Newyddion yr Is-Ganghellor

Brechiadau, y Coronafeirws flwyddyn ymlaen, trais ar sail rhywedd a throseddau casineb, Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil

Darllenwch neges a anfonodd yr Is-Ganghellor at yr holl staff heddiw (31 Mawrth 2021).

Annwyl gydweithiwr

Mae Mawrth wedi bod yn fis llawn digwyddiadau ar sawl cyfrif, gan gynnwys i mi yn bersonol. O ganlyniad, mae’r ebost hwn mor hir dyma benderfynu, yn groes i’r arfer, ei rannu’n adrannau gyda phenawdau i’w wneud yn haws ei ddarllen.

Brechlynnau

Tua thair wythnos yn ôl cefais alwad i fynd am frechiad coronafeirws mewn canolfan frechu torfol yng ngogledd Caerdydd. Roeddwn i wrth fy modd i gael derbyn y pigiad gan un o’n myfyrwyr meddygaeth ni (diolch Lucy!), oedd yn gweithio dwy shifft chwe awr yr wythnos honno. Roedd yr holl achlysur yn rhyfeddol o emosiynol; y ffordd roedd pawb yn dod at ei gilydd i sicrhau bod y fenter enfawr hon i frechu cenedl gyfan yn llwyddo.

Chaiff y pandemig ddim ei orchfygu, wrth gwrs, tan fod y rhan fwyaf o bobl drwy’r byd yn imiwn neu ar y cyfan yn imiwn i goronafeirws, naill ai drwy frechu neu (er bod hyn yn llai tebygol wrth i ni ddysgu mwy) drwy haint blaenorol. Bydd y broses gyfan yn cymryd cryn dipyn o amser eto, ond mae’n parhau’n hanfodol bwysig a bydd angen cydweithio rhyngwladol digynsail os yw am lwyddo. Mae’n dda gwybod bod Prifysgol Caerdydd, yn wyneb y dasg enfawr o frechu’r holl fyd, yn helpu i chwarae ei rhan. Mae’r Athro Judith Hall, fel rhan o’i Phrosiect Phoenix hirsefydlog sy’n canolbwyntio’n bennaf ar Namibia, newydd ennill £125,000 ar gyfer cyflwyno ymgyrch frechu COVID-19 yn Namibia (gan raglen Cymru ac Affrica Llywodraeth Cymru) i 90,000 o bobl fwyaf bregus a difreintiedig y wlad. Mae’r poblogaethau sy’n cael eu targedu yn cynnwys pobl ag anableddau, carcharorion a staff carchardai, yr henoed, y rhai â chyd-forbidrwydd ac, o’r poblogaethau hyn, y rhai sy’n byw yn rhanbarthau mwyaf anghysbell Namibia. Ceir cyllid sbarduno hefyd ar gyfer gwaith COVID-19 yn Zambia gydag is-gontract gan yr elusen Mothers of Africa, ac mae’n braf gweld bod y gwaith hwnnw’n draws-Brifysgol, ac yn cynnwys Dr Hantao Liu o’r Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg, sy’n gydweithiwr brwd ar Brosiect Phoenix. Yn olaf ar frechu, ac yn agosach at adref, rwy’n falch i allu dweud bod cymdeithas cyflogwyr y prifysgolion UCEA a’r pum undeb llafur addysg uwch wedi cyhoeddi datganiad ar y cyd ar frechu.

