Skip to main content

Newyddion Aelodau’r Bwrdd

Neges gan y Rhag Is-Ganghellor, Addysg a Myfyrwyr

25 Medi 2020
Claire Morgan

Mae Llywodraeth Cymru wedi ein cynghori y bydd cyfyngiadau lleol ychwanegol yng Nghaerdydd oherwydd y coronafeirws. Daw mesurau newydd i rym o 18.00 ar 27 Medi 2020. 

Eu diben yw diogelu iechyd pobl a atal y feirws rhag lledaenu. Fel rhan o’r gymuned leol, mae gan bob un ohonom rôl i’w chwarae o ran cefnogi’r mesurau eithriadol hwn.

Goblygiadau uniongyrchol y cyfyngiadau newydd

Mae’r cyfyngiadau wedi’u cyflwyno yn dilyn cynnydd cyflym yn nifer yr achosion a gadarnhawyd o’r coronafeirws (COVID-19) yn lleol. Mae rhagor o wybodaeth am y mesurau ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru. 

Byddwn yn darparu diweddariadau rheolaidd wrth i’r sefyllfa ddatblygu, ac yn parhau i fod mewn cysylltiad cyson â Llywodraeth Cymru, Cynghorau Caerdydd a Bro Morgannwg ac Iechyd Cyhoeddus Cymru. 

Rydych eisoes wedi dweud wrthym fod llawer ohonoch yn disgwyl rhyw elfen o ddysgu wyneb yn wyneb yn rhan o’ch astudiaethau. O fewn y cyfyngiadau, ein nod fydd cynnig hyn yn rhan o ddarpariaeth gyfunol y dysgu, a ategir gan rai elfennau ar-lein. Mae hyn yn cyd-fynd â’r hyn sy’n digwydd mewn prifysgolion lleol eraill ac ym Mhrifysgolion Grŵp Russell.

O dan y rheolau newydd, os nad oes gennych unrhyw symptomau (ac nid ydych yn gorfod hunan-ynysu) gallwch barhau i wneud y canlynol: 

  • aros yn eich llety os ydych eisoes wedi cyrraedd Caerdydd
  • teithio i’ch llety a symud i mewn iddo (mae hyn yn cynnwys myfyrwyr sy’n ymuno â ni o’r tu allan i’r DU) a mynychu dosbarthiadau. 

Mae hyn yn adlewyrchu ymrwymiad penodol gan Lywodraeth Cymru i gydbwyso anghenion addysg plant a phobl ifanc yng Nghymru ochr yn ochr â mesurau sy’n ceisio cadw’r gymuned ehangach yn ddiogel.

Mae ein hystafelloedd addysgu yn bodloni’r canllawiau iechyd gofynnol ac, os dilynir y rheolau, nid yw addysgu ar gampws yn golygu eich bod yn ‘gyswllt’ â’r rhai o’ch cwmpas oherwydd hynny. Os ydych yn fyfyriwr sydd am astudio o bell yn ystod y tymor cyntaf o ganlyniad i’r cyfyngiadau newydd hyn, mae rhagor o wybodaeth ar gael yma. 

Gall y sefyllfa newydd hon effeithio ar rai o’n gwasanaethau, ac ymddiheurwn ymlaen llaw am hyn. Gall myfyrwyr barhau i gael mynediad at yr holl wasanaethau allweddol fel llyfrgelloedd, mewnrwyd y myfyrwyr a chefnogaeth i fyfyrwyr o bell. Mae’r staff yn parhau i weithio o bell ac yn gallu eich helpu o hyd. 

Ein hymrwymiad cymunedol – ac ymddygiad myfyrwyr

Yn amlwg, disgwyliwn i’n holl fyfyrwyr gadw at y cyfyngiadau newydd, a’r canllawiau ehangach, sydd ar waith. Mae’r disgwyliad hwn yn rhan allweddol o’n hymrwymiad cymunedol. 

Dros yr wythnos ddiwethaf cawsom nifer o adroddiadau am fyfyrwyr yn methu â chadw at y canllawiau hyn a’u parchu. Pan fydd problemau’n codi, a bod myfyriwr yn methu â chadw at y rheolau, bydd Heddlu De Cymru yn cyflwyno Contractau Ymddygiad Derbyniol. Os bydd myfyrwyr yn troseddu dro ar ôl tro, byddwn yn gweithio gyda’r heddlu er mwyn penderfynu ar y camau gweithredu mwyaf priodol. Gall hyn gynnwys cynyddu lefelau’r cosbau penodedig (sy’n codi i £1,920) yn ogystal ag ystyried gweithredu o dan broses ymddygiad myfyrwyr y Brifysgol, lle gellir atal myfyrwyr a’u gwahardd am droseddau difrifol.

Cefnogi ein gilydd

Rydym yn gwybod y bydd y newyddion hwn yn peri pryder ac yn siom i chi. Fel Prifysgol, rydym wedi gweithio’n eithriadol o galed ers dechrau’r cyfnod clo ym mis Mawrth, a byddwn yn parhau i fynd i’r afael â’r heriau a’r newid a wynebwn i roi’r profiad gorau posibl i chi fel myfyrwyr. 

Os oes angen unrhyw gymorth arnoch, cofiwch y gallwch gysylltu â’n gwasanaeth Cyswllt Myfyrwyr mewn tair ffordd:

  • gofyn eich cwestiynau i’r sgyrsfot 24/7 pan welwch y botwm sgwrsio glas a gwyn yng nghornel dde isaf eich sgrîn
  • ebostiwch: studentconnect@caerdydd.ac.uk
  • ffoniwch: +44 (0)29 2251 8888

Cadwch lygad ar y negeseuon a anfonir i’ch cyfeiriad ebost yn y Brifysgol a chael y newyddion diweddaraf ar fewnrwyd y myfyrwyr. Gofalwch amdanoch eich hun a chefnogwch eich cyd-fyfyrwyr, pan mae’n ddiogel gwneud hynny. Drwy wneud hyn, gyda’n gilydd, gallwn wneud y gorau o’r cyfnod anodd hwn a chyfyngu ar effaith COVID-19 ar gymuned y Brifysgol.