Pecyn cymorth i fyfyrwyr – diweddariad
3 Mawrth 2021Darllenwch neges gan Claire Morgan, Rhag Is-Ganghellor, Addysg a Myfyrwyr, a anfonwyd ar y 3 Mawrth.
Annwyl Fyfyriwr
Yr wythnos ddiwethaf, gwnaethom rannu gwybodaeth am yr ad-daliad rhent sydd ar gael os ydych yn byw mewn preswylfeydd sy’n eiddo i’r Brifysgol. Dywedais y byddwn yn anfon diweddariad pellach, yn egluro sut i gael gafael ar y pecyn cymorth ehangach sydd ar gael i chi yn ystod y cyfnod anodd hwn.
Rwy’n ymwybodol o’r effaith y mae’r newidiadau yr ydym wedi’u rhoi ar waith, ac addasu ar eu cyfer, yn ei chael ar ein lles. Rwyf hefyd yn ymwybodol pa mor bwysig yw edrych ar ôl ein hunain. Os ydych chi’n cael anawsterau, cofiwch fanteisio ar y cymorth rydym yn ei ddarparu – sydd ar gael i chi lle bynnag yr ydych yn byw ac astudio.
Ein pecyn cymorth i fyfyrwyr – parhad
Rydym bellach yn gallu cadarnhau’r cyllid ychwanegol yn ein pecyn cymorth, gan gynnwys y cymorth sydd ar gael i ni drwy ddyraniad Cyngor Cyllid Addysg Uwch Cymru (CCAUC) gan Lywodraeth Cymru. Mae prif elfennau’r pecyn wedi’u nodi isod (1-3).
Diolch am eich amynedd wrth i ni gydlynu dosbarthiad yr arian rhwng wyth o sefydliadau Addysg Uwch Cymru mewn ffordd deg a chyson. Mae wedi golygu llawer o waith cynllunio a chydlynu mewn cyfnod eithaf byr, a dyna’r rheswm dros yr amser rhwng y cyhoeddiad gwreiddiol a diweddariad heddiw.
Darllenwch y wybodaeth isod yn ofalus – mae gan rannau gwahanol o’r pecyn feini prawf gwahanol a therfynau amser gwahanol y bydd angen glynu atynt cyn gwneud cais.
1. Cronfa Cymorth i Fyfyrwyr COVID-19
Yn debyg i brifysgolion eraill yng Nghymru, gallwn gadarnhau nawr y gall pob myfyriwr sy’n ei chael hi’n anodd talu costau hanfodol o ganlyniad uniongyrchol i’r pandemig gael gafael ar £350 o’r Gronfa Cymorth i Fyfyrwyr COVID-19 newydd. Mae’r cyllid ar gael i fyfyrwyr:
- israddedig neu ôl-raddedig
- cartref amser llawn (DU) neu ryngwladol
- a myfyrwyr rhan-amser sy’n astudio 60 credyd neu fwy yn ystod blwyddyn academaidd 2020-21.
I ddechrau, bydd y cynllun yn agored ar gyfer ceisiadau (trwy SIMS) o’r wythnos sy’n dechrau ddydd Llun 15 Mawrth.
Bydd y broses ymgeisio’n syml, a bydd angen i chi:
- Restru’r costau yr ydych yn methu eu talu (e.e. rhent, biliau cyfleustodau)
- Rhoi’r prif reswm/rhesymau dros fethu â’u talu (e.e. colli incwm, costau ychwanegol)
- Cadarnhau bod y pandemig COVID-19 wedi effeithio ar eich sefyllfa ariannol
- Nodi eich manylion banc.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau am gronfa Cymorth i Fyfyrwyr COVID-19 ebostiwch covid19supportfund@caerdydd.ac.uk
2. Cefnogaeth bellach i fyfyrwyr sy’n cael eu hadnabod fel rhai sydd wedi gweld mwy o effaith andwyol oherwydd y pandemig
Yn ogystal ag Cronfa Cymorth i Fyfyrwyr COVID-19 uchod, byddwn yn darparu cefnogaeth ychwanegol i grwpiau o fyfyrwyr y mae Llywodraeth Cymru wedi tynnu sylw atynt fel rhai sy’n cael eu heffeithio’n fwy niweidiol gan y pandemig. Mae’r grwpiau hyn yn cynnwys:
Israddedigion
- Os yw’r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr wedi asesu incwm eich cartref fel £25,000 neu’n is, byddwch yn derbyn bwrsari atodol gan y Brifysgol o £350. Telir hwn yn uniongyrchol i’r cyfrif banc y mae eich cyllid myfyriwr yn cael ei dalu iddo; does dim angen i chi wneud unrhyw beth.
- Os ydych chi’n cael eich ariannu gan y GIG ac wedi cael eich asesu gan Wobrau Bwrsariaeth y GIG fel un sydd ag incwm cartref o £25,000 neu’n is, byddwch hefyd yn derbyn bwrsari atodol o £350. Ar hyn o bryd rydym yn gweithio allan sut y byddwn yn prosesu hyn a byddwn mewn cysylltiad â chi’n uniongyrchol.
Israddedigion ac Ôl-raddedigion
- Os ydych eisoes wedi dweud wrthym eich bod yn ymadawr gofal/wedi ymddieithrio oddi wrth eich teulu neu os ydych yn ofalwr, byddwch yn derbyn bwrsariaeth atodol o £350 os nad ydych eisoes wedi derbyn un ar sail eich asesiad incwm cartref fel y nodwyd uchod. Os ydych chi’n meddwl eich bod yn perthyn i un o’r grwpiau hyn o bosibl, ar ôl darllen y diffiniadau hyn, cysylltwch â studentfundingandadvice@caerdydd.ac.uk i drafod ymhellach.