Coronafeirws flwyddyn yn ddiweddarach a’r cyfnod ar ôl y Pasg

A hithau’n fis Mawrth, mae’n flwyddyn gyfan ers i coronafeirws drawsnewid popeth. Roedd 23 Mawrth yn ddiwrnod cenedlaethol i goffáu’r bywydau a gollwyd i COVID-19, a goleuwyd y Prif Adeilad yn felyn wrth i ni gofio’r cydweithwyr, cyfeillion ac aelodau o deuluoedd y torrwyd eu bywydau’n fyr gan y clefyd newydd dinistriol hwn. Ar 17 Mawrth roedd yn flwyddyn ers y diwrnod y cyhoeddon ni y dylai pawb ddechrau gweithio gartref oni bai ei bod yn hanfodol eu bod ar y campws. Rwy’n credu y byddai’r rhan fwyaf yn cytuno bod y symudiad hwn wedi bod yn llwyddiant ysgubol, ac y byddwn am gadw rhai elfennau o’r drefn wrth iddi ddod yn fwy posibl i ni ddefnyddio’r campws unwaith eto. Mae’r Gweinidog Addysg eisoes wedi nodi ei bod yn disgwyl i fwy o addysgu wyneb yn wyneb ailddechrau ar ôl egwyl y Pasg, er ei bod yn werth cofio bod rhai Ysgolion academaidd wedi parhau i ddysgu wyneb yn wyneb am resymau ymarferol trwy gydol y flwyddyn, ac eraill wedi ailddechrau gwaith ymarferol ar 22 Chwefror. Yn gynharach y mis hwn ymwelais â’r Ysgol Optometreg a Gwyddorau’r Golwg, ac yn fwy diweddar yr Ysgol Meddygaeth. Yn y ddau achos roedd myfyrwyr wrthi’n ymarfer amrywiol weithdrefnau clinigol mewn amgylchiadau COVID-ddiogel. Ar ôl y Pasg, bydd cyfle i’r holl Ysgolion ailddechrau addysgu neu gynnal digwyddiadau wyneb yn wyneb dan yr un amgylchiadau ag oedd ar waith cyn y Nadolig.

Gwn fod llawer o fyfyrwyr yn awyddus i allu gweld staff eto, a bod rhai staff yn edrych ymlaen yn fawr at allu mynd i’r adeilad unwaith eto a gallu gweld eu myfyrwyr wyneb-yn-wyneb. Rwyf i hefyd yn ymwybodol y gallai rhai pobl deimlo’n bryderus wrth feddwl am y peth. Dylai unrhyw aelod staff sydd â phryderon drafod y rhain gyda’u rheolwr llinell yn y lle cyntaf, a gallan nhw fanteisio ar offeryn asesu risg Llywodraeth Cymru ar gyfer gweithleoedd. Rhowch wybod i’ch rheolwr llinell hefyd pe byddai rhagor o wybodaeth gan Arbenigwr Iechyd Galwedigaethol o ddefnydd wrth nodi a oes angen addasiadau ai peidio. Mae cyngor ac arweiniad iechyd a diogelwch ar gael ar y fewnrwyd, a gellir codi unrhyw bryderon eraill gyda Dirprwy Is-Ganghellor y Coleg perthnasol neu’r Prif Swyddog Gweithredol, Claire Sanders.

Rydyn ni bob amser wedi ymrwymo i weithio’n golegol ac yn hyblyg i gefnogi staff academaidd a Gwasanaethau Proffesiynol, ac rydyn ni’n parhau i wneud, boed ar y campws neu o bell, neu gyfuniad o’r ddau. Dros y flwyddyn ddiwethaf rydyn ni wedi gwneud ymdrech fawr i sicrhau iechyd a diogelwch pawb, a byddwn yn parhau i wneud hynny. Mae’n bwysig iawn fod yr holl staff yn teimlo’n gyfforddus ac yn ddiogel wrth ein helpu i wneud y gorau y gallwn i’r myfyrwyr.

Ynghyd â chyflwyno’r brechlyn, bydd profi’n parhau’n elfen hanfodol yn ein gallu i amddiffyn cymuned y Brifysgol. Mae canllawiau diweddaraf Llywodraeth Cymru’n egluro y bydd gofyn i fyfyrwyr ddefnyddio ein gwasanaeth sgrinio ddwywaith ar ôl cyrraedd Caerdydd, ac yna ddwywaith yr wythnos am y mis i ddilyn. Bydd y gwasanaeth sgrinio wrth gwrs yn parhau i fod ar gael i chi ac rwy’n eich annog yn gryf i’w ddefnyddio mor aml ag sy’n angenrheidiol, fel yr wyf fi fy hun. Byddwn hefyd yn parhau i gyhoeddi ffigurau COVID-19 dyddiol ar gyfer staff a myfyrwyr ar ein gwefan.

