Newyddion yr Is-Ganghellor

Diolch ac ystyriaethau ar gyfer y flwyddyn nesaf

Darllenwch neges gan yr Is-Ganghellor a anfonwyd at y staff heddiw (17 Rhagfyr 2020).

Annwyl gydweithiwr

Wrth i mi ysgrifennu’r neges hon, rydym newydd gwblhau ein gweminar olaf ar gyfer yr holl staff yn 2020. Yn gyntaf oll, diolch yn fawr iawn i’r dros 2,000 o gydweithwyr a ddaeth i’r digwyddiad, hyd yn oed os oedd hynny am ran o’r sesiwn yn unig. Os nad oeddech yn gallu dod, mae modd ei wylio eto yma. Heb os, y cwestiwn a gafodd y sylw mwyaf oedd y cynlluniau ar gyfer gweithio gartref yn y dyfodol. Y peth cyntaf i’w ddweud yw y byddwn yn bwrw ymlaen fel y cynlluniwyd ar gyfer gweddill y flwyddyn academaidd hon. O ganlyniad i’r cyfuniad o allu monitro y feirws trwy Wasanaeth Sgrinio Prifysgol Caerdydd, yr addasiadau yr ydym wedi’u gwneud i’n hadeiladau oherwydd COVID, a’r ymddygiadau y mae pawb mor gyfarwydd â nhw bellach, rydym wedi gallu parhau â’n gweithgareddau fel Prifysgol mewn modd mor ddiogel ac effeithiol â phosibl. Oni bai y bydd Iechyd Cyhoeddus Cymru neu Lywodraeth Cymru yn ein cyfarwyddo fel arall, ein bwriad ar gyfer gweddill y flwyddyn academaidd yw parhau â’r dull sydd wedi ennill ei blwyf o gynnig dysgu cyfunol i fyfyrwyr, ac i’r staff nad ydynt yn ymwneud ag addysgu personol neu weithgaredd arall lle mae angen iddynt fod ar y campws, barhau i weithio gartref.

Fel y gwyddom, yn ystod yr argyfwng rydym wedi dysgu am y ffyrdd newydd o weithio y mae fideo-gynadledda a thechnolegau eraill yn eu galluogi. Ni fyddai’n gwneud synnwyr dweud y dylai’r ffordd yr ydym wedi cael ein gorfodi i weithio yn ystod cyfnod y pandemig barhau am gyfnod amhenodol. Mae hyn yn bennaf am fy mod yn gwybod bod llawer o bobl, gan gynnwys fi, yn gweld eisiau’r cyswllt personol a’r gallu i ymgynnull sy’n rhan annatod o fywyd prifysgol. Er ei bod dal yn rhy gynnar dweud pa gyfyngiadau allai fod ar waith erbyn mis Medi nesaf, ac er bydd y cydbwysedd yn symud mwy tuag at weithio wyneb yn wyneb, bydd rhagor o gyfleoedd o hyd i weithio o bell wedi i’r pandemig ddod i ben, a byddwn yn trafod hyn gyda chi yn y Flwyddyn Newydd. 

Fe wnaeth y cyflwyniadau a gafwyd yn y gweminar ganolbwyntio’n bennaf ar Brexit (yn gryno), cofrestriadau myfyrwyr yn y flwyddyn academaidd hon a recriwtio ar gyfer 2020/21, yn ogystal â’r sefyllfa ariannol. O ran Brexit, fel y byddwch yn ymwybodol mae’r trafodaethau’n parhau, er ar sail eithaf ansicr. Byddwn i’n dweud nad yw pethau’n edrych yn dda o ran cymryd rhan yn Horizon 2020 a/neu Erasmus+, ond bydd angen datrys prif faterion chwarae teg a hawliau pysgota cyn bod unrhyw obaith o gwbl y gallwn gymryd rhan yn y rhaglenni hynny. Yn y cyfamser mae’r llywodraeth wedi paratoi dewisiadau domestig amgen, sy’n dawelwch meddwl, ond nid oes unrhyw fanylion gwirioneddol ar gael i’r cyhoedd hyd yma.

O ystyried ein gofidion ar ddechrau’r pandemig o ran y sefyllfa y gallem fod ynddi erbyn hyn, mae’r newyddion am recriwtio myfyrwyr yn hynod gadarnhaol. Mae pawb wedi gweithio’n galed dros ben ac wedi dangos ymrwymiad eithriadol a pharodrwydd i weithio fel tîm er mwyn sicrhau ein bod wedi cyflawni’r canlyniad gorau posibl. O gymharu â’r llynedd, tua 108% yw canran ein cofrestriadau ar gyfer myfyrwyr cartref a 75% ar gyfer myfyrwyr rhyngwladol, yn fras. Mae’n bosibl y bydd canran y myfyrwyr rhyngwladol yn codi eto ym mis Ionawr, ond mae’r lefelau recriwtio hyn (a ffactorau eraill sydd o gymorth, yn enwedig y myfyrwyr sy’n dychwelyd) yn llawer mwy cadarnhaol nag yr oeddem wedi’i ddychmygu yn ôl ym mis Mawrth a mis Ebrill. Roedd y rhagdybiaethau oedd yn ymddangos fel rhai realistig bryd hynny wedi awgrymu y byddai incwm yn gostwng yn sylweddol gan arwain at doriadau llym mewn sawl ffordd. Diolch byth na wnaeth hynny ddigwydd, ac er bod y gyllideb a gymeradwywyd yn ddiweddar gan y Cyngor yn rhagweld y bydd colled sylweddol o hyd o £32.4m, mae’n swm y gallwn ymdopi ag ef trwy’r cronfeydd wrth gefn yr ydym wedi’u cronni’n ddarbodus dros y blynyddoedd.

