfan Ymchwil Drosiadol lle cynhelir ein gweithgareddau ym meysydd lled-ddargludyddion cyfansawdd a chatalysis. Mae’r rhain yn feysydd lle cynhelir ymchwil sylfaenol y gellir ei throsi’n gyflym i greu cynhyrchion a thechnolegau newydd. Bydd adeilad Abacws, fydd cyn bo hir yn gartref i’r Ysgol Mathemateg a’r Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg, yn cynnig amgylchedd llawer gwell ar gyfer addysgu, dysgu, ymchwil a chenhadaeth ddinesig i’r ddwy Ysgol hyn, a bydd yn rhoi hwb i’r cydweithio agos rhyngddynt sydd eisoes yn bodoli.
Mae pob un o’r tri phrosiect – yn ogystal â rhai eraill megis adnewyddu Adeilad Bute – yn rhan o’r gwaith uwchraddio mwyaf ar gampws ystâd Caerdydd ers cenhedlaeth. Gellir gweld crynodeb ffotograffig o’r cynnydd ar Gampws Arloesedd Caerdydd ar-lein. Ar 13 Mai, bydd yr Athro Karen Holford yn cynnal cyfarfod Zoom rhwng 3pm a 4pm i roi’r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd Campws Arloesedd Caerdydd. Os hoffech chi ymuno â’r cyfarfod, cliciwch yma i gofrestru.
Sôn am Karen Holford, mae’n siŵr y bydd llawer ohonoch wedi clywed mai Karen fydd Is-Ganghellor newydd Prifysgol Cranfield. Mae hyn yn newyddion gwych i Cranfield ac yn gyflawniad ardderchog i Karen, ac rwyf wedi mwynhau gweithio gyda hi’n arw ers i mi gyrraedd yn 2012. Mae Karen wedi gwneud gwaith gwych i Gaerdydd ers sawl blwyddyn. Yn fwy diweddar fel Dirprwy Is-Ganghellor, wrth gwrs, ond cyn hynny fel Rhag Is-Ganghellor cyntaf Coleg y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg, Pennaeth yr Ysgol Peirianneg ac, wrth gwrs, fel darlithydd ac athro rhagorol. Byddwn yn ei gweld ei heisiau yn fawr, ond rwy’n dymuno pob lwc i Karen ar gyfer y dyfodol, ac rwy’n siŵr y bydd yn cadw mewn cysylltiad gyda Chaerdydd. Byddaf yn dechrau chwilio am olynydd Karen o fewn Prifysgol Caerdydd cyn gynted â phosibl, a byddaf yn rhannu manylion am hyn cyn gynted ag y byddant wedi’u cadarnhau.
Cofion gorau
Colin Riordan
Is-Ganghellor
- Mehefin 2024
- Mai 2024
- Ebrill 2024
- Chwefror 2024
- Ionawr 2024
- Rhagfyr 2023
- Tachwedd 2023
- Hydref 2023
- Medi 2023
- Awst 2023
- Gorffennaf 2023
- Mehefin 2023
- Mai 2023
- Ebrill 2023
- Mawrth 2023
- Chwefror 2023
- Ionawr 2023
- Rhagfyr 2022
- Tachwedd 2022
- Hydref 2022
- Medi 2022
- Awst 2022
- Gorffennaf 2022
- Mehefin 2022
- Mai 2022
- Ebrill 2022
- Mawrth 2022
- Chwefror 2022
- Ionawr 2022
- Rhagfyr 2021
- Tachwedd 2021
- Hydref 2021
- Medi 2021
- Awst 2021
- Gorffennaf 2021
- Mehefin 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Chwefror 2020
- Ionawr 2020
- Rhagfyr 2019
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Medi 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018
- Ebrill 2018
- Mawrth 2018
- Chwefror 2018
- Ionawr 2018
- Rhagfyr 2017
- Tachwedd 2017
- Hydref 2017
- Medi 2017
- Awst 2017
- Gorffennaf 2017
- Mehefin 2017
- Mai 2017
- Ebrill 2017
- Mawrth 2017
- Chwefror 2017
- Ionawr 2017
- Rhagfyr 2016
- Tachwedd 2016
- Hydref 2016
- Medi 2016
- Awst 2016
- Gorffennaf 2016
- Mehefin 2016
- Mai 2016
- Ebrill 2016
- Mawrth 2016
- Chwefror 2016
- Ionawr 2016
- Rhagfyr 2015
- Tachwedd 2015
- Hydref 2015
- Medi 2015
- Awst 2015
- Gorffennaf 2015
- Mehefin 2015
- Mai 2015
- Ebrill 2015
- Mawrth 2015
- Chwefror 2015
- Ionawr 2015
- Rhagfyr 2014
- Tachwedd 2014
- Hydref 2014
- Medi 2014