Skip to main content

Newyddion Aelodau’r Bwrdd

Dychwelyd i Gaerdydd, eich arholiadau, Llais y Myfyrwyr a’ch diogelwch chi

16 Ebrill 2021
Claire Morgan

Darllenwch neges gan Claire Morgan, Rhag Is-Ganghellor Addysg a Myfyrwyr a anfonwyd ar 16 Ebrill.

Annwyl Fyfyriwr

Gobeithio eich bod wedi cael seibiant pleserus dros y Pasg. Rwy’n gwybod y bydd rhai ohonoch wedi ei dreulio yn parhau i gefnogi ymdrech frechu COVID-19 (a chydnabyddiaeth arbennig i Martha, un o’n myfyrwyr Meddygaeth yn y bedwaredd flwyddyn, a rhoddodd fy mrechlyn yr wythnos diwethaf), ac ar ran pawb yn y Brifysgol, rwyf am ddiolch i chi am y rhan bwysig rydych chi’n ei chwarae.

Cyn y gwyliau, ysgrifennais atoch gyda diweddariad gan Lywodraeth Cymru a gadarnhaodd y gallem ddychwelyd i ddull dysgu cyfunol o ddydd Llun. Bydd eich Ysgol wedi bod mewn cysylltiad i egluro beth mae hynny’n ei olygu i chi. Cafwyd diweddariadau pellach gan Lywodraeth Cymru ers hynny, ac mae’n galonogol gweld rhai arwyddion o ddychwelyd i normalrwydd, er bod yn rhaid i ni i gyd fod yn ofalus o hyd er mwyn atal achosion COVID-19 rhag cynyddu eto.

Mae’r ebost hwn yn hirach na’r arfer ond rwy’n awyddus i roi diweddariad llawnach i chi er mwyn i chi allu cymryd camau priodol lle bo angen.

Dychwelyd i Gaerdydd

Mae llawer ohonoch eisoes wedi dychwelyd i Gaerdydd i ddefnyddio cyfleusterau (megis llyfrgelloedd neu fannau astudio), tra ein bod hefyd yn gwybod y bydd rhai ohonoch yn dewis parhau i astudio o bell.

Os ydych chi nawr yn bwriadu teithio i Gaerdydd, byddwch yn ymwybodol o’r cyfyngiadau diweddaraf gan Lywodraeth Cymru a’r DU:

Teithio i Gaerdydd o’r tu mewn i’r Deyrnas Unedig neu’r Ardal Deithio Gyffredin:

Teithio i Gaerdydd o wlad ar y rhestr ambr:

  • Dywedwch wrth y Brifysgol am eich cynlluniau teithio trwy lenwi’r ffurflen fer hon – bydd y wybodaeth hon yn cael ei rhannu ag awdurdodau iechyd lleol at ddibenion sicrhau cydymffurfiad â chanllawiau Llywodraeth Cymru
  • Os ydych chi’n cyrraedd o wlad ar y rhestr ambr, bydd angen i chi lenwi ffurflen lleoli teithwyr cyn teithio. Mae hyn yn gofyn am gyfeiriad lle gallwch hunanynysu.
  • Ar ôl i chi gyrraedd Caerdydd, yna bydd angen i chi hunanynysu – mae hwn yn ofyniad llym y gallwch chi gydymffurfio ag ef os oes gennych chi ystafell en-suite naill ai mewn neuaddau preswyl sy’n eiddo i’r Brifysgol neu neuaddau preswyl eraill.
  • Os oes gennych ystafell en-suite rannol gydag ystafell ymolchi wedi’i rhannu ag un unigolyn arall yn unig, bydd angen i ni drafod hyn gyda chi, felly cysylltwch â Phreswylfeydd.
  • Os ydych chi mewn llety gyda chyfleusterau ystafell ymolchi wedi’u rhannu â nifer o bobl eraill, mae angen i chi gysylltu â Phreswylfeydd i drefnu ystafell en-suite ar gyfer y cyfnod ynysu 10 diwrnod gofynnol. Mae hwn ar gael i fyfyriwr sydd eisoes mewn llety Prifysgol ac yn byw yn rhywle arall.
  • Rydym yn cyflwyno cyfres o fesurau i’ch helpu chi yn ystod y cyfnod hwn, gan gynnwys gwasanaeth pryd o fwyd “clicio a darparu”. Byddwn yn rhoi £120 i fyfyrwyr yn y Farchnad ar gyfer y cyfnod ynysu 10 diwrnod, y byddwn yn ei ddosbarthu i neuaddau preswyl sy’n eiddo i’r Brifysgol a neuaddau preswyl eraill yng Nghaerdydd.
  • Bydd y Brifysgol hefyd yn ad-dalu cost y profion COVID-19 y bydd gofyn i chi eu cymryd ar ddiwrnodau 2 ac 8 ar ôl i chi ddychwelyd.
  • Er mwyn sicrhau eich bod chi’n cael y gefnogaeth hon gennym ni, mae’n hanfodol eich bod chi’n dweud wrthym am eich cynlluniau teithio.