Gyda’n gilydd, bydd angen i ni dreulio peth amser dros y misoedd nesaf yn ystyried y gwersi a ddysgwyd a’r ffyrdd newydd o weithio a ddaeth i’r amlwg yn ystod yr argyfwng, a sut i’w defnyddio yn y cyfnod ôl-bandemig, gan gydnabod y gall gymryd mwy o amser na’r disgwyl i gyrraedd y pwynt hwnnw. Fel y gwyddom bellach, mae achosion newydd yr heintiau coronafeirws yng Nghymru a rhannau eraill o’r DU eisoes wedi arwain at gyflwyno mesurau llymach (yng Nghymru, cyfyngiadau Lefel 4 o 28 Rhagfyr), felly mae’n rhaid i ni dderbyn y bydd rhai wythnosau a misoedd anodd i ddod eto. Fodd bynnag, mae’n bwysig nodi bod Canllawiau Llywodraeth Cymru yn nodi’n glir y gall cymysgedd o ddysgu wyneb yn wyneb ac o bell barhau hyd yn oed o dan amodau lefel 4, fel y digwyddodd yn ystod y ‘toriad tân’ yn gynharach yn yr hydref.

Yr hyn sy’n arbennig o drawiadol yw bod y galw am astudio yng Nghaerdydd yn uchel iawn o hyd, ac mae ceisiadau ar gyfer y flwyddyn nesaf yn addawol (gan gynnwys cynnydd mewn ceisiadau israddedig rhyngwladol) er gwaethaf yr amodau anodd dros ben ar hyn o bryd. Er ein bod yn gweld gostyngiad mewn ceisiadau rhyngwladol ôl-raddedig o gymharu â’r llynedd, mae hyn yn dilyn dwy flynedd flaenorol o dwf eithriadol, ac mae’n argoeli’n dda y gallwn fod mewn sefyllfa gref unwaith eto pan fydd y pandemig wedi mynd heibio’n llwyr neu i raddau helaeth.

Ar y nodyn hwnnw, mae’r rhaglen frechu yn mynd rhagddi’n gyflym, ac wrth i mi ysgrifennu’r neges hon, mae bron 200,000 o bobl wedi’u brechu yn y DU. Dim ond megis dechrau yw hyn, wrth gwrs, a bydd angen i ddegau o filiynau gael y pigiad er mwyn i’r garfan o unigolion heintus fod yn ddigon bach fel na all y feirws ymledu’n rhwydd yn y DU. Fodd bynnag, byddai brechu’r 5% o’r boblogaeth – tua 3.5 miliwn o bobl – sydd fwyaf agored i niwed yn golygu bod dwy ran o dair yn llai o farwolaethau gan mai’r grŵp hwn o bobl sydd leiaf tebygol o oroesi COVID-19, yn anffodus. Mae llawer mwy i’r clefyd niweidiol hwn na chyfradd y marwolaethau wrth gwrs. Fodd bynnag, mae’n golygu y dylem ddechrau gweld y risg yn lleihau’n sylweddol erbyn y gwanwyn a dechrau’r haf. Er hynny, ni fyddwn yn dychwelyd i unrhyw beth fel yr oedd pethau’n flaenorol am fisoedd lawer eto yn ôl pob tebyg.

Felly, er mor rhwystredig fydd gorfod wynebu cyfyngiadau dros yr wythnosau nesaf, beth mae hyn oll yn ei olygu yw y gallwn fod yn obeithiol ynghylch y rhagolygon ar gyfer 2021, o leiaf o ran y coronafeirws. Gallwn hefyd fod yn obeithiol ynghylch y ffaith fod y cyfnod clo wedi dangos i bob un ohonom fod sawl ffordd amrywiol o leihau ein hôl-troed carbon a chyflawni ein dyheadau hinsawdd, a bod llawer mwy o gyfleoedd nag oeddem wedi’i feddwl yn flaenorol. Mae cydweithwyr academaidd a staff gwasanaethau proffesiynol wedi defnyddio’r cyfuniad o ddysgu ac addysgu ar-lein yn effeithiol dros ben ac mewn modd hynod broffesiynol, ac mae ein myfyrwyr wedi’i groesawu’n fawr. 

Felly, mae rhesymau dros fod yn obeithiol a hoffwn orffen drwy ddweud diolch o galon i bob un ohonoch am ddod ynghyd i fynd i’r afael â’r argyfwng hwn mewn modd mor eithriadol. Mae’r cyfathrebu, yr ymroddiad a’r parodrwydd i weithio fel tîm wedi bod yn rhagorol ac, er mor flinedig fu’r holl waith caled, nid oes unrhyw amheuaeth ein bod yn llawn haeddu’r seibiant a gawn dros yr ŵyl yn 2020. Rhaid i’n hymdrechion yn 2021 ganolbwyntio ar sut i wneud yn siŵr bod modd rheoli ein llwyth gwaith, ac rwyf yn gwybod y bydd rhai ohonoch ar y campws yn cynnal systemau ac yn cefnogi ein myfyrwyr yn ystod y gwyliau. Rydym yn ddiolchgar iawn ichi yn benodol am hynny. Ond i bawb, diolch o galon unwaith eto, a hoffwn ddymuno Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i bob un ohonoch. Beth bynnag a ddaw yn 2021, gallwn edrych ymlaen a mawr obeithio am ddyfodol mwy disglair.

Gyda dymuniadau Nadoligaidd, Colin Riordan
Is-Ganghellor