Cyfnod cau estynedig dros y Nadolig, Mis Hanes Pobl Dduon ac anrhydeddau pen-blwydd y Frenhines
30 Hydref 2020Darllenwch neges a anfonodd yr Is-Ganghellor at yr holl staff heddiw (30 Hydref 2020).
Annwyl gydweithiwr
Wrth i mi ysgrifennu’r neges hon ar ddiwedd mis Hydref mae’n anodd credu ein bod sawl wythnos i mewn i dymor yr hydref yn barod a rhyw naw mis i argyfwng y coronafeirws (COVID-19). Er gwaethaf y cyfyngiadau yng Nghaerdydd a’r ‘toriad tân’ sydd ar waith ar draws Cymru gyfan tan 9 Tachwedd, fel lleoliad addysg ac ymchwil gallwn barhau â’n gwaith. Mae’n rhoi tawelwch meddwl gweld bod pethau’n ymddangos i ddechrau mynd yn ôl i’r arfer, ar ôl twrw cychwynnol dechrau tymor, a bod gwaith ymchwil, addysgu a dysgu llawer o’n gweithgareddau’n parhau, os nad fel yr arfer, yna’n debyg iawn fel y bwriadwyd. Roedd y cynnydd cyflym yn nifer yr achosion coronafeirws COVID-19 mewn myfyrwyr a welwyd yn gynharach yn y mis bellach wedi lleihau’n sylweddol, ac wrth i mi ysgrifennu, mae cyfartaledd 7 diwrnod achosion newydd mewn myfyrwyr yn parhau i ddangos tuedd ar i lawr. Gallwch gadw golwg ar y niferoedd eich hun drwy gyfeirio ar y diweddariadau dyddiol ar ein gwefan yma. Ar y nodyn hwnnw, diolch yn fawr i bob un ohonoch a ymunodd yn y gweminar ar gyfer pob aelod o staff a gynhaliwyd gennym yr wythnos ddiwethaf, lle’r oedd cydweithwyr o Iechyd Cyhoeddus Cymru, gwasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu Cyngor Dinas Caerdydd a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro yn gallu ateb cwestiynau cydweithwyr yn uniongyrchol. Rydym wedi ateb pob cwestiwn a gyflwynwyd gan nad oedd digon o amser i’w hateb yn ystod y sesiwn. Rwy’n gwerthfawrogi pob un o’n gwesteion bryd hynny, yn enwedig Dr Gwen Lowe o Iechyd Cyhoeddus Cymru, am ei hagwedd agored, tryloywder a’i pharodrwydd i ymgysylltu.
Mae’n rhaid i mi hefyd fynegi diolchgarwch y Brifysgol gyfan i bob un o’r cydweithwyr hynny sy’n delio â myfyrwyr yn uniongyrchol yn eu llety ac o gwmpas y campws bob dydd. Nid yw hyn yn cynnwys y nifer sy’n gostwng o fyfyrwyr sydd angen hunanynysu yn unig, ond y rhai hynny sydd ag unrhyw broblemau o ddydd i ddydd yn eu llety sydd angen sylw gan staff, boed hynny’n cael eu cloi allan neu’n achosi larwm tân i ganu ar ddamwain. Mae’r cydweithwyr yn y Gwasanaethau Preswyl, Diogelwch a Gwasanaeth Sgrinio ardderchog Prifysgol Caerdydd i gyd yn hanfodol i’n llwyddiant i reoli epidemig y coronafeirws wrth iddo effeithio ar Brifysgol Caerdydd. Rwy’n gwerthfawrogi pob un ohonynt am eu gwaith caled, eu natur benderfynol a’u hymrwymiad.
Ym amlwg, mae 2020 wedi bod yn flwyddyn heriol iawn i bawb. Er mwyn cydnabod gwaith caled ein cydweithwyr yn ystod pandemig y coronafeirws (COVID-19), bydd ein cyfnod cau dros y Nadolig yn cael ei ymestyn eleni. O ganlyniad, bydd y Brifysgol yn cau erbyn diwedd dydd Gwener 18 Rhagfyr 2020 ac yn ail-agor ar ddydd Llun 4 Ionawr 2021. Mae hyn yn golygu y byddwn yn defnyddio pump o’n diwrnodau cau arferol gyda’r ddau ddiwrnod cau ychwanegol yn cael eu darparu gan y Brifysgol. Bydd rhagor o wybodaeth ar gael yn Blas yr wythnos nesaf, gan gynnwys gwybodaeth am ddiweddaru CORE HR a cheisiadau am batrymau gwaith gwahanol.