Gwyliwch fy neges fer, wedi’i recordio, flwyddyn yn ddiweddarach.

Rhagfarn, trais ar sail rhywedd a throseddau casineb

Gan symud at set arall o bynciau sydd yr un mor ddifrifol, efallai eich bod wedi gweld eitemau yn y cyfryngau ar y cynnydd pryderus mewn hiliaeth wedi’i gyfeirio at bobl o China, neu o dreftadaeth Tsieineaidd. Mae’r dirywiad yn y berthynas rhwng y DU a China yn ffactor yn hyn o beth, fel y mae’r dyfalu am ffynhonnell wreiddiol SARS-CoV-2. Roedd yn amlwg o’r adroddiadau ar y cyfryngau, ac yn wir o adroddiadau mewnol gan y rhai yr effeithiwyd arnyn nhw, fod staff a myfyrwyr o Brifysgol Caerdydd yn wynebu’r math hwn o gamdriniaeth. Rydyn ni’n gweithio gyda’r gymuned i sefydlu cyfres o fesurau i helpu i fynd i’r afael â’r broblem, ond yn y cyfamser hoffwn apelio ar bawb i gynnig pa bynnag gefnogaeth y gallwch i’r rhai y mae’r datblygiad annymunol hwn yn effeithio arnyn nhw.

Y mis hwn hefyd gwelwyd ton fawr o deimlad cyhoeddus mewn perthynas â thrais ar sail rhywedd, yn dilyn llofruddiaeth erchyll Sarah Everard. Mae’n bosib fod rhai ohonoch wedi gweld y gofeb brotest o amgylch y goeden wrth y brif fynedfa i Barc Bute ger Ffordd y Gogledd, ac rydyn ni fel Prifysgol wedi bod yn gweithio ar nifer o fentrau yn hyn o beth ers tro.

Mewn ymateb i adroddiad UUK Newid y Diwylliant yn 2016, aeth Prifysgol Caerdydd ati’n gyflym i gyflwyno ffyrdd newydd o weithio gyda myfyrwyr y mae trais a cham-drin yn effeithio arnyn nhw. Yn ddiweddar rydyn ni wedi adolygu a gwella ein hymagwedd, yn seiliedig ar adborth myfyrwyr a thystiolaeth newydd. Arweiniodd hyn at lansio Ymrwymiad Trais a Cham-drin newydd. Gwnaed y gwaith hwn ar y cyd â chydweithwyr ar draws y Brifysgol a gyda phartneriaid allanol, a diolch yn arbennig i Amy Sykes sy’n gweithio yn nhîm Ben Lewis ym maes Cefnogi a Lles Myfyrwyr, am ei gwaith eithriadol ar hyn a’r meysydd eraill a amlinellir isod. Lansiwyd ein hymrwymiad gyda’n partneriaid cymunedol ar 8 Mawrth 2021, oedd hefyd yn Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod. Os oes gennych chi ddiddordeb yn y gwaith hwn, gallwch nodi yr hoffech gymryd rhan drwy gwblhau ein ffurflen mynegi diddordeb fer.

