Diweddariad i’n myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig
15 Ionawr 2021Darllenwch neges gan y Rhag Is-Ganghellor, yr Athro Kim Graham a Claire Morgan a anfonwyd at fyfyrwyr ymchwil ôl-raddedig, Dydd Gwener, 15 Ionawr.
Annwyl fyfyriwr,
Ysgrifennaf atoch i roi’r newyddion diweddaraf i chi am rai o’r newidiadau yr ydym yn eu rhoi ar waith mewn cysylltiad ag ymchwil o ganlyniad i amrywiad newydd Covid-19, a sut byddwn yn cefnogi’r rhai ohonoch y mae eich ymchwil wedi’i heffeithio gan hyn.
Mae tasglu coronafeirws yr Is-Ganghellor a Bwrdd Gweithredol y Brifysgol wedi trafod dull y Brifysgol o ran cynnal astudiaethau ymchwil o ystyried amrywiad newydd Covid-19. Mae’r Is-Ganghellor wedi cael cyngor ar y mater hwn gan arbenigwyr mewnol, Llywodraeth Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru, ac mae pawb wedi cadarnhau bod ein camau cyfredol yn effeithiol o hyd.
Hyd yma, mae ein dull o ran darparu ymchwil ar y campws yn ystod y pandemig wedi bod yn ddiogel iawn, heb unrhyw dystiolaeth o risg gynyddol o drosglwyddo Covid-19 rhwng staff a myfyrwyr sy’n gweithio yn y Brifysgol. Mae hyn yn adlewyrchu’r asesiadau risg a’r mesurau diogelwch rhagorol a roddwyd ar waith gan y Brifysgol a’r rhai sy’n ymgymryd ag ymchwil, yn ogystal â chydymffurfiad rhagorol â’r mesurau hynny. Cefnogir hyn hefyd gan fod gan ein staff a’n myfyrwyr fynediad at gyfleuster profi’r Brifysgol.
Yn unol â phrifysgolion eraill ac wrth gydnabod y bydd gostyngiad sylweddol yn nifer yr ymwelwyr o amgylch y campws o ganlyniad i lawer o’n myfyrwyr a addysgir yn symud i addysgu ar-lein, rydym am barhau i gefnogi staff a myfyrwyr ymchwil sydd angen mynediad i’r campws i ymgymryd a chwblhau eu hymchwil. Bydd y dull hwn yn cael ei adolygu’n gyson a’i newid yn ôl yr angen.
Fodd bynnag, rydym wedi penderfynu, oherwydd cyfraddau uchel o drosglwyddiad Covid-19 yn y gymuned, y byddwn yn atal ymchwil wyneb yn wyneb sy’n cynnwys cyfranogwyr nad ydynt yn staff a myfyrwyr Prifysgol Caerdydd, ac sy’n dod o grwpiau y tu allan i’r Brifysgol.
Ni chaniateir ymchwil sy’n cynnwys cyfranogwyr o du allan i’r Brifysgol oni bai bod yr ymchwil yn cael ei wneud o fewn lleoliad clinigol y GIG, gydag asesiadau risg addas ar waith, neu pe bai atal y gweithgaredd ymchwil yn cael effaith andwyol ar ofal clinigol y rhai sy’n cymryd rhan. Rhaid i’r Ysgol roi cytundeb ar gyfer parhau â’r mathau hyn o ymchwil, yn seiliedig ar asesu’r meini prawf hyn, yn ogystal â mesurau diogelwch lliniaru risg addas i amddiffyn staff, myfyrwyr a chyfranogwyr.
Gall profion cyfranogwyr dynol sy’n cynnwys staff a myfyrwyr sy’n aelodau o’r Brifysgol barhau ar hyn o bryd, yn seiliedig ar gydsyniad llawn y cyfranogwyr hynny wrth ymgymryd â’r ymchwil, a sicrhau bod mesurau diogelwch lliniaru gwybodus wedi’u llywio gan asesiad risg sy’n ceisio lleihau’r risg o drosglwyddo Covid-19.
Wrth symud ymlaen, ar gyfer yr holl ymchwil sy’n cael ei chynnal yn y Brifysgol yn 2021, yn y labordy ac yn cynnwys cyfranogwyr dynol (staff a myfyrwyr Caerdydd), rydym yn ei gwneud yn ofynnol i bawb sy’n ymgymryd ag ymchwil:
- Ailystyried asesiadau risg eu prosiectau er mwyn sicrhau bod cyn lleied â phosibl o fannau posibl o drosglwyddo Covid-19 i staff a myfyrwyr eraill sy’n defnyddio’r un cyfleusterau neu’n ymwneud â’r un prosiectau. Bydd hyn yn cynnwys tynhau unrhyw ofynion diogelwch yn unol â hynny yn seiliedig ar yr asesiad hwn. Lle mae hyn yn berthnasol i ymchwilwyr ôl-raddedig, rhaid gwneud hyn ar y cyd â’ch goruchwyliwr.
- Cydymffurfio â holl weithdrefnau iechyd a diogelwch yr adeiladau (golchi dwylo, systemau ffordd agored a phellter cymdeithasol), yn ogystal â chyfyngu ar ryngweithio (ac agosrwydd y rhyngweithio hwnnw) ag eraill sy’n gweithio yn yr un labordai/adeiladau.
- Defnyddio cyfleuster profi Covid-19 y Brifysgol yn rheolaidd, megis cyn dod i’r campws, i sicrhau ein bod yn parhau i fynd ati’n gyflym i reoli unrhyw risgiau posibl o drosglwyddo Covid-19 yn ein cymuned. Mae hyn yn berthnasol i’r holl staff a myfyrwyr sy’n dod i’r Brifysgol i wneud ymchwil, naill ai fel ymchwilydd neu i gymryd rhan.
Y camau nesaf
I’r rhai fydd yn gweld effaith y newid diweddaraf hwn, rydym yn sylweddoli y bydd yn creu ychydig o ansicrwydd i chi ac o ran cynnydd eich ymchwil. Cofiwch y gwnawn bopeth posibl i’ch cefnogi ac i leddfu’r effaith ar eich astudiaethau.
Bydd eich tîm goruchwylio mewn cysylltiad â chi i drafod sut y gellir addasu eich cynlluniau er mwyn lleihau effaith hyn. Sicrhewch eich bod yn cofnodi unrhyw effaith a achosir gan y newid hwn yn eich dogfennau monitro.
Mae myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig wedi’u diogelu dan amrywiad yn y polisi astudio tan ddiwedd mis Ionawr. Rydym yn adolygu’r posibilrwydd o ymestyn yr amrywiadau hyn y tu hwnt i ddiwedd mis Ionawr, a byddwn yn rhoi gwybod i chi am ganlyniad hyn yn ddiweddarach y mis hwn.
Gallwch fod yn dawel eich meddwl ein bod am i bawb sy’n ymgymryd ag ymchwil deimlo’n gyfforddus ac yn ddiogel o ran ein hymagwedd. Fel yr ydym wedi egluro o’r blaen, dylai unrhyw ymchwilydd ôl-raddedig sydd â phryderon eu codi gyda’i oruchwyliwr yn y lle cyntaf a lle bo’n berthnasol, gallant fanteisio ar adnodd asesu risg Llywodraeth Cymru ar gyfer gweithleoedd.
Efallai bod rhai ohonoch wedi derbyn llythyr yn cadarnhau eich bod yn hynod agored i niwed yn glinigol, a’ch bod wedi eich cynghori’n gryf iweithio gartref am y cyfnod presennol. Os ydych wedi cael llythyr o’r fath, dilynwch y cyngor hwnnw, a chysylltwch â’ch goruchwyliwr i roi gwybod eich bod wedi cael y llythyr. Os na allwch ymgymryd â’ch ymchwil gartref, trafodwch hyn gyda’ch goruchwyliwr a’ch Cyfarwyddwr Ymchwil Ôl-raddedig, a fydd yn gallu eich cefnogi chi gyda phenderfyniad o ran gohirio eich astudiaethau.
Os ydych chi’n byw gyda rhywun sydd wedi cael llythyr sy’n cadarnhau eu bod yn hynod agored i niwed yn glinigol ac yn poeni am ddod i’r campws i wneud eich ymchwil, cysylltwch â’ch goruchwyliwr yn y lle cyntaf i drafod sut y gallwn eich cefnogi.
