Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil, cyllid HEFCW, llongyfarch staff
26 Chwefror 2021
Darllenwch neges a anfonodd yr Is-Ganghellor at yr holl staff heddiw (26 Chwefror 2021).
Annwyl gydweithiwr
Hoffwn ddechrau ebost y mis hwn drwy ailadrodd fy ngwerthfawrogiad a’m diolch i’r holl staff am eich ymdrechion anhygoel i gefnogi ein myfyrwyr drwy’r flwyddyn anodd hon. Ar ôl siarad â nifer fawr o gydweithwyr sy’n addysgu modiwlau i’n myfyrwyr (wyneb yn wyneb ac o bell) wrth oruchwylio addysg gartref eu plant eu hunain ar yr un pryd, rwy’n ymwybodol iawn o’r baich y mae hyn yn ei roi ar deuluoedd. Mae’r galwadau ar wytnwch pobl yn enfawr, gan gynnwys y rhai sydd wedi bod yn hunanynysu neu sydd wedi profi teimladau ynysig parhaus yn ystod y cyfnod clo hir yr ydym oll wedi bod yn rhan ohono. Mae hyn yn berthnasol i’r holl staff wrth gwrs; nid yn unig y rhai sy’n ymwneud ag addysgu, ac nid yn unig y rhai â theuluoedd ifanc, ac rwy’n ymwybodol iawn o’r cydweithwyr hynny sy’n parhau i gefnogi ein myfyrwyr ac sy’n helpu i’w cadw’n ddiogel yn eu llety yn ogystal ag yn y labordy neu’r lleoliad sy’n gysylltiedig ag iechyd.
Yn benodol, y mis hwn hoffwn dalu teyrnged i’r llawer o gydweithwyr sy’n gweithio mor galed i gwblhau ein cyflwyniad i Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) 2021, fydd yn cael ei gyflwyno fis nesaf. Yn fy mhrofiad eithaf hir o Ymarfer Asesu Ymchwil a chyflwyniadau REF wedi hynny, rydym wedi paratoi’n eithriadol o dda. Mae’n broses sy’n gofyn am ymdrech enfawr, meddwl yn strategol, meddwl yn dactegol a thalu sylw i fanylion. Byddai’n anodd ceisio enwi pawb sydd ynghlwm neu enwi unigolion, ond yn ogystal â’r tîm craidd REF, mae cannoedd o bobl ledled y Brifysgol wedi bod wrthi, ar draws ein holl Ysgolion academaidd ac ystod o Wasanaethau Proffesiynol, yn enwedig RIS, y VCO a’r Gwasanaethau Llyfrgelloedd a Gwybodaeth. Mae hon yn ymdrech tîm enfawr sy’n delio â chyflwyniad digynsail o fawr – mae’r niferoedd bron wedi dyblu o’u cymharu â’r tro diwethaf, a channoedd o flaen y tro cyn hynny – ac felly hyd yn oed o ran maint pur, byddwn yn gosod record newydd ar gyfer Prifysgol Caerdydd pan fydd y botwm ‘cyflwyno’ yn cael ei glicio o’r diwedd ar 31 Mawrth. Mae cyflawni hyn i gyd trwy gydol y pandemig wedi gofyn am ymrwymiad ac ymroddiad rhagorol ac rwy’n ddiolchgar i bawb a gymerodd ran.
Rydym yn rhan o lawer o dimau wrth gwrs ac un arall sy’n dod i’r meddwl yw Consortiwm COVID-19 Genomeg y DU (COG-UK), a sefydlwyd fis Ebrill diwethaf i roi trefn ar, a dadansoddi, genomau SARS-CoV-2. Mae hwn yn waith cwbl hanfodol oherwydd dyma’r broses lle mae newidiadau yn y feirws yn cael eu nodi a’u tracio, a dyma sut mae’r amrywiadau sy’n peri pryder yn cael eu rhoi ar yr agenda iechyd cyhoeddus. Dim ond os gallwn ddeall sut mae’r feirws yn esblygu y gallwn fod yn barod ar gyfer y posibilrwydd bod y brechiadau’n llai effeithiol o bosib, neu’r angen i ni addasu ymyriadau cyhoeddus eraill er mwyn ystyried mwy o drosglwyddadwyedd neu newidiadau eraill sy’n peri gofid. Mae COG-UK yn dîm enfawr lle mae Prifysgol Caerdydd yn chwarae rhan allweddol. Mae’r Athro Tom Connor o Ysgol y Biowyddorau yn arwain ein cyfraniad ac, wrth weithio gydag Uned Genomeg Pathogen Iechyd Cyhoeddus Cymru, mae ei labordy bellach wedi dadansoddi dros 30,000 o genomau coronafeirws yng Nghymru, yn ogystal â gweithio gyda’i gyfaill yn Birmingham, yr Athro Nick Loman, i darparu’r seilwaith craidd ar gyfer casglu a dadansoddi data SARS-CoV-2 ledled y DU fel rhan o COG-UK. Wrth i mi ysgrifennu, mae COG-UK bron wedi rhoi trefn ar, a dadansoddi 300,000 o genomau feirysol yn y DU hyd yn hyn, ac rwy’n siŵr, os cliciwch ar y ddolen ar ddechrau’r paragraff hwn, y byddwch yn gweld bod y nifer honno wedi’i diweddaru.