Menter allweddol arall yw datblygu ein Tîm Ymateb i Ddatgeliadau. Hon oedd un o’r rhaglenni cyntaf o’i math, a sefydlwyd tîm o staff proffesiynol arbenigol sydd wedi derbyn hyfforddiant ac sy’n ymateb i fyfyrwyr pan fyddan nhw’n datgelu achosion o drais neu gam-drin trwy ein teclyn datgelu ar-lein. Mae ein dull o Ymateb i Ddatgeliadau wedi’i nodi’n eang fel arfer da ac wedi’i fabwysiadu gan brifysgolion eraill ledled y DU. Yn ogystal, mae ein Hyfforddiant Gwyliedydd ar gael i’n holl fyfyrwyr. Mae’n canolbwyntio ar effaith pob math o drais a cham-drin sy’n effeithio ar fyfyrwyr ac yn darparu gwybodaeth am ffyrdd diogel i fyfyrwyr ymyrryd yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol os ydyn nhw’n dyst i drais neu gamdriniaeth. Yn olaf, mae ein Undeb Myfyrwyr rhagorol wedi lansio Ymgyrch Gofyn i Angela, i gefnogi datgeliadau gan fyfyrwyr sydd wedi teimlo’n anniogel yn eu hadeilad gyda’r nos.

Un canlyniad pwysig i’r protestiadau cyhoeddus yn fwy cyffredinol yw y bydd yn ddisgwyliedig am gyfnod arbrofol i bob heddlu drin gwreig-gasineb fel trosedd casineb, yn hytrach na dim ond yr 11 sydd hyd yma wedi gwneud penderfyniad unigol i wneud hynny. Mae hyn yn ymwneud â sut y caiff troseddau eu cofnodi yn unig, yn hytrach na’r gyfraith ar droseddau casineb, ond mae’n anfon neges glir bod angen trin y digwyddiadau hyn fel troseddau ac osgoi beio dioddefwyr.

Yn amlwg does dim digon o le i drafod pob math ar drosedd casineb yma – mae trais ar sail rhywedd yn cynnwys trais yn erbyn dynion a menywod draws wrth gwrs – ond mae’n werth nodi bod llyfr newydd wedi’i gyhoeddi ddiwedd y mis gan yr Athro Matthew Williams (sy’n arwain HateLab) o’r enw The Science of Hate: How prejudice becomes hate and what we can do to stop it (Faber a Faber, Llundain, 2021). Yn y llyfr nid yn unig y ceir dadansoddiad dadlennol o’r themâu a nodir yn y teitl, ond hefyd ddisgrifiad teimladwy o brofiad personol Matt o drosedd casineb, oedd y tu ôl i’w benderfyniad gwreiddiol i ddod yn droseddegydd. Er bod y gyfrol yn ddigon naturiol yn cynnwys nifer o ddisgrifiadau o droseddau casineb gofidus o bedwar ban byd, mae ynddi hefyd adrannau mwy calonogol, yn cynnwys yr hyn y gallwn ni ei wneud am y peth. Er enghraifft, fel y noda Matt “Yn y DU, yn dilyn pleidlais Brexit, ar Twitter roedd mynegi casineb yn cael ei foddi gan y defnyddwyr cyfryngau cymdeithasol hynny a ddaeth i gefnogi’r grwpiau oedd yn cael eu targedu.” Mae ymchwil HateLab wedi dangos bod ‘gwrth-fynegi’ o’r fath yn gallu atal lledaeniad casineb yn dilyn digwyddiad ar-lein. Ar yr un pryd gall fod yn wrthgynhyrchiol, yn enwedig os yw pobl yn sarhau ei gilydd, ac mae HateLab yn cynghori defnyddio set o egwyddorion i leihau’r tebygolrwydd o feithrin mwy o fynegi casineb yn anfwriadol. Bwriedir yr egwyddorion hyn ar gyfer yr amgylchedd ar-lein, ond rwy’n amau y gallai rhai ohonyn nhw fod yn ddefnyddiol mewn cyd-destunau eraill hefyd. Rwy’n eu dyfynnu yma fel canllaw ymarferol rhag ofn i bobl eu cael eu hunain mewn sefyllfa o eisiau gwrthsefyll rhywun sy’n rhagfarnllyd neu’n mynegi casineb:

  1. Dylech osgoi bod yn sarhaus neu fynegi casineb
  2. Cyflwynwch ddadleuon rhesymegol a chyson
  3. Gofynnwch am dystiolaeth os caiff honiadau ffug neu amheus eu gwneud
  4. Dywedwch y byddwch yn cyflwyno adroddiad i’r heddlu neu i drydydd parti os bydd mynegi casineb yn parhau ac/neu yn gwaethygu (e.e. yn mynd yn hynod o sarhaus neu’n cynnwys bygythiadau)
  5. Anogwch eraill hefyd i ymarfer gwrth-fynegiant
  6. Os yw’r cyfrif yn debygol o fod yn ffug neu’n bot, cysylltwch â’r cwmni cyfryngau cymdeithasol i ofyn iddo gael ei ddileu.

