Skip to main content

Newyddion yr Is-Ganghellor

E-bost yr Is-Ganghellor i’r holl staff – Medi 2020

30 Medi 2020

Annwyl gydweithiwr,

Yn gyntaf oll, hoffwn ddiolch i bawb wnaeth ymuno â gweminar yr holl staff yr wythnos ddiwethaf, ac am y cwestiynau a gyflwynwyd. O ystyried nifer y cwestiynau a’r amser oedd ar gael, dim ond ychydig yr oeddem yn gallu eu hateb (y rhai mwyaf poblogaidd) yn y fan a’r lle, ond rydym yn gweithio drwy’r rhestr a byddwn yn sicrhau bod cwestiwn pawb yn cael ei ateb maes o law, a’r canlyniadau’n cael eu cyhoeddi. Yn fy marn i, mae ymgysylltu â’n gilydd fel hyn yn sgîl-effaith hynod ddefnyddiol o orfod gweithio o amgylch cyfyngiadau’r coronafeirws. Yn sicr mae’n ddull y gallwn ei ddefnyddio i ategu cyfarfodydd wyneb yn wyneb a chyfathrebu â phob aelod staff yn y dyfodol (ond nid i’w disodli’n gyfan gwbl). Mae gallu clywed pryderon a chwestiynau cydweithwyr ac ymateb iddynt yn uniongyrchol yn ddefnyddiol dros ben, ac mae’n sicr o fudd wrth wneud penderfyniadau. Mae hyn yn arbennig o wir ar adeg pan mae’n rhaid i brifysgolion (a llywodraethau cenedlaethol ledled y byd) droedio llwybr anodd iawn rhwng gofynion cystadleuol rheoli’r pandemig, sicrhau bod anghenion iechyd a lles eraill yn cael eu bodloni (yn enwedig iechyd meddwl), a sicrhau hyfywedd y sefydliad (neu’r economi yn achos llywodraethau).

Dros y diwrnodau diwethaf, mae’r mwyafrif llethol o’n myfyrwyr wedi parchu’r gofynion i sicrhau bod eu hymddygiad yn glynu at reolau’r coronafeirws, gan gynnwys y cyfyngiadau newydd sydd ar waith yn ardal Caerdydd ers 18:00 ar 27 Medi. Mae eu hymddygiad wedi creu cryn argraff arnaf fi. Rwy’n gwybod pa mor anodd yw hyn ar adeg pan mae pobl yn naturiol yn awyddus i gwrdd â phobl a chymdeithasu. Mae ein gallu i gynnig profion y coronafeirws i fyfyrwyr a staff asymptomatig yn hynod fanteisiol i ni, a bydd capasiti sylweddol ein labordy yn ein galluogi i brofi ein poblogaeth ein hunain yn rheolaidd. Fe wnes i fynd i’r labordy yn ystod y cam peilot er mwyn cael prawf poer (oedd yn negatif). Mae’n haws cynnal profion poer ac mae’n llai ymwthiol. Yn ôl ein dadansoddiadau, mae eu canlyniadau yr un mor gywir, os nad yn fwy cywir, na’r prawf swabio. Ffrwyth llawer iawn o ymdrech a gwaith tîm yw sefydlu’r labordy, a hoffwn ddiolch i bawb a chwaraeodd ran ac sy’n parhau i weithio’n eithriadol o galed i gyflwyno’r cyfleuster ar gyfer staff a myfyrwyr sy’n dod ar y campws.

Mae’r holl fesurau rydym wedi’u rhoi ar waith yn cyd-fynd â chanllawiau Llywodraeth Cymru. Yn ogystal â’n rhaglen sgrinio, mae’r rhain yn cynnwys cyfyngu ar nifer y bobl yn ein hadeiladau ar unrhyw adeg, rheolau llym o ran cadw pellter cymdeithasol o 2 fetr, defnyddio gorchuddion wyneb y tu mewn i adeiladau’r Brifysgol, llwybrau cerdded unffordd, prosesau glanhau ychwanegol a chyfleusterau diheintio dwylo. Y nod yw sicrhau bod ein myfyrwyr yn mwynhau profiad mor llawn â phosibl yn y Brifysgol o fewn cyfyngiadau’r coronafeirws, ochr yn ochr â chadw’r risg o drosglwyddo’r haint mor isel â phosibl.

