
Darllenwch neges gan Claire Morgan, Dirprwy Is-Ganghellor Addysg a Myfyrwyr a anfonwyd heddiw (19 Hydref) ynghylch y cyfnod atal a sut bydd hyn yn effeithio arnoch chi.
Annwyl Fyfyriwr,
Yn dilyn y cadarnhad gan Lywodraeth Cymru y bydd cyfnod atal (neu doriad tân) ar waith o 18:00 ddydd Gwener 23 Hydref tan 00:01 ddydd Llun 9 Tachwedd, rwy’n ysgrifennu atoch i roi gwybod beth fydd hyn yn ei olygu i chi ach astudiaethau:
Mae ein campws ar agor o hyd
Addysgu a gwaith ymchwil yn parhau ar y campws. Os oes gennych sesiynau addysgu ar y campws ar eich amserlen, bydd y rhain yn cael eu cynnal o hyd. Gallwch hefyd barhau i ddefnyddio ein llyfrgelloedd a’n mannau astudio yn ystod y cyfnod hwn. Fodd bynnag – os bydd eu hangen arnoch (e.e. os ydych yn hunan-ynysu), mae’r adnoddau a’r gefnogaeth ar gael fel eich bod yn gallu parhau â’ch astudiaethau ar-lein. Bydd ein holl staff sy’n gweithio ar y campws yn parhau i fod yno i’ch helpu – a bydd gwasanaethau hanfodol ar gael o hyd. Os oeddech yn bwriadu teithio i Gaerdydd ond heb wneud hynny eto, mae gennych y cyfle o hyd.
Peidiwch â theithio adref
Diben y mesur dros dro hwn yng Nghymru yw helpu i atal lledaeniad y feirws. Er mwyn cefnogi’r cyfnod atal newydd hwn a’r cyfyngiadau lleol sydd eisoes ar waith yng Nghaerdydd, peidiwch â mynd adref. Gallech gael dirwy a lledaenu’r feirws yn ehangach pe byddwch yn gwneud hynny.
Rydym yma ar eich cyfer o hyd
- Mae ein timau lles a chefnogaeth eisoes ar gael ar eich cyfer o bell, a gallwch gysylltu â nhw drwy Gyswllt Myfyrwyr
- Os ydych yn byw yn llety’r Brifysgol, mae ar agor o hyd ac mae cefnogaeth ar gael ar eich cyfer
- Os ydych yn poeni y gallech fod â symptomau’r coronafeirws (COVID-19), trefnwch brawf. Os nad oes gennych unrhyw symptomau, manteisiwch ar ein gwasanaeth sgrinio asymptomatig
- Cofiwch roi gwybod i ni ar SIMS. Mae hyn yn bwysig er mwyn gwneud yn siŵr ein bod yn gallu eich cefnogi.
Eich profiad ehangach o fod yn fyfyriwr
- Mae’r holl leoedd sy’n gwerthu bwyd ar agor ar gyfer cludo bwyd drwy’r ‘gwasanaeth clicio a chasglu’. Mae’r Farchnad a dewisiadau Clicio a Chyflwyno ar gael hefyd ar gyfer y rhai yn ein preswylfeydd
- Mae llawer o wasanaethau Undeb y Myfyrwyr eisoes yn gweithredu ar-lein, gallwch ddod o hyd i’r rhestr o oriau agor a manylion cyswllt yma. Bydd rhai o’n gweithrediadau masnachol nawr yn cau ac ni chaniateir gweithgaredd grŵp wyneb yn wyneb ymysg myfyrwyr trwy gydol y cyfnod o dorri’r gadwyn. Ewch i cardiffstudents.com i gael mwy o wybodaeth
- Yn unol â’r canllawiau nodwch y bydd holl gyfleusterau dan do ac awyr agored Chwaraeon Prifysgol Caerdydd yn cau am 17:30 Dydd Gwener 23ain Hydref. Bydd cyfleusterau yn ail-agor fel arfer Dydd Llun 9fed Tachwedd. Ar gyfer unrhyw ymholiadau yn ystod y cyfnod hwn, galwch ddesg dderbynfa’r Pentref Hyfforddiant Chwaraeon ar +44 (0)29 2087 4675 rhwng 07:30 – 20:30 neu fel arall e-bostiwch sport@caerdydd.ac.uk
- Bydd yr holl siopau nad ydynt yn rhai hanfodol, a’r holl dafarnau a bwytai yn cau yn ystod y cyfnod hwn, ond bydd siopau hanfodol ar agor o hyd
- Os ydych yn iach ac nid ydych yn hunan-ynysu, cewch wneud ymarfer corff yn yr awyr agored yn ystod y cyfnod hwn, ond peidiwch â mynd yn bell o’ch cartref ac ni chaniateir chwaraeon timau.
- Ni chaiff pobl ymgynnull ar gyfer Calan Gaeaf neu Noson Tân Gwyllt.
Rwy’n ymwybodol y gallai’n newyddion heddiw beri mwy o bryder. Fodd bynnag, gan ailadrodd yr hyn ddywedodd ein Prif Weinidog y bore yma, mae’n hanfodol ein bod yn cymryd y camau hyn nawr, er lles eich iechyd eich hun a’r rheiny yn y gymuned ehangach, i osgoi hyd yn oed rhagor o fesurau.
Dymuniadau gorau,
Claire Morgan
Rhag Is-Ganghellor, Addysg a Myfyrwyr