Rwyf i am bwysleisio nad annog diwylliant canslo yw hyn, ond gwrthwynebu mynegi casineb a helpu i’w wneud yn annerbyniol yn gymdeithasol. Mae’n broblem hynod o gymhleth lle mae gan y cwmnïau technoleg mawr rôl hanfodol, ond fel sy’n digwydd mor aml, mae gan bob un ohonom ni hefyd ran i’w chwarae.

Yn olaf yn yr adran hon, ers rhai blynyddoedd mae pob un o aelodau Bwrdd Gweithredol y Brifysgol wedi cytuno i hyrwyddo nodwedd warchodedig wahanol a chefnogi gweithgareddau yn y maes hwnnw. Gan fod nifer o newidiadau wedi bod i’r tîm ers i ni edrych ar hyn ddiwethaf, yn ddiweddar bu’r Dirprwy Is-Ganghellor Karen Holford yn gweithio gyda chydweithwyr i’w adnewyddu. Mae’r gyfraith yn gwarchod y rhan fwyaf o’r nodweddion canlynol ond nid pob un, ac mae aelodau’r Bwrdd Gweithredol wedi ymrwymo i hyrwyddo eu maes penodol:

  • Oedran: Mae Rob Williams yn cwmpasu’r ystod oedran gyfan gan gynnwys cyfleoedd i bobl iau yn ogystal â gwaith yn ymwneud â chyfrifoldebau gofal a chefnogaeth i ddementia
  • Anabledd: Yr Athro Rudolf Allemann, mewn cysylltiad â’r Rhwydwaith Staff ag Anabledd a’r Grŵp Llywio Anabledd newydd. Mae hwn yn faes sydd wir angen tynnu sylw ato
  • Hunaniaeth o ran rhywedd: Sue Midha – yma bydd cysylltiad â’r hyrwyddwr cyfeiriadedd rhywiol ar sawl agwedd, ond serch hynny mae’r rhain yn faterion ar wahân a phenodol
  • Priodas a phartneriaeth sifil: Yr Athro Ian Weeks
  • Beichiogrwydd a mamolaeth: TJ Rawlinson – mae hon yn ystyriaeth benodol i gydweithwyr sy’n gweithio ar gontractau ymchwil ond mae meysydd eraill lle gallwn edrych am gyfleoedd i wella’r gefnogaeth a gynigiwn
  • Hil: Rashi Jain – dyma gyfle i adeiladu ar y gwaith rhagorol sy’n cael ei wneud eisoes trwy gynnig llais clir ar lefel y Bwrdd Gweithredol
  • Crefydd neu gred: Yr Athro Damian Walford Davies
  • Rhyw: Yr Athro Kim Graham – mae Deddf 2010 yn amddiffyn dynion a menywod ond fel yr amlinellir uchod, mae data’n dangos bod angen mynd i’r afael yn benodol â gwahaniaethu yn erbyn menywod ym mhob maes
  • Cyfeiriadedd rhywiol: Yr Athro Claire Morgan – mae’r maes hwn eisoes yn gryfder, ond mae swyddogion myfyrwyr LHDT+ yn codi materion sydd angen eu gwella o ran profiad a chefnogaeth i fyfyrwyr
  • Statws economaidd-gymdeithasol: Claire Sanders – nid yw hyn wedi’i warchod dan y gyfraith ar hyn o bryd, ond mae’n allweddol i ni o ran recriwtio, cadw a chynnydd myfyrwyr, ac yn bwydo i raddau helaeth i’n gwaith gyda Chenhadaeth Ddinesig, materion cyhoeddus, allgymorth cymunedol a diwylliant.