Roedd Tom Connor yn rhan o’r tîm a greodd COG-UK fis Mawrth diwethaf ac mae’n eistedd ar ei grŵp llywio. Mae hwn yn fater eithaf technegol wrth gwrs felly er mwyn cynorthwyo fy nealltwriaeth rwyf wedi siarad â Tom amdano, gan gadw mewn cof ei bwysigrwydd i’n cyfleoedd i ddod allan o’r pandemig i ddechrau rhyngweithio’n bersonol eto, na all bywyd normal fynd yn ei flaen hebddo. Gyda’i ganiatâd, rwy’n rhannu pwyntiau allweddol esboniad Tom gyda chi yma. Mae’n egluro, er ein bod ni’n gwneud rhywfaint o’r dilyniant gwirioneddol, mai wrth ddadansoddi’r data sy’n deillio o hyn y mae ein cyfraniad allweddol: ‘Heb yr arbenigedd biowybodeg/dadansoddi a ddarparwn, ni fyddai unrhyw ganlyniadau i’w dehongli na gweithredu arnynt. Felly er y gallai rhywun roi trefn ar samplau, y peth sy’n gwneud y dilyniant yn ddefnyddiol ac yn ddefnyddiadwy yw’r prosesu a’r dadansoddi a wneir ar y data crai hwnnw – a dyna lle mae ein harbenigedd a’n maes gweithgaredd yn gorwedd mewn gwirionedd. Mae’n bwysig nodi hefyd bod gan Uned Genomeg Pathogen ICC berthynas wych â’r Hwb Genomeg yn Ysgol y Biowyddorau, a bod yr Hwb Genomeg wedi cefnogi ymdrechion dilyniannu pan fydd ICC wedi bod angen gwaith dilyniant ychwanegol y tu hwnt i allu dilynwyr y GIG. Rwy’n gwybod bod y tîm yn ddiolchgar iawn am y berthynas honno ac am yr help y maen nhw wedi’i gael yn ystod y flwyddyn ddiwethaf gan dîm yr Hwb Genomeg.’
Hoffwn gydnabod gwaith tîm Tom a phawb sy’n gweithio ar yr ymdrech genomeg covid – yn enwedig tîm yr Hwb Genomeg – ym Mhrifysgol Caerdydd. Gwerthfawrogir eu hymdrechion yn fawr ac maent yn hanfodol i ddyfodol pob un ohonom. Cyn belled ag y mae’r Brifysgol yn y cwestiwn, mae ein harbenigedd genomeg, ynghyd â’n gwasanaeth sgrinio sy’n caniatáu i ni brofi am bresenoldeb coronafirws ym mhoblogaeth y Brifysgol, yn ein rhoi mewn sefyllfa gref iawn. Yn anffodus, bydd covid gyda ni am y tymor hir a bydd gallu mewnol i brofi, adnabod ac olrhain y feirws o ran genomeg, ynghyd â gwaith rhagorol Iechyd Cyhoeddus Cymru a’r tîm Profi ac Olrhain Cyngor Dinas Caerdydd, yn hynod werthfawr hyd y gellir rhagweld.
Wedi dweud hynny, fel rydyn ni i gyd yn gwybod, mae’r rhaglen frechu yng Nghymru ac yn y DU yn fwy cyffredinol yn mynd yn dda iawn. Y cyngor rwy’n ei dderbyn gan ein harbenigwyr yw bod dim lle i laesu dwylo. Gallwn fod yn optimistaidd, ac efallai nad oedd hynny’n wir am bob cam o ddatblygiad y pandemig. Gan gadw hynny mewn cof, byddwn yn adolygu’r sefyllfa ar ailddechrau addysgu wyneb yn wyneb y tu hwnt i raglenni gyda chynnwys ymarferol, felly ar ôl adolygiad nesaf Llywodraeth Cymru ar 12 Mawrth, byddaf yn adrodd yn ôl maes o law.
