Newyddion yr Is-Ganghellor

Brexit

Darllenwch neges a anfonodd yr Is-Ganghellor at yr holl staff heddiw (13 Ionawr 2021).

Annwyl gydweithiwr

Fy mwriad yn fy ebost cyntaf yn y flwyddyn galendr hon oedd sôn am Brexit yn ogystal â’r coronafeirws. Fodd bynnag, rwyf yn siŵr y byddwch yn deall sut mae digwyddiadau eraill wedi newid fy nghynlluniau ryw ychydig. Yn amlwg, fe fyddaf yn parhau i gyfathrebu’n rheolaidd ynghylch argyfwng cofid a sut mae’n effeithio arnom ni, ond roeddwn am drafod y pwnc pwysig arall hwn cyn i ormod o amser fynd heibio.

Byddwch yn ymwybodol y cafwyd cytundeb o’r diwedd ar Noswyl Nadolig fydd yn llywodraethu’r berthynas rhwng y DU a’r UE. Mae’r manylion wedi cael cryn gyhoeddusrwydd wrth gwrs, a gall unrhyw un sy’n dymuno darllen y 1,246 tudalen yn llawn wneud hynny yma. Fodd bynnag, yr hyn sy’n bwysig yw bod y canlyniad ar gyfer sector prifysgolion y DU yn rhagorol, ac mae y tu hwnt i’r hyn yr oedd llawer ohonom wedi meiddio ei obeithio. Byddwn yn parhau i gymryd rhan yn Horizon Europe, rhywbeth oedd wedi ymddangos yn hynod annhebygol ar sawl achlysur. Yn wir, go brin y bydd ymchwilwyr a diwydiant y prifysgolion yn sylwi ar unrhyw wahaniaeth o bwys o gymharu â sut oedd pethau pan oeddem yn cymryd rhan fel aelod-wladwriaeth.

Fel gwlad gysylltiedig, byddwn yn gallu parhau i wneud cais i’r Cyngor Ymchwil Ewropeaidd a gweithrediadau Maria Skłodowska-Curie sy’n galluogi ymchwilwyr i symud o le i le. Gallwn barhau i arwain a chydlynu cynigion, a gall ymchwilwyr y DU fod yn werthuswyr. Yn hollbwysig, gallwn gymryd rhan yn y Cydbwyllgor Ymchwil, pwyllgorau rhaglenni a fforymau eraill. Bydd hyn yn ein galluogi i ddylanwadu ar gyfeiriad y rhaglen wrth iddi fynd yn ei blaen. Er na fydd gennym hawliau pleidleisio aelod-wladwriaeth, go brin y bydd hyn yn anfantais o bwys gan mai anaml y mae penderfyniadau strategol gan y pwyllgorau hyn yn mynd i bleidlais. Mae llais y DU o ran ymchwil a gwyddoniaeth yn cael ei ystyried yn un cryf ac rwy’n siŵr y bydd cymunedau gwyddoniaeth cryfaf yr UE yn croesawu’r ffaith ein bod yn gallu parhau i gymryd rhan (yn enwedig drwy drafodaethau anffurfiol).

Yn llai amlwg, ond yr un mor bwysig, gallwn barhau i fod yn rhan o ‘isadeileddau ymchwil’ fel gwlad gysylltiedig. Yn y bôn, consortia ymchwil yw’r rhain sydd wedi’u sefydlu’n gyfreithiol. Mae’r rhain yn cynnwys Instruct-ERIC (un pwynt mynediad ar gyfer technoleg ac arbenigedd mewn bioleg strwythurol yn Ewrop) ac Arolwg Cymdeithasol Ewrop. Y DU sy’n cynnal y ddau gonsortiwm hyn. Rydym yn cymryd rhan mewn deuddeg o gonsortia eraill o’r fath. Byddai datgymalu’r rhain wedi bod yn broses eithriadol o gymhleth a gwrthgynhyrchiol. Felly, yn hyn o beth, mae’r cytundeb yn newyddion da dros ben i brifysgolion ymchwil ledled Ewrop a thu hwnt.

Mae’r telerau ariannol yn gymhleth ond yn y bôn byddwn yn gwneud cyfraniad sy’n gymesur â’n Cynnyrch Domestig Gros. Mae hon yn broses sy’n adlewyrchu’r cyfraniad cyffredinol a wnaethom fel aelod-wladwriaeth i gyllideb yr UE yn ei chyfanrwydd. Fodd bynnag, pan fyddwn yn gwybod ein lefelau cymryd rhan, bydd addasiadau’n cael eu gwneud er mwyn sicrhau bod ein cyfraniad yn parhau i fod yn un teg. Yn hanfodol, gall yr addasiad hwn gynyddu neu ostwng ein cyfraniad.

Yr hyn sy’n bwysig yw y dylai ymchwilwyr Caerdydd barhau i weithio ar geisiadau i Horizon; er y bydd bwlch byr cyn i’r UE gadarnhau’r rhaglen newydd yn derfynol (disgwylir i hyn ddigwydd erbyn diwedd mis Chwefror fan bellaf), a bydd manylion terfynol ein cyfranogiad yn cael eu trafod ar sail y cadarnhad hwnnw, gallwn ddisgwyl gallu cymryd rhan mewn galwadau a gwneud ceisiadau yn yr un ffordd yn union ag yr oeddem gyda rhaglenni fframwaith blaenorol.

O ran myfyrwyr, ni fydd y DU yn cymryd rhan yn Erasmus+ mwyach, ar ôl i’r llywodraeth gyhoeddi y bydd ein cynllun symudedd allanol ein hunain, Turing, yn cael ei sefydlu. Wrth imi ysgrifennu’r neges hon, nid yw’r manylion wedi’u cyhoeddi eto, ond gwyddom y bydd dros £100m yn cael ei neilltuo ar ei chyfer bob blwyddyn. Ei nod fydd galluogi tua 35,000 o fyfyrwyr (o brifysgolion, colegau ac ysgolion) i fynd ar leoliadau a chyfnewidiadau rhyngwladol yn flynyddol o fis Medi nesaf. Byddwn yn dechrau gweithio ar gymryd rhan yn y cynllun newydd hwn cyn gynted â phosibl (gwahoddir cynigion yn ystod yr wythnosau nesaf) a byddwn am fanteisio i’r eithaf ar y cyfleoedd y mae’n debygol o’u cynnig. Mae’r cynllun newydd yn rhoi ystyriaeth lawn i ddymuniadau prifysgolion y DU i allu neilltuo adnoddau yn haws ar gyfer myfyrwyr o gefndiroedd llai breintiedig a rhoi’r cyfleoedd i anfon fyfyrwyr ar raglenni nad ydynt yn cynnwys cyfnewidiadau o reidrwydd. Yn yr achosion hynny pan mae cyfnewidiadau’n cael eu cynnal, bydd yn gwneud yn siŵr bod y niferoedd yn gytbwys ar y naill ochr (o dan Erasmus, yn aml roedd tua dwywaith nifer y myfyrwyr o’r UE yn dod i’r DU, o gymharu â’r niferoedd oedd yn mynd i leoliadau yn Ewrop). Yn sicr, bydd mwy o hyblygrwydd yn y mathau o symudiadau a ganiateir. Ar ben hynny, bydd y cynllun newydd yn ehangu ystod y cyrchfannau posibl yn fawr; er bydd yr Undeb Ewropeaidd yn siŵr o fod yn opsiwn poblogaidd o hyd i’n myfyrwyr, bydd cynllun Turing yn cynnwys cyfleoedd i astudio neu fynd ar leoliadau ledled y byd. Byddwn am sicrhau bod ein dyheadau o ran teithio cynaliadwy yn ogystal â rhyngwladoli gartref yn cyd-fynd â’r cyfle newydd hwn, a byddwn yn disgwyl y bydd mwy o hyblygrwydd i wneud hyn yn haws. Ar ôl cadeirio grŵp UUK a gynghorodd y llywodraeth ar y dewisiadau amgen i Erasmus pe bai gormod o rwystrau i allu cymryd rhan (fel yr oeddent i’r Swistir yn ôl yn 2014), mae’n amlwg i mi y gwrandawyd arnom yn astud a chafodd barn y sector ei hystyried. Mae’r un peth yn wir wrth i ni barhau i gymryd rhan yn Horizon Europe, a dyna pam rwy’n edrych ar y canlyniad mewn modd cadarnhaol.

Er yr holl broblemau a wynebwn ar hyn o bryd, mae’n braf gallu rhannu rhywfaint o newyddion da; rwyf yn annog pawb sy’n ymwneud ag ymchwil Ewropeaidd ac mewn galluogi myfyrwyr i fynd dramor, i fanteisio ar y cyfleoedd a gynigir.


Dymuniadau gorau
 

Colin Riordan
Is-Ganghellor