Teithio i Gaerdydd o wlad ar y rhestr goch:

  • Os ydych chi’n teithio o wlad ar y rhestr goch, bydd angen i chi ddod i mewn i’r DU trwy borthladd mynediad a gymeradwywyd, a mynd i mewn i gyfnod o ‘gwarantîn wedi’i reoli‘ am 10 diwrnod mewn gwesty maes awyr yn y DU. Sylwch na allwch ddod i mewn i Gymru yn uniongyrchol o wlad ar y rhestr goch ar yr adeg hon.
  • Bydd y Brifysgol yn ad-dalu cost y profion COVID-19 y bydd gofyn i chi eu cymryd ar ddiwrnodau 2 ac 8 ar ôl dychwelyd.
  • Dywedwch wrth y Brifysgol am eich cynlluniau teithio trwy lenwi’r ffurflen fer hon – bydd y wybodaeth hon yn cael ei rhannu ag awdurdodau iechyd lleol at ddibenion sicrhau cydymffurfiad â chanllawiau Llywodraeth Cymru.

Mae profion COVID-19 rheolaidd yn ein cadw ni i gyd yn fwy diogel

Unwaith y byddwch chi yng Nghaerdydd (a lle bo hynny’n berthnasol, ar ôl eich cyfnod cwarantîn) parhewch i ddefnyddio ein gwasanaeth sgrinio ddwywaith yr wythnos os nad oes gennych symptomau COVID-19.

Yng Nghaerdydd (a Bro Morgannwg) mae symptomau COVID-19 erbyn hyn yn cynnwys y ddau symptom cyffredin (peswch parhaus newydd, tymheredd uchel, a/neu golli neu newid ymdeimlad o arogl neu flas) a symptomau eraill (blinder, myalgia – poen yn y cyhyrau, llwnc tost, pen tost, tisian, trwyn yn rhedeg, colli chwant bwyd, cyfog, chwydu, neu ddolur rhydd). Os oes gennych unrhyw un o’r symptomau hyn dylech hunanynysu a threfnu prawf COVID-19 y GIG.

Fodd bynnag, nid oes angen i’r rhai rydych chi’n byw gyda nhw hunanynysu hefyd os nad oes gennych chi unrhyw un o’r symptomau cyffredin.

Arholiadau ac asesiadau

Fel y gwyddoch, mae cyfnod arholiadau’r Gwanwyn rhwng 24 Mai 2021 a 18 Mehefin 2021.