O ran risg, mae’n amlwg mai’r unig ffordd o atal y feirws rhag lledaenu yw i bawb gadw ymhell oddi wrth bawb arall. Go brin bod hynny’n ymarferol na’n ddymunol am unrhyw gyfnod, felly’r her yw cael y cydbwysedd cywir rhwng ynysu’n llwyr a chyfyngiadau llym ar un law, a chaniatáu i’r feirws ledaenu fwy neu lai’n ddirwystr ar y llaw arall. Mae’r mesurau a nodwyd uchod yn cynnig cydbwysedd cyfrifol, ac maent ar waith ledled y byd. Mae’n rhaid i ni ofyn i fyfyrwyr wneud yn siŵr eu bod yn dilyn y rheolau yn eu bywydau cymdeithasol; os gallwn ni i gyd weithio gyda’n gilydd i wneud yn siŵr bod hynny’n digwydd, gallwn sicrhau bod y coronafeirws yn achosi cyn lleied o faich â phosibl ar y genhedlaeth hon o fyfyrwyr, sydd eisoes wedi gorfod wynebu cyfnod anodd. Rwyf yn credu bod ein myfyrwyr yn cydnabod mai’r hyn sydd o les i bawb yw cadw’r risg o drosglwyddo’n isel ochr yn ochr â chaniatáu i fywyd prifysgol barhau o fewn y cyfyngiadau anochel. Rydym yn gweithio’n eithriadol o dda gydag Undeb y Myfyrwyr ac rydym yn lwcus o gael swyddogion sabothol mor dda yn ystod blwyddyn anodd iawn. Yn amlwg, gorau po fwyaf y gallwn gyflawni drwy gydweithio, ac mae’n braf gweld ein myfyrwyr yn defnyddio’r dull hwnnw.

Mae creu amgylchedd mwy diogel ar y campws, fel yn achos sefydlu labordy’r gwasanaeth sgrinio, wedi deillio o ymdrech tîm eithriadol dros y misoedd diwethaf. Ar ran pob un ohonom ni, hoffwn ddiolch o galon i’n timau Ystadau a Chyfleusterau Campws a Diogelwch a Lles Staff sydd wedi gweithio’n ddiflino drwy gydol cyfnod y pandemig er mwyn diogelu a chynnal ein campysau a sicrhau bod llawer o wasanaethau hanfodol ar gael o hyd.  Mae eu hymdrechion parhaus i baratoi ac ailagor y campws, croesawu ein staff a myfyrwyr yn ôl, a goresgyn yr heriau sylweddol yr ydym wedi’u hwynebu ar hyd y ffordd wedi bod yn esiampl i bawb, ac yn dangos ymrwymiad rhagorol. Yn ogystal â gwaith eithriadol ac ymroddiad ein cydweithwyr academaidd — sydd wedi rhoi amser, ymdrech a dyfeisgarwch i ddatblygu ffyrdd newydd o gyflwyno addysg gyfunol, gan gynnwys asesu — credaf ein bod wedi gwneud popeth posibl i roi’r cyfleoedd gorau i’n myfyrwyr ar adeg anodd iawn i bawb.

Yn y cyfamser, rwy’n falch o nodi bod busnes craidd y Brifysgol yn mynd rhagddo, er gwaetha’r pandemig. Cyhoeddwyd un o’r darganfyddiadau gwyddonol mwyaf cyffrous erioed efallai, gan grŵp dan arweiniad yr Athro Jane Greaves o’r Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth. Ar ôl chwarae rhan flaenllaw yn y gwaith o ganfod tonnau disgyrchiant, mae ein hadran Seryddiaeth bellach wedi gwneud darganfyddiad a allai ddangos bod bywyd microbaidd yn atmosffer y blaned Gwener. Nid ydym ar fin profi bodolaeth bywyd arallfydol, ond os yw’r dybiaeth yn gywir – sef bod ffosffin yn atmosffer y blaned o ganlyniad i weithgarwch microbaidd – byddai goblygiadau sylweddol o ran ein dealltwriaeth o’r bydysawd. Wrth gwrs, pe byddai taith i’r blaned Gwener yn gwrthbrofi’r rhagdybiaeth, ac yn dangos mai rhyw broses naturiol anfiolegol arall yw ffynhonnell y nwy, byddai’r gwaith chwilio’n parhau. Ond yn y cyfamser, mae’r stori wedi taro tant yn fyd-eang a hoffwn longyfarch yr Athro Greaves a’i grŵp am yr hyn sydd eisoes yn gyflawniad rhagorol. Os oes gennych ddiddordeb – ac mae’n stori wirioneddol ryfeddol – gallwch ei darllen yma.

Hoffwn orffen drwy ymddiheuro am anfon yr ebost blaenorol yn Saesneg yn unig, ac eraill â’r Saesneg cyn y Gymraeg. Cyn y pandemig, roeddwn wedi dechrau gohebu’n Gymraeg yn gyntaf bob tro. Yn anffodus, mae natur brys y cyfathrebu dros yr ychydig fisoedd diwethaf wedi arwain at ychydig o darfu ar y broses, a hoffwn roi sicrwydd i bawb bod defnyddio’r Gymraeg yn flaenoriaeth o hyd a bod y dull blaenorol yn ôl ar waith bellach. Does neb wedi cwyno wrtha i, felly diolch am eich amynedd ac rwy’n falch fy mod wedi gallu gwneud hyn heb orfod cael fy ysgogi i wneud hynny.

Dymuniadau gorau,

Colin Riordan
Is-Ganghellor