E-bost yr Is-Ganghellor i’r holl staff – Rhagfyr 2018
21 Rhagfyr 2018
Annwyl gydweithiwr
Ar drothwy’r Nadolig, rydw i’n sylweddoli y gallech fod â rhai pryderon ynghylch beth allai proses Trawsffurfio Caerdydd ei olygu ar gyfer y dyfodol. Mae’n bwysig cydnabod mai dyna’n union yw hi: proses. Mae cael digon o amser i ystyried yr holl bosibiliadau a allai fod ar gael i ni yn bwysig dros ben er mwyn rheoli ein risgiau ariannol yn y dyfodol a gwneud yn siŵr bod y Brifysgol yn parhau i fod yn gadarn, yn gynaliadwy ac mewn sefyllfa i allu cyflawni ei hamcanion strategol. Bydd digon o amser i ymgynghori â staff ac undebau’r campws cyn i’r Cyngor wneud unrhyw benderfyniadau terfynol. Er enghraifft, fe fyddwch yn ymwybodol bod y Cynllun Diswyddo Gwirfoddol ar agor tan ddiwedd Mai 2019 i wneud yn siŵr ein bod yn ystyried pob opsiwn. Wedi dweud hynny, mae’n bwysig ein bod yn mynd ati nawr i gynllunio ar gyfer y dyfodol. O ystyried y peryglon a wynebwn o ran incwm yn y dyfodol, a hynny ar adeg pan rydym eisoes yn gweithio’n galed i gael gwared ar ein diffyg ariannol, mae angen i ni symud ymlaen a mynd i’r afael â’r materion hyn. Rydym eisoes yn cymryd camau: rydym wedi cyflwyno camau rheoli recriwtio a’r cynllun diswyddo gwirfoddol y soniais amdano uchod. Rydym hefyd yn gweithio ar ystod o gamau a ddaeth i’r amlwg i ni yn rhan o’r prosiect Syniadau Gwych. Rydw i’n ddiolchgar i bawb a gyfrannodd at y prosiect hwn. Mae wedi bod o gymorth mawr a bydd yn sicr yn cael effaith.
Yn y cyfamser, mae bywyd a gweithgareddau’r Brifysgol yn mynd rhagddynt. Yn gynharach y mis hwn, daeth cynulleidfa ynghyd i wrando’n astud ar y ddarlith Hadyn Ellis flynyddol. Eleni, traddododd yr Arglwydd Heseltine ddarlith hynod ddiddorol yn amddiffyn yr Undeb Ewropeaidd i’r carn, a daeth i’r casgliad mai cynnal ail refferendwm yw’r unig ffordd resymol ymlaen ar hyn o bryd. Roedd hefyd o’r farn y dylai parhau i fod yn aelod o’r UE fod yn opsiwn mewn refferendwm o’r fath gan fod gan y cyhoedd lawer gwell dealltwriaeth erbyn hyn o oblygiadau gadael ym mha bynnag ffordd. Ar fater lled-gysylltiedig, mae’n bleser gennyf gyhoeddi (ond yn drist bod gwaith o’r fath yn angenrheidiol) bod cydweithwyr o’n Labordy Gwyddorau Data Cymdeithasol wedi cael grantiau gwerth £1m i gyd ar gyfer eu LabordyGwrthGasineb. Eu tasg fydd asesu effaith digwyddiadau cenedlaethol ar lefelau troseddau casineb a mynegi casineb. Mae Brexit wedi cael effaith syfrdanol a hynod annymunol ar gydlyniad cymdeithasol. Bydd ein hymchwilwyr yn defnyddio data i helpu sefydliadau ac asiantaethau i sylwi ar rybuddion cynnar er mwyn gallu ymyrryd yn effeithiol. Yn amlwg, bydd hyn yn ymwneud â mathau eraill o droseddau casineb. Llongyfarchiadau i’r Athro Matthew Williams, yr Athro Pete Burnap a’u timau. Yn bersonol, rydw i’n falch iawn fod Prifysgol Caerdydd yn gallu cyfrannu at gymdeithas mewn ffordd mor gadarnhaol.
Mewn newyddion arall y mis hwn, pleser o’r mwyaf oedd gallu llofnodi partneriaeth strategol gyda’r Athro Marcelo Knobel, Rheithor Prifysgol Campinas ym Mrasil. Mae Unicamp (fel y cyfeirir ato’n aml) yn ymuno â KU Leuven a Phrifysgol Xiamen fel partner strategol i Gaerdydd. Yn yr un modd â’n partneriaid eraill, mae’n ymuno ar sail partneriaeth academaidd sydd eisoes yn ffynnu. Daeth nifer fawr o bobl i’r seremoni fythgofiadwy, ac uchafbwynt y digