Cefnogaeth ariannol i bob myfyriwr, ad-daliadau rhent i fyfyrwyr yn llety’r Brifysgol a gwerthuso modiwlau
26 Chwefror 2021Darllenwch neges gan Claire Morgan, Rhag Is-Ganghellor, Addysg a Myfyrwyr, a anfonwyd ar y 25 Chwefror.
Annwyl Fyfyriwr
Er bod y cyhoeddiad yr wythnos hon am sut bydd cyfyngiadau COVID-19 yn cael eu llacio gam wrth gam yn Lloegr yn cynnig llygedyn o obaith y byddwn yn gweld bywyd yn dychwelyd i ryw fath o ‘normal’ yn ystod y misoedd nesaf, yng Nghymru rydym yn aros am y cyhoeddiad nesaf gan Lywodraeth Cymru ganol mis Mawrth. Rydym yn gobeithio y bydd yn ein helpu i ailddechrau addysgu wyneb yn wyneb ar ôl Gwyliau’r Pasg – yn amodol ar drefniadau eich Ysgol a gofynion eich cwrs. Yn y cyfamser, os ydych yng Nghymru, parhewch i ddilyn y canllawiau ar gyfer ‘lefel rhybudd 4‘.
Pecyn cymorth i fyfyrwyr
Ar hyn o bryd, rydym yn paratoi pecyn cymorth cynhwysfawr ar eich cyfer. Mae rhywfaint o’r cyllid ar gyfer y pecyn hwn yn dod o’r £40m y mae Llywodraeth Cymru wedi’i roi i brifysgolion Cymru i gefnogi myfyrwyr. Mae Llywodraeth Cymru wedi gofyn i ni gydweithio’n agos â phrifysgolion eraill yng Nghymru i gytuno ar sut caiff y cyllid hwn ei ddosbarthu mewn ffordd deg a hygyrch. Ar ôl dod i gytundeb, byddwn yn rhannu rhagor o wybodaeth am sut gellir cael gafael ar y cyllid hwn, gan gynnwys sut y gall myfyrwyr, nad ydynt yn ein preswylfeydd, gael gafael ar gymorth ariannol. Byddaf yn cysylltu â chi i roi rhagor o newyddion am ein pecyn cymorth dros yr wythnosau nesaf, felly cadwch lygad ar eich ebost Prifysgol.
Ad-daliad rhent i fyfyrwyr sy’n byw yn ein preswylfeydd
Yn y cyfamser, rwy’n awyddus i dynnu eich sylw at ran arall, ar wahân, o’r pecyn cymorth hwn – ad-daliadau rhent o’r Brifysgol i fyfyrwyr ym mhreswylfeydd Prifysgol Caerdydd, mater rwyf yn gwybod sydd wedi bod yn peri ansicrwydd a phryder i rai ohonoch.
Drwy gydol y flwyddyn hon, mae’r penderfyniadau rydym wedi gorfod eu gwneud wedi bod yn rhai arwyddocaol. O bryd i’w gilydd, mae hyn yn arwain at oedi rhwng cyhoeddi newid a gallu rhoi manylion llawn y polisi cysylltiedig. Mae hyn yn wir gydag ad-daliadau rhent, lle gwnaethom benderfynu rhoi gwybod i chi ar unwaith ar ôl gwneud y penderfyniad, yn hytrach nac aros i’r meini prawf cymhwysedd a’r broses gael eu cwblhau. Diolch am eich amynedd parhaus wrth weithio drwy’r manylion ar hyn.
Pwy all gael yr ad-daliad rhent?
Rydych yn gymwys i gael ad-daliad os na wnaethoch ddychwelyd i’ch llety yn y brifysgol:
- ar ôl gwyliau’r Nadolig, fel y cynghorwyd yn fy ebost ar 7 Ionawr pan nes i gadarnhau bod y gwaith addysgu wedi’i ohirio tan 22 Chwefror
- ac eto yn fy ebost ar 1 Chwefror pan roddais y wybodaeth ddiweddaraf i chi gan nodi byddai’r gwaith addysgu yn parhau ar-lein tan 26 Mawrth.
Bydd yr ad-daliadau rhent yn cyd-fynd â’r dyddiadau hyn, gan roi amser i chi ddychwelyd a chael eich profi cyn i’r gwaith addysgu ailddechrau.
Felly, er enghraifft:
- os gwnaethoch ddychwelyd i Gaerdydd ar gyfer gwaith addysgu oedd yn ailddechrau o 22 Chwefror (gan gyrraedd yn ôl o 12 Chwefror) cewch eich ad-dalu ar gyfer chwe wythnos
- os na fyddwch yn dychwelyd tan ar ôl 26 Mawrth, cewch eich ad-dalu ar gyfer 12 wythnos
- os ydych wedi/yn bwriadu dychwelyd ryw dro arall rhwng 11 Ionawr a 26 Mawrth i gefnogi’ch astudiaethau, rhowch wybod i ni am y dyddiad dychwelyd er mwyn i ni gyfrifo eich ad-daliad
Bydd pob cais yn cael ei wirio yn erbyn y wybodaeth sydd gan Breswylfeydd am y niferoedd sydd mewn ystafelloedd yn ystod y cyfnod hwn, a gwrthodir ceisiadau ffug neu dwyllodrus.
Os bydd eich rhaglen yn caniatáu, ac rydych wedi dewis Astudio o Bell, cewch eich rhyddhau o’ch Cytundeb Llety a’r ffioedd cysylltiedig.
Sut i wneud cais am eich ad-daliad rhent
Cewch wythnos ar ddechrau mis Mawrth i wneud cais drwy porth SIMS. Byddwn yn cysylltu â chi yn syth pan fydd yn fyw i roi’r ddolen a rhagor o gyfarwyddiadau i chi. Os bydd gennych unrhyw gwestiynau ar ôl cael y cyfarwyddiadau hyn, ebostiwch residencesfinance@cardiff.ac.uk. Bydd yr ad-daliad yn seiliedig ar y rhent wythnosol rydych yn ei dalu a chaiff ei ddidynnu o’ch rhandaliad ar gyfer y trydydd tymor.
Llety arall
- Os ydych yn byw yn Nhŷ Clodien (Unite) cysylltwch ag Unite sydd â’i drefniant ei hun o ran ad-dalu rhent
- Os ydych mewn llety preifat ac mae angen tystiolaeth arnoch o’r dyddiadau nad yw’n ofynnol i chi fod ar y campws, gallwn roi’r rhain i chi – ebostiwch Cymorth y Gofrestrfa.
Eich Barn – Llywio’ch Prifysgol
Yng Nghaerdydd rydym yn awyddus i wrando ar eich barn am eich bod yn ein helpu ni i wella profiad y myfyrwyr. Felly, hoffwn ddiolch i bob un ohonoch chi sydd wedi cwblhau Gwerthusiadau o Fodiwlau eleni. Rydym yn adolygu eich adborth, yn enwedig ar ddysgu digidol, ac mae trafodaethau yn cael eu cynnal ar draws y Brifysgol ynghylch pa newidiadau y gallwn eu gwneud eleni ac ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf. Mae eich adborth yn cyfrannu’n uniongyrchol at waith ein grŵp Llywio Addysg Ddigidol a sut rydym yn cynnig dysgu cyfunol.
Os ydych wedi gwerthuso modiwlau, gallwch gael rhagor o wybodaeth am eich canlyniadau drwy siarad ag arweinydd eich modiwl a gallwch gael gafael ar y canlyniadau cyhoeddedig yn uniongyrchol o’r system.
