Y Nadolig, arholiadau a dychwelyd ym mis Ionawr
14 Rhagfyr 2020Darllenwch neges gan Claire Morgan, Rhag Is-Ganghellor, Addysg a Myfyrwyr, a anfonwyd 30 Rhagfyr.
Annwyl Fyfyriwr,
Wrth i 2020 ddirwyn i ben, rydw i wedi recordio fideo byr i ddiolch i chi am y rhan rydych chi wedi’i chwarae wrth gadw ein campws yn ddiogel, ymgysylltu â ffyrdd newydd o ddysgu ac addasu i fywyd myfyrwyr gwahanol iawn.
Eich gwyliau Nadolig
Os ydych chi’n gadael Caerdydd neu eisoes wedi gadael, hoffwn ddymuno taith ddiogel a gwyliau pleserus i chi. Tra’ch bod i ffwrdd o’r Brifysgol gallwch barhau i gael gafael ar gymorth fel y manylir yma.
Os ydych chi’n aros, peidiwch ag anghofio dweud wrthym dolen SIMS ac i fanteisio ar y gwasanaethau a’r gefnogaeth rydyn ni wedi’u trefnu ar eich cyfer, gan gynnwys hamperi Nadolig (archebwch erbyn 15 Rhagfyr!), cinio Nadolig a digwyddiadau tymhorol dolen y gallwch ymuno â nhw. Gellir dod o hyd i fanylion ar sut i gael gafael ar gymorth, pe bai ei angen arnoch, yma.
Amserlenni arholiadau
Byddwch wedi clywed gan eich Ysgolion am y trefniadau ar gyfer asesiadau, ac i rai ohonoch bydd hyn yn cynnwys arholiadau. Cyhoeddir eich amserlen arholiad bersonol ar SIMS erbyn diwedd heddiw, 14 Rhagfyr. Gallwch hefyd gael rhagor o wybodaeth am wneud trefniadau amgen, paratoi ar gyfer eich arholiadau, cyrchu cyn bapurau a chefnogaeth gyda’ch lles ar y fewnrwyd.
Brexit
Wrth i ni agosáu at ddiwedd cyfnod pontio Brexit ar 31 Rhagfyr, gallwch ddod o hyd i gefnogaeth a chyngor i fyfyrwyr yr UE yma.
Dychwelyd ym mis Ionawr
Yn olaf, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ganllaw newydd ar ddychwelyd ym mis Ionawr 2021. Yn seiliedig ar y canllaw hwn, dylech gynllunio i ddychwelyd i Gaerdydd (neu eich lleoliad) ychydig cyn i addysgu personol ail-ddechrau. Er bod canllawiau Llywodraeth Cymru yn nodi na ddylech ddod yn ôl tan 11 Ionawr, os bydd eich cwrs yn cychwyn yn gynharach na hynny, neu os oes angen i chi gyrchu gwasanaethau fel ein llyfrgelloedd, gallwch ddychwelyd yn gynt.
Rydym yn cynghori’n gryf eich bod chi’n trefnu apwyntiad gyda ein gwasanaeth sgrinio ar gyfer eich dychweliad (nodwch tra bod Llywodraeth Cymru yn cyfeirio at ‘brofion llif unffordd’ mae gan ein holl fyfyrwyr fynediad at ein profion mewnol ein hunain – mae hyn yn wahanol, a dim ond un prawf sydd ei angen).
Mae’r canllawiau newydd hefyd yn rhoi cyfarwyddiadau clir iawn am bartïon Blwyddyn Newydd, a pham y dylent gael eu cynnal gyda’ch cartref eich hun eleni yn unig. Mae’r holl gyngor ar ddod yn ôl ym mis Ionawr yma.
Rydym ar ddeall y bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi canllawiau pellach cyn bo hir ynghylch mis Ionawr, a byddwn mewn cysylltiad i roi’r newyddion diweddaraf i chi.
Yn olaf, rydw i am ddymuno tymor Nadolig braf a phleserus i chi, a dymuniadau gorau am flwyddyn newydd iach a hapus. Gobeithio y byddwch yn mwynhau’r fideo.
Dymuniadau gorau,
Claire Morgan
Rhag Is-Ganghellor, Addysg a Myfyrwyr
- Mehefin 2024
- Mai 2024
- Ebrill 2024
- Chwefror 2024
- Ionawr 2024
- Rhagfyr 2023
- Tachwedd 2023
- Hydref 2023
- Medi 2023
- Awst 2023
- Gorffennaf 2023
- Mehefin 2023
- Mai 2023
- Ebrill 2023
- Mawrth 2023
- Chwefror 2023
- Ionawr 2023
- Rhagfyr 2022
- Tachwedd 2022
- Hydref 2022
- Medi 2022
- Awst 2022
- Gorffennaf 2022
- Mehefin 2022
- Mai 2022
- Ebrill 2022
- Mawrth 2022
- Chwefror 2022
- Ionawr 2022
- Rhagfyr 2021
- Tachwedd 2021
- Hydref 2021
- Medi 2021
- Awst 2021
- Gorffennaf 2021
- Mehefin 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Chwefror 2020
- Ionawr 2020
- Rhagfyr 2019
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Medi 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018
- Ebrill 2018
- Mawrth 2018
- Chwefror 2018
- Ionawr 2018
- Rhagfyr 2017
- Tachwedd 2017
- Hydref 2017
- Medi 2017
- Awst 2017
- Gorffennaf 2017
- Mehefin 2017
- Mai 2017
- Ebrill 2017
- Mawrth 2017
- Chwefror 2017
- Ionawr 2017
- Rhagfyr 2016
- Tachwedd 2016
- Hydref 2016
- Medi 2016
- Awst 2016
- Gorffennaf 2016
- Mehefin 2016
- Mai 2016
- Ebrill 2016
- Mawrth 2016
- Chwefror 2016
- Ionawr 2016
- Rhagfyr 2015
- Tachwedd 2015
- Hydref 2015
- Medi 2015
- Awst 2015
- Gorffennaf 2015
- Mehefin 2015
- Mai 2015
- Ebrill 2015
- Mawrth 2015
- Chwefror 2015
- Ionawr 2015
- Rhagfyr 2014
- Tachwedd 2014
- Hydref 2014
- Medi 2014