Yn y cyfamser, mae ein myfyrwyr yn haeddu ein holl gefnogaeth a gwerthfawrogiad am y ffordd gyfrifol y maent yn delio â’r amgylchiadau anodd parhaus hyn. Mae cyfraddau haint ymhlith ein myfyrwyr yn parhau i fod yn isel iawn (ac mae mwy na hanner ein myfyrwyr yma yng Nghaerdydd ar hyn o bryd) ac mae cyfraddau profion positif sy’n codi o’n gwasanaeth profi asymptomatig yn isel iawn hefyd, felly dim ond niferoedd bach sy’n hunanynysu ar unrhyw un adeg, ac ni fu cynnydd sylweddol mewn heintiau yn ystod y flwyddyn galendr hon. Rydym mor gefnogol â phosibl, ac yn cysylltu â phrifysgolion eraill yng Nghymru ynghylch talu’r £40m o gyllid cymorth i fyfyrwyr y mae Llywodraeth Cymru – mewn gweithred o ragwelediad a dealltwriaeth wych – wedi ei ddarparu i’r sector, ac mae cyfran Prifysgol Caerdydd o hwnnw yn £10.5m. Gan ein bod wedi cytuno i gael set gyffredin o feini prawf ledled Cymru (a gydlynir gan ein Cyfarwyddwr Cymorth a Lles Myfyrwyr ein hunain, Ben Lewis), mae wedi cymryd ychydig o amser i gwblhau’r cynllun, ond rydym yn disgwyl y bydd cyhoeddiad yn ystod yr wythnos neu ddeg diwrnod i ddod. Bydd gan bob myfyriwr, beth bynnag ei lefel neu o ble mae’n hanu, fynediad at ryw fath o arian cymorth a gobeithiwn y bydd hyn yn helpu i liniaru rhai o’r anawsterau y maent yn eu hwynebu. Rydym wedi cynnig ad-daliadau rhent yn gyson i fyfyrwyr nad oes angen iddynt ddefnyddio llety Prifysgol neu sydd wedi methu â gwneud hynny, ac mae’r polisi hwnnw’n parhau, felly bydd pecyn defnyddiol ar gael i bawb. Fe wnaethom sicrhau na fyddai angen i fyfyrwyr dalu am lety Prifysgol nad oeddent yn ei ddefnyddio yn ystod y cyfnod clo y gwanwyn diwethaf, ac rydym wedi mynd ati yn yr un modd ar ran myfyrwyr sy’n gwneud cais llwyddiannus i astudio o bell. Mae’r polisi hwnnw’n parhau a bydd yn rhan o’r pecyn defnyddiol a chynhwysfawr hwn i’n myfyrwyr.
O ran cyllid, efallai eich bod wedi gweld yn Blas bod y Brifysgol wedi llwyddo i gyhoeddi galwad arall ar y bond a godwyd yn wreiddiol yn 2016. Roedd yr alwad £100m wedi’i gordanysgrifio’n helaeth ac mae wedi arwain at enillion net o £125m, sy’n ganlyniad rhagorol ac yn helpu i roi cyllid y Brifysgol mewn sefyllfa gref er gwaethaf yr heriau enfawr yr ydym wedi bod yn eu hwynebu. Mae’n bwysig cydnabod nad yw’r elw ar gael i’w wario o ddydd i ddydd, ond bydd yn caniatáu i ni fuddsoddi yn y dyfodol i ystyried gofynion strategol allweddol megis adeiladu seilwaith digidol sy’n addas i ofynion byd covid, a mae buddsoddi yn ein cyfleusterau iechyd fel Ysbyty Prifysgol Cymru yn cael ei ailddatblygu yn y blynyddoedd i ddod. Am y tro, bydd y rhan fwyaf o’r enillion yn cael eu buddsoddi i roi enillion, gan gynnwys mewn cronfa a ddyluniwyd i ad-dalu’r bond pan fydd yn ddyledus yn 2055.
Gan droi at eitemau newyddion eraill, roedd yn braf gweld ein prosiect mentora Ieithoedd Tramor Modern (MFL) yn cael ei drafod yn y Senedd yn gynharach y mis hwn. Rhoddodd y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams, a Gweinidog Addysg yr Wrthblaid, Suzy Davies, eu gwahaniaethau gwleidyddol o’r neilltu i roi canmoliaeth helaeth i’n prosiect MFL, sy’n annog disgyblion ysgol i ystyried ieithoedd fel pwnc yn y brifysgol. Roedd hyn yn rhan o ddadl fer o’r enw ‘Pam nad ydym yn caru ieithoedd rhyngwladol’, cwestiwn rhagorol ar adeg pan mae’r DU yn dod o hyd i’w ffordd yn y byd y tu allan i’r UE. Mae’r prosiect wedi bod yn llwyddiannus iawn ac mae’n fodel ar gyfer y DU, ac roedd yn wych gweld cydlynydd y prosiect, Lucy Jenkins, yn cael ei thrafod yn unigol. Wrth gwrs yr Ysgol Ieithoedd Modern sy’n gyrru hyn, ac mae angen rhoi cydnabyddiaeth arbennig i’r Athro Claire Gorrara, eiriolwr diflino dros ieithoedd, a oedd yn Bennaeth Ysgol ar ddechrau’r prosiect.