Yng nghanol y coronafeirws, mae bywyd yn mynd yn ei flaen, ac nid yw Mis Hanes Pobl Dduon eleni’n eithriad. Yn wir, mae’r ffordd newydd o weithio wedi ei wneud tipyn haws mynd i ddigwyddiadau a chodi ymwybyddiaeth, ac mae’r digwyddiadau rwyf wedi’u mynychu wedi cael eu cefnogi’n dda iawn. Eleni, mae aelodau o is-grŵp myfyrwyr Grŵp Llywio Cydraddoldeb Hiliol Prifysgol Caerdydd wedi bod yn arbennig o weithredol, gan gynnal cyfres o ddarlithoedd ar-lein ar Hanes Pobl Dduon gan Abu-Bakr Madden Al-Shabbaz, a chynnull panel ar y pwnc o sut i symud o Fis Hanes Pobl Dduon i ddod â newid ystyrlon i addysg uwch. Roedd y panel yn cynnwys Kehinde Andrews, yr academydd a’r awdur hysbys sy’n arbenigo mewn Astudiaethau Du, Cindy Ikie sy’n fyfyriwr ymchwil ôl-raddedig gyda ni a chyn Swyddog Pobl Dduon a Lleiafrifoedd Ethnig Undeb y Myfyrwyr, a Nasir Adam, sydd hefyd yn fyfyriwr ymchwil ôl-raddedig gyda ni ac yn Guradur Hanes Pobl Dduon yn Amgueddfa Cymru. Bydd y drafodaeth yn un ddifyr, a bydd ar gael ar sianel YouTube y Brifysgol os hoffech ei gwylio. Mae angen diolch i’n myfyrwyr sy’n arwain ar y materion hyn, ac i Abyd Quinn-Aziz, sy’n eu helpu yn rhinwedd ei swydd fel cadeirydd yr is-grŵp myfyrwyr. Mae llawer o ddigwyddiadau o gwmpas y byd sy’n creu BHM ac maen nhw hefyd wedi dod yn fwy hygyrch am resymau amlwg, felly mae’n dda gweld ein myfyrwyr yn gweithio’n rhagweithiol gyda staff er mwyn sicrhau bod llais cyfunol Prifysgol Caerdydd yn cael ei glywed.
Rhaid llongyfarch yr Athro Richard Catlow, o’r Ysgol Cemeg, yn wresog y mis hwn sydd wedi cael ei urddo’n farchog am ei wasanaethau ymchwil wyddonol yn Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines, ac i’r Athro Dianne Watkins, o Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd, sydd wedi cael OBE am ei gwasanaethau i addysg ac ymchwil nyrsio. Mae gwaith Syr Richard ym maes cemeg cyfrifiadurol gan ganolbwyntio ar gatalysis wedi bod yn hynod bwysig yn cymryd ein safle blaenllaw o ran catalysis ymhellach fyth hyd yn oed, ac mae ei rôl fel Ysgrifennydd Tramor y Gymdeithas Frenhinol a’i lais dylanwadol ym mholisi gwyddoniaeth wedi bod yn ddefnyddiol iawn nid i’r byd gwyddonol yn unig, ond i enw da a statws Prifysgol Caerdydd. Mae Dianne hefyd wedi gwneud gwaith pwysig iawn ar gyfer y Brifysgol, pan wasanaethodd fel Deon Rhyngwladol Coleg y Gwyddorau Biofeddygol a Bywyd, ac yn enwedig o ran y rôl hanfodol a blaenllaw roedd ganddi yn hyfforddi cenhedlaeth gyfan o nyrsys yn Oman. Gallwn fod yn falch iawn o’r ddau.
Dymuniadau gorau Colin Riordan
Is-Ganghellor
- Mehefin 2024
- Mai 2024
- Ebrill 2024
- Chwefror 2024
- Ionawr 2024
- Rhagfyr 2023
- Tachwedd 2023
- Hydref 2023
- Medi 2023
- Awst 2023
- Gorffennaf 2023
- Mehefin 2023
- Mai 2023
- Ebrill 2023
- Mawrth 2023
- Chwefror 2023
- Ionawr 2023
- Rhagfyr 2022
- Tachwedd 2022
- Hydref 2022
- Medi 2022
- Awst 2022
- Gorffennaf 2022
- Mehefin 2022
- Mai 2022
- Ebrill 2022
- Mawrth 2022
- Chwefror 2022
- Ionawr 2022
- Rhagfyr 2021
- Tachwedd 2021
- Hydref 2021
- Medi 2021
- Awst 2021
- Gorffennaf 2021
- Mehefin 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Chwefror 2020
- Ionawr 2020
- Rhagfyr 2019
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Medi 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018
- Ebrill 2018
- Mawrth 2018
- Chwefror 2018
- Ionawr 2018
- Rhagfyr 2017
- Tachwedd 2017
- Hydref 2017
- Medi 2017
- Awst 2017
- Gorffennaf 2017
- Mehefin 2017
- Mai 2017
- Ebrill 2017
- Mawrth 2017
- Chwefror 2017
- Ionawr 2017
- Rhagfyr 2016
- Tachwedd 2016
- Hydref 2016
- Medi 2016
- Awst 2016
- Gorffennaf 2016
- Mehefin 2016
- Mai 2016
- Ebrill 2016
- Mawrth 2016
- Chwefror 2016
- Ionawr 2016
- Rhagfyr 2015
- Tachwedd 2015
- Hydref 2015
- Medi 2015
- Awst 2015
- Gorffennaf 2015
- Mehefin 2015
- Mai 2015
- Ebrill 2015
- Mawrth 2015
- Chwefror 2015
- Ionawr 2015
- Rhagfyr 2014
- Tachwedd 2014
- Hydref 2014
- Medi 2014