
Gwyliwch fideo byr gan yr Is-Ganghellor, Colin Riordan, sy’n ailbwysleisio ein hymrwymiad i urddas a pharch i bawb.
Annwyl gydweithiwr/fyfyriwr
Gwyliwch fideo byr gan yr Is-Ganghellor, Colin Riordan, sy’n ailbwysleisio ein hymrwymiad i urddas a pharch i bawb.
Gwybodaeth i staff
Os yw’r materion sy’n cael eu trafod yn y fideo hwn wedi effeithio arnoch, mae cymorth ar gael:
- Mae eich rheolwr llinell neu Reolwr Adnoddau Dynol eich Ysgol neu eich Adran yn bwyntiau cyswllt cyntaf da
- Os oes angen cymorth arnoch, mae ein Rhaglen Cymorth i Weithwyr, Care First, ar gael 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos. Gellir ffonio llinell gymorth gyfrinachol y gwasanaeth, sy’n rhoi gwasanaeth cwnsela dros y ffôn, gwybodaeth arbenigol a chymorth mewn argyfwng, yn rhad ac am ddim.
- Cysylltwch â gwasanaeth diogelwch y campws os oes bygythiad o drais neu gamdriniaeth ar y campws ar hyn o bryd. Gallwch hefyd lawrlwytho a defnyddio’r ap SafeZone, a fydd yn eich galluogi i gysylltu â’r gwasanaethau diogelwch os oes angen help neu gymorth arnoch.
Gwybodaeth i fyfyrwyr
Os bydd trais neu gamdriniaeth, neu unrhyw rai o’r materion sy’n cael eu trafod yn y fideo hwn, wedi effeithio arnoch yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol, gallwn helpu.