Ar gyfer myfyrwyr israddedig yn eu blwyddyn olaf, lansiwyd Arolwg Cenedlaethol y Myfyrwyr (NSS) ar 8 Chwefror 2021. Mae’r NSS (Arolwg Cenedlaethol y Myfyrwyr) yn arolwg annibynnol, a gynhelir gan Ipsos MORI ar ran Swyddfa’r Myfyrwyr. Anfonir dolen i’r arolwg mewn ebost at fyfyrwyr yn eu blwyddyn olaf, a gallwch hefyd gael gafael arno drwy fewnrwyd y myfyrwyr.
Y llynedd, arweiniodd eich adborth at waith sy’n cefnogi ein hathrawon rhagorol gyda dysgu digidol, prosiect asesu trawsnewidiol, a sefydlu grŵp partneriaeth myfyrwyr ar Cymuned Ddysgu. Mae mentrau o’r fath dan arweiniad myfyrwyr yn arwain at wella profiad myfyrwyr yng Nghaerdydd, a hoffwn ddiolch i chi ymlaen llaw am gymryd ychydig funudau i rannu eich safbwyntiau gyda ni. Yn y cyfamser, edrychwch ar dudalen Llais Myfyrwyr Caerdydd ar y fewnrwyd i gael rhagor o wybodaeth am sut y gallwch gymryd rhan a mynegi’ch barn.
Yn ôl yr arfer, rydym yma i’ch cefnogi os ydych chi’n cael trafferth. Student Connect yw eich pwynt cyswllt cyntaf os bydd angen unrhyw gymorth arnoch.
Mae’n Wythnos Cynaliadwyedd yr wythnos nesaf, a byddwn yn eich annog i ddarllen mwy am hyn, a sut i leihau eich effaith ar y blaned, yn y Newyddion diweddaraf i Fyfyrwyr.
Dymuniadau gorau
Claire Morgan
Rhag Is-Ganghellor, Addysg a Myfyrwyr
- Mehefin 2024
- Mai 2024
- Ebrill 2024
- Chwefror 2024
- Ionawr 2024
- Rhagfyr 2023
- Tachwedd 2023
- Hydref 2023
- Medi 2023
- Awst 2023
- Gorffennaf 2023
- Mehefin 2023
- Mai 2023
- Ebrill 2023
- Mawrth 2023
- Chwefror 2023
- Ionawr 2023
- Rhagfyr 2022
- Tachwedd 2022
- Hydref 2022
- Medi 2022
- Awst 2022
- Gorffennaf 2022
- Mehefin 2022
- Mai 2022
- Ebrill 2022
- Mawrth 2022
- Chwefror 2022
- Ionawr 2022
- Rhagfyr 2021
- Tachwedd 2021
- Hydref 2021
- Medi 2021
- Awst 2021
- Gorffennaf 2021
- Mehefin 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Chwefror 2020
- Ionawr 2020
- Rhagfyr 2019
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Medi 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018
- Ebrill 2018
- Mawrth 2018
- Chwefror 2018
- Ionawr 2018
- Rhagfyr 2017
- Tachwedd 2017
- Hydref 2017
- Medi 2017
- Awst 2017
- Gorffennaf 2017
- Mehefin 2017
- Mai 2017
- Ebrill 2017
- Mawrth 2017
- Chwefror 2017
- Ionawr 2017
- Rhagfyr 2016
- Tachwedd 2016
- Hydref 2016
- Medi 2016
- Awst 2016
- Gorffennaf 2016
- Mehefin 2016
- Mai 2016
- Ebrill 2016
- Mawrth 2016
- Chwefror 2016
- Ionawr 2016
- Rhagfyr 2015
- Tachwedd 2015
- Hydref 2015
- Medi 2015
- Awst 2015
- Gorffennaf 2015
- Mehefin 2015
- Mai 2015
- Ebrill 2015
- Mawrth 2015
- Chwefror 2015
- Ionawr 2015
- Rhagfyr 2014
- Tachwedd 2014
- Hydref 2014
- Medi 2014