  • Cyhoeddwyd amserlenni personol ar 22 Mawrth. Gallwch weld eich amserlen bersonol ar SIMS. Bydd eich amserlen i’w gweld o dan Fy Nghofnod Myfyriwr – Amserlen Arholiadau.
  • Eich cyfrifoldeb chi yw gwneud yn siŵr bod eich holl arholiadau’n ymddangos ar yr amserlen, a gwneud yn siŵr eich bod yn gwybod dyddiad/amser eich arholiadau, ac yn mynd i bob un ohonynt. Cysylltwch â Swyddfa eich Ysgol os oes gennych unrhyw gwestiynau am amserlen eich arholiadau.
  • Bydd Amgylchiadau Esgusodol yn berthnasol ar adegau pan mae amgylchiadau y tu hwnt i’ch rheolaeth yn effeithio ar eich gallu i berfformio hyd at eich potensial academaidd. Rydym wedi gwneud newidiadau i’r Polisi Amgylchiadau Esgusodol i’ch galluogi i hunan-ardystio os oes gennych amgylchiadau esgusodol, er enghraifft, estyniad awtomatig o bythefnos ar gyfer gwaith cwrs neu i ohirio arholiadau neu asesiad â therfyn amser.
  • Os hoffech gael cyngor ynghylch llenwi’r ffurflen amgylchiadau esgusodol, gallwch ofyn am gyngor annibynnol gan y gwasanaeth Cyngor i Fyfyrwyr yn Undeb y Myfyrwyr drwy ffonio +44 (0)29 2078 1410 neu ebostio advice@caerdydd.ac.uk.

Llais y Myfyrwyr – Llywio eich Prifysgol

Mae dydd Llun yn nodi lansiad yr Arolwg o Brofiad Ymchwilwyr Ôl-raddedig a Addysgir (PTES) a’r Arolwg o Brofiad Ymchwilwyr Ôl-raddedig Ymchwil (PRES). Mae’r ddau arolwg hyn yn rhoi cyfle i’n myfyrwyr ôl-raddedig ddweud wrthym am eu profiadau yn y Brifysgol, a fydd yn ein helpu i nodi meysydd lle gellid gwneud gwelliannau i brofiad myfyrwyr graddau ymchwil.

Mae’r arolygon yn edrych ar themâu sy’n benodol i fyfyrwyr ymchwil ôl-raddedig a addysgir neu ôl-raddedig, felly anogaf y myfyrwyr hynny sy’n gymwys i roi eu hadborth a dweud eu dweud.

Hoffwn hefyd eich atgoffa bod pob myfyriwr yn cael cyfle i roi adborth trwy ein harolwg misol o Cipolwg Caerdydd. Bydd yr adborth a roddwch yn cael ei ddefnyddio gan staff yn eich Ysgol i wella’r gefnogaeth a’r cyngor a gynigiwn i chi a’ch cydfyfyrwyr, a chyhoeddir y canlyniadau misol ar y fewnrwyd. Byddaf yn ceisio rhoi adborth i chi ar yr hyn yr ydym yn ei wneud gyda’r wybodaeth hon a mecanweithiau llais myfyrwyr eraill mewn ebost yn y dyfodol.

Eich diogelwch chi

Fel y gwyddoch efallai, bu rhai achosion o droseddu yn yr ardaloedd lleol o amgylch ein preswylfeydd.

Mae diogelwch ein holl fyfyrwyr yn hollbwysig ac felly rydym yn gofyn i bob myfyriwr sicrhau eu bod yn cario eu cardiau adnabod myfyriwr a, lle bo hynny’n berthnasol, eu cardiau adnabod preswylfeydd.

Rwyf hefyd am eich annog i beidio â dioddef unrhyw drais neu gamdriniaeth posibl ar eich pen eich hun. Mae cymorth ar gael, a gall Tîm Ymateb i Ddatgeliadau y Brifysgol a gwasanaethau amrywiol yn y gymuned eich cefnogi. Darllenwch ein cyngor ar sut i leihau unrhyw risgiau i’ch diogelwch personol.

Yn olaf, mae’n bleser gennyf groesawu gweddill ein myfyrwyr i Gaerdydd ar gyfer y tymor olaf hwn. Arhoswch yn ddiogel, edrychwch ar ôl eich ffrindiau ac os oes angen unrhyw gyngor neu gefnogaeth arnoch chi, peidiwch ag oedi cyn cysylltu â Chyswllt Myfyrwyr.

Dymuniadau gorau

Claire Morgan
Rhag Is-Ganghellor, Addysg a Myfyrwyr