A fel ffordd ddefnyddiol o’n hatgoffa bod materion iechyd sylweddol y tu hwnt i covid, llongyfarchiadau i Dr Tony Redmond o’r Ysgol Optometreg a Gwyddorau Golwg, sydd wedi llwyddo i sicrhau grant o £1.86m gan y Cyngor Ymchwil Feddygol i ddadansoddi effeithiau glawcoma mewn ffordd mwy manwl gywir, clefyd gwanychol y llygad sydd fel arfer yn gysylltiedig ag oedran ac a all arwain at nam gweledol difrifol neu ddallineb. Mae Dr Redmond yn arwain tîm gydag aelodau ym Mhrifysgol Ulster ac UCL, sy’n anelu at drosi gwaith arbrofol yng Nghaerdydd ar fesur craffter maes gweledol yn weithdrefnau y gellir eu defnyddio gyda chleifion mewn lleoliad clinigol. Mae hwn yn brosiect pwysig ac yn dyst i’r ymchwil ragorol sy’n cael ei wneud yn yr Ysgol Optometreg a Gwyddorau Golwg.
Yn olaf, mae’n wych gweld bod Caerdydd yn cyfrannu mewn ffordd proffil uchel i’r ddadl ar addysgu. Fel y dywedais y tro diwethaf, mae yna rai heriau mawr o’n blaenau wrth feddwl am yr hyn y mae’r byd oes covid yn ei olygu i’n hymarfer wrth addysgu a dysgu, ac mae hynny’n mynd i fod yn wahanol o bwnc i bwnc. Mae Dr Andrea Jiménez Dalmaroni yn yr Ysgol Ffiseg yn gweithio gydag UCL a’n Canolfan Cymorth ac Arloesi Addysg ein hunain i drefnu cyfres o Weminarau Ymchwil Addysg STEM gyda rhestr wych o siaradwyr yn amrywio dros set gyfan o bynciau nad ydynt wedi’u cyfyngu i covid o bell ffordd. Gallwch barhau i wylio darlithoedd yn y gorffennol ac mae mwy i ddod, ond fy ffefryn personol (ac rwy’n ddiolchgar i Rudolf Alleman am dynnu fy sylw ato) yw gweminar gan Eric Mazur o Harvard o’r enw ‘Assessment: the Silent Killer of Learning‘. Mae’r teitl yn unig yn ddigon i fachu diddordeb unrhyw addysgwr, ac mae’n werth ei wylio.
Cofion gorau
Colin Riordan
Is-Ganghellor
- Tachwedd 2023
- Hydref 2023
- Medi 2023
- Awst 2023
- Gorffennaf 2023
- Mehefin 2023
- Mai 2023
- Ebrill 2023
- Mawrth 2023
- Chwefror 2023
- Ionawr 2023
- Rhagfyr 2022
- Tachwedd 2022
- Hydref 2022
- Medi 2022
- Awst 2022
- Gorffennaf 2022
- Mehefin 2022
- Mai 2022
- Ebrill 2022
- Mawrth 2022
- Chwefror 2022
- Ionawr 2022
- Rhagfyr 2021
- Tachwedd 2021
- Hydref 2021
- Medi 2021
- Awst 2021
- Gorffennaf 2021
- Mehefin 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Chwefror 2020
- Ionawr 2020
- Rhagfyr 2019
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Medi 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018
- Ebrill 2018
- Mawrth 2018
- Chwefror 2018
- Ionawr 2018
- Rhagfyr 2017
- Tachwedd 2017
- Hydref 2017
- Medi 2017
- Awst 2017
- Gorffennaf 2017
- Mehefin 2017
- Mai 2017
- Ebrill 2017
- Mawrth 2017
- Chwefror 2017
- Ionawr 2017
- Rhagfyr 2016
- Tachwedd 2016
- Hydref 2016
- Medi 2016
- Awst 2016
- Gorffennaf 2016
- Mehefin 2016
- Mai 2016
- Ebrill 2016
- Mawrth 2016
- Chwefror 2016
- Ionawr 2016
- Rhagfyr 2015
- Tachwedd 2015
- Hydref 2015
- Medi 2015
- Awst 2015
- Gorffennaf 2015
- Mehefin 2015
- Mai 2015
- Ebrill 2015
- Mawrth 2015
- Chwefror 2015
- Ionawr 2015
- Rhagfyr 2014
- Tachwedd 2014
- Hydref 2014
- Medi 2014