Bydd dosbarthiad yr arian hwn yn cymryd peth amser i’w weinyddu, ac rydym yn gwerthfawrogi eich amynedd yn y mater hwn. Ein nod yw talu’r rhai sy’n gymwys ar gyfer yr ychwanegiadau hyn erbyn diwedd mis Mehefin.
Os ydych wedi’ch cofrestru gyda’r brifysgol fel myfyriwr anabl rydym yn rhoi dyfarniadau cymorth dysgu penodol ar waith i helpu i ariannu’r newidiadau y bu’n rhaid i chi eu gwneud i ddarparu ar gyfer eich dysgu. Byddwn mewn cysylltiad uniongyrchol â chi ynglŷn â’r cynllun hwn os yw’n berthnasol i chi.
Rydym yn parhau i gynnig y Cynllun Cymhwysedd Digidol a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd. Mae ar gyfer unrhyw fyfyriwr nad oes ganddo’r offer sydd ei angen ar gyfer ei raglen astudio. Byddwn yn newid y cynllun ychydig er mwyn ei wella, a’i wneud yn fwy hygyrch.
Rydym hefyd yn dal i gynnig ein Rhaglen Cymorth Ariannol sy’n rhoi cymorth â phrawf modd i unrhyw fyfyriwr sy’n profi caledi ariannol. Rydym wedi rhoi arian ychwanegol i’r rhaglen hon eleni.
3. Ad-daliad rhent i fyfyrwyr sy’n byw yn ein preswylfeydd – diweddariad
Bu i’r dasg SIMS ar gyfer rhan arall o’n pecyn cymorth ariannol i fyfyrwyr, sef ad-daliadau rhent i fyfyrwyr mewn preswylfeydd y Brifysgol, yn fyw ddoe (dydd Mawrth 2 Mawrth). Mae myfyrwyr cymwys wedi cael diweddariad ar y cymorth sydd ar gael a’r broses gysylltiedig.
Eich cefnogi chi
Rydym yma ar eich cyfer ac yn gwneud popeth posibl i’ch helpu drwy wneud yn siŵr fod y gefnogaeth briodol ar gael. Mae hyn yn cynnwys:
- Ein gwasanaeth Student Connect – eich pwynt cyswllt cyntaf o hyd er mwyn cael cefnogaeth. Mae gennym hefyd adnoddau hunangymorth ar gyfer rheoli pryder a heriau eraill. Mae TalkCampus yn wefan rhwydweithio cymdeithasol sy’n cynnig lle diogel i chi siarad yn ddienw am unrhyw beth sy’n peri pryder i chi.
- Gallwch gysylltu â Swyddfa eich Ysgol neu eich Tiwtor Personol Academaidd
- Rydym yn parhau i ofyn, os ydych yng Nghaerdydd, neu’n dychwelyd atom yn fuan, eich bod yn defnyddio ein gwasanaeth sgrinio i rai heb symptomau.
Gobeithio y bydd hyn o gymorth i chi i gyd, a diolch am eich amynedd wrth i ni gydlynu’r cyllid sydd ar gael i chi.
Byddaf yn cysylltu eto maes o law ar ôl derbyn rhagor o ddiweddariadau gan Lywodraeth Cymru ar ddychwelyd i addysgu ar ôl y Pasg. Os ydych eisoes wedi dychwelyd i Gaerdydd, dilynwch y mesurau diogelwch sydd ar waith.
Dymuniadau gorau
Claire Morgan
Rhag Is-Ganghellor, Addysg a Myfyrwyr
- Mehefin 2024
- Mai 2024
- Ebrill 2024
- Chwefror 2024
- Ionawr 2024
- Rhagfyr 2023
- Tachwedd 2023
- Hydref 2023
- Medi 2023
- Awst 2023
- Gorffennaf 2023
- Mehefin 2023
- Mai 2023
- Ebrill 2023
- Mawrth 2023
- Chwefror 2023
- Ionawr 2023
- Rhagfyr 2022
- Tachwedd 2022
- Hydref 2022
- Medi 2022
- Awst 2022
- Gorffennaf 2022
- Mehefin 2022
- Mai 2022
- Ebrill 2022
- Mawrth 2022
- Chwefror 2022
- Ionawr 2022
- Rhagfyr 2021
- Tachwedd 2021
- Hydref 2021
- Medi 2021
- Awst 2021
- Gorffennaf 2021
- Mehefin 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Chwefror 2020
- Ionawr 2020
- Rhagfyr 2019
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Medi 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018
- Ebrill 2018
- Mawrth 2018
- Chwefror 2018
- Ionawr 2018
- Rhagfyr 2017
- Tachwedd 2017
- Hydref 2017
- Medi 2017
- Awst 2017
- Gorffennaf 2017
- Mehefin 2017
- Mai 2017
- Ebrill 2017
- Mawrth 2017
- Chwefror 2017
- Ionawr 2017
- Rhagfyr 2016
- Tachwedd 2016
- Hydref 2016
- Medi 2016
- Awst 2016
- Gorffennaf 2016
- Mehefin 2016
- Mai 2016
- Ebrill 2016
- Mawrth 2016
- Chwefror 2016
- Ionawr 2016
- Rhagfyr 2015
- Tachwedd 2015
- Hydref 2015
- Medi 2015
- Awst 2015
- Gorffennaf 2015
- Mehefin 2015
- Mai 2015
- Ebrill 2015
- Mawrth 2015
- Chwefror 2015
- Ionawr 2015
- Rhagfyr 2014
- Tachwedd 2014
- Hydref 2014
- Medi 2014