Bydd dull y Brifysgol o ran defnyddio cyfleusterau ymchwil yn cael ei adolygu’n gyson, a byddwn yn rhannu unrhyw newidiadau gyda chi ar unwaith.
Mae mwy o wybodaeth am y newid hwn i’n hymchwil ar gael ar y fewnrwyd.
Mannau astudio
Rydym yn gwybod bod astudio gartref yn gallu bod yn heriol dros ben i rai ohonoch. Cofiwch bod y broses i gefnogi mynediad i fyfyrwyr ymchwil ôl-raddedig i fannau astudio ar y campws ar waith o hyd os ydy gweithio o bell yn effeithio’n sylweddol ar gyflawniad yr ymchwil. Os oes angen man astudio arnoch, cysylltwch â’ch goruchwyliwr neu Gyfarwyddwr Ymchwil Ôl-raddedig eich Ysgol, fydd yn rhoi gwybod i chi am y broses.
Ein blaenoriaeth o hyd yw eich lles a’ch diogelwch, ac felly cofiwch edrych ar y wybodaeth ar-lein sy’n darparu dolenni a chyngor ychwanegol ar les.
Mae’n bwysig eich bod yn parhau i drafod yn rheolaidd â’ch cyfarwyddwr ynghylch sut i wneud eich ymchwil o bell, a sut gallech chi ddiwygio eich cynlluniau ymchwil i addasu i’r tarfu sy’n gysylltiedig â Covid-19.
Rydym yn parhau i fod yn ddiolchgar am eich cydweithrediad a’ch amynedd wrth i ni lywio’r heriau a achoswyd i ymchwil gan Covid-19.
Cysylltwch â ni ar bob cyfrif os oes gennych unrhyw gwestiynau, naill ai drwy PVC-Research@caerdydd.ac.uk (Kim Graham) . Gall Deoniaid Ôl-raddedig eich Coleg a’ch Cyfarwyddwyr Ymchwil Ôl-raddedig gynnig help a chyngor hefyd yn ôl yr angen.
- Mehefin 2024
- Mai 2024
- Ebrill 2024
- Chwefror 2024
- Ionawr 2024
- Rhagfyr 2023
- Tachwedd 2023
- Hydref 2023
- Medi 2023
- Awst 2023
- Gorffennaf 2023
- Mehefin 2023
- Mai 2023
- Ebrill 2023
- Mawrth 2023
- Chwefror 2023
- Ionawr 2023
- Rhagfyr 2022
- Tachwedd 2022
- Hydref 2022
- Medi 2022
- Awst 2022
- Gorffennaf 2022
- Mehefin 2022
- Mai 2022
- Ebrill 2022
- Mawrth 2022
- Chwefror 2022
- Ionawr 2022
- Rhagfyr 2021
- Tachwedd 2021
- Hydref 2021
- Medi 2021
- Awst 2021
- Gorffennaf 2021
- Mehefin 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Chwefror 2020
- Ionawr 2020
- Rhagfyr 2019
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Medi 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018
- Ebrill 2018
- Mawrth 2018
- Chwefror 2018
- Ionawr 2018
- Rhagfyr 2017
- Tachwedd 2017
- Hydref 2017
- Medi 2017
- Awst 2017
- Gorffennaf 2017
- Mehefin 2017
- Mai 2017
- Ebrill 2017
- Mawrth 2017
- Chwefror 2017
- Ionawr 2017
- Rhagfyr 2016
- Tachwedd 2016
- Hydref 2016
- Medi 2016
- Awst 2016
- Gorffennaf 2016
- Mehefin 2016
- Mai 2016
- Ebrill 2016
- Mawrth 2016
- Chwefror 2016
- Ionawr 2016
- Rhagfyr 2015
- Tachwedd 2015
- Hydref 2015
- Medi 2015
- Awst 2015
- Gorffennaf 2015
- Mehefin 2015
- Mai 2015
- Ebrill 2015
- Mawrth 2015
- Chwefror 2015
- Ionawr 2015
- Rhagfyr 2014
- Tachwedd 2014
- Hydref 2014
- Medi 2014