Academi Gwyddor Data
30 Ionawr 2019Mae datblygiadau mewn technoleg yn dominyddu’r penawdau yn yr oes hon. Mae’r sectorau digidol yn cyfrannu biliynau at yr economi
ac amcangyfrifir y bydd angen tuag 1.2 miliwn o bobl â sgiliau digidol arbenigol erbyn 2022. Mae hwn yn amser cyffrous i ddiwydiannau technoleg ac i’r rhai sy’n gyfrifol am addysgu’r genhedlaeth nesaf o arbenigwyr.
Yr wythnos hon, lansiodd cydweithwyr yr Ysgol Gyfrifiadureg a Gwybodeg ein Hacademi Gwyddor Data newydd i fusnesau a llywodraeth.
Bydd yr Academi yn gartref i gasgliad o raglenni Meistri mewn meysydd fel deallusrwydd artiffisial, gwyddor data a dadansoddeg, a seibr-ddiogelwch. Wrth wraidd cynnig unigryw’r Academi fydd dysgu’n seiliedig ar brosiectau, a arweinir gan ddiwydiant, yn debyg i’r model llwyddiannus sydd eisoes ar waith yn yr Academi Feddalwedd Genedlaethol.
Mae mynediad at “ddata mawr” bellach yn arloesiad sy’n diffinio’r unfed ganrif ar hugain, ac sy’n dwyn buddion economaidd a chymdeithasol mawr. Mae ganddo botensial gwych i gynyddu cynhyrchedd yn y diwydiannau sy’n bodoli eisoes – mae taer angen hyn ar economi’r DU – ac i greu cynhyrchion a gwasanaethau hollol newydd.
Ar draws y DU, mae nifer y myfyrwyr ôl-raddedig ar raglenni sy’n ymwneud â gwyddorau data wedi cynyddu’n sylweddol. Mae galw mawr wedi bod am gyrsiau Ôl-raddedig a Addysgir yn yr Ysgol Gyfrifiadureg a Gwybodeg gan fyfyrwyr cartref a thramor. Mae’r Ysgol wedi cael mwy na dwbl y ceisiadau dros y tair blynedd ddiwethaf trwy ddefnyddio dull hyblyg o recriwtio myfyrwyr a gwneud yn siŵr bod portffolio amrywiol a chyfoes ar gael. Maent bellach yn un o ysgolion recriwtio allweddol y Brifysgol. Mae eu hymateb cadarnhaol i’r twf hwn wedi creu argraff arnaf; gan groesawu a datblygu cymuned ôl-raddedig ffyniannus.
Mae’r ymateb i’r model Academi Gwyddor Data wedi bod yn gadarnhaol iawn. Mae’n amlwg bod y diwydiant yn ystyried ein model addysgu arloesol yn allweddol i wneud yn siŵr y gallant gael mynediad at raddedigion arbenigol sy’n ddelfrydol ar gyfer swyddi allweddol yn y maes cyffrous a ffyniannus hwn.
- Mehefin 2024
- Mai 2024
- Ebrill 2024
- Chwefror 2024
- Ionawr 2024
- Rhagfyr 2023
- Tachwedd 2023
- Hydref 2023
- Medi 2023
- Awst 2023
- Gorffennaf 2023
- Mehefin 2023
- Mai 2023
- Ebrill 2023
- Mawrth 2023
- Chwefror 2023
- Ionawr 2023
- Rhagfyr 2022
- Tachwedd 2022
- Hydref 2022
- Medi 2022
- Awst 2022
- Gorffennaf 2022
- Mehefin 2022
- Mai 2022
- Ebrill 2022
- Mawrth 2022
- Chwefror 2022
- Ionawr 2022
- Rhagfyr 2021
- Tachwedd 2021
- Hydref 2021
- Medi 2021
- Awst 2021
- Gorffennaf 2021
- Mehefin 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Chwefror 2020
- Ionawr 2020
- Rhagfyr 2019
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Medi 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018
- Ebrill 2018
- Mawrth 2018
- Chwefror 2018
- Ionawr 2018
- Rhagfyr 2017
- Tachwedd 2017
- Hydref 2017
- Medi 2017
- Awst 2017
- Gorffennaf 2017
- Mehefin 2017
- Mai 2017
- Ebrill 2017
- Mawrth 2017
- Chwefror 2017
- Ionawr 2017
- Rhagfyr 2016
- Tachwedd 2016
- Hydref 2016
- Medi 2016
- Awst 2016
- Gorffennaf 2016
- Mehefin 2016
- Mai 2016
- Ebrill 2016
- Mawrth 2016
- Chwefror 2016
- Ionawr 2016
- Rhagfyr 2015
- Tachwedd 2015
- Hydref 2015
- Medi 2015
- Awst 2015
- Gorffennaf 2015
- Mehefin 2015
- Mai 2015
- Ebrill 2015
- Mawrth 2015
- Chwefror 2015
- Ionawr 2015
- Rhagfyr 2014
- Tachwedd 2014
- Hydref 2014
- Medi 2014