Fel o’r blaen, mae Karen Holford a minnau’n parhau i fod yn gwbl ymrwymedig i gynnig goruchwyliaeth a chefnogaeth gref ym mhob un o’r meysydd hyn.

REF 2021

Yn olaf, ym mis Mawrth gwelwyd penllanw dros chwe blynedd o waith wrth i’r Athro Kim Graham, Rhag Is-Ganghellor Ymchwil, Arloesi a Menter, bwyso’r botwm o’r diwedd i anfon cyflwyniad Prifysgol Caerdydd. Mae Kim wedi cynnig arweinyddiaeth eithriadol wrth baratoi ein cyflwyniad, gan adeiladu ar waith rhagorol yr Athro Hywel Thomas ym mlynyddoedd cynharach y cylch REF hwn. Rwy’n ddiolchgar iawn i Kim am ei hymrwymiad, ymroddiad a chyfuniad rhagorol o agwedd strategol a sylw i fanylion. Mae Kim wedi arwain tîm sy’n dod o bob rhan o’r Brifysgol ac er ei bod bob amser yn anodd enwi unigolion, felly rwy’n ymddiheuro os wyf i’n anghofio unrhyw un, roeddwn i am gydnabod yr ymdrech anhygoel gan y tîm ar draws y sefydliad. Ar ran y Brifysgol gyfan rwy’n ddiolchgar i James Vilares am ei arweiniad rhagorol, a’i holl gydweithwyr yn y Gwasanaethau Proffesiynol, gan gynnwys Jenny Hulin, Roger Adams, Rachel Clarke, Rachel Baker, Clare Deane, Lindsay Roberts, Tom Haines, Christine Szinner, Cherylynn Silvia, Hayley Beckett, Helen Mullens, Caroline Clarke, Greg Thomas, Leila Hughes a Paul Goodwin.

Mae angen i mi ddiolch i’r 1,400 a mwy o gydweithwyr academaidd y mae eu hallbynnau ymchwil a’u hastudiaethau achos effaith wedi’u cynnwys. Rwy’n ymddiheuro na allaf enwi pawb am resymau amlwg, ond mae pob un ohonom ym Mhrifysgol Caerdydd yn ymwybodol iawn o’r gwaith rhagorol rydych chi’n ei gyfrannu i’r cydymdrech hwn a fydd, gobeithio, o fudd i bob un ohonom maes o law. Hoffwn ddweud gair o ddiolch i’r cydweithwyr academaidd sydd wedi neilltuo llawer o amser a sylw i’n helpu i lunio’r cyflwyniad fel cyfanrwydd, gan gynnwys: Roger Whitaker, Gill Bristow, Andy Westwell, Claire Gorrara, Sam Hibbitts, Mark Llewellyn, Kevin Fox, Peter Knowles ac, yn sicr nid y lleiaf, Malcolm Beynon. Soniais i am yr ymdrech tîm uchod, ac i roi syniad o ba mor helaeth y bu hwn, rydyn ni’n diolch i’r holl Ysgolion academaidd, eu staff Gwasanaethau Proffesiynol, Cyfarwyddwyr Ymchwil, Cyfarwyddwyr Effaith ac Arweinwyr Unedau Asesu, y Tîm Ymchwil Ar-lein yng Nghaerdydd (ORCA), y Tîm Systemau REF, y Tîm Effaith REF, a’r Grŵp Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant REF. Rhaid i ni aros am beth amser am y canlyniad, ond beth bynnag a ddaw, gallwn fod yn siŵr ein bod wedi gwneud ein gorau glas a chynyddu i’r eithaf ein siawns o wneud yn dda. Diolch i bawb.

Cofion gorau

Colin Riordan

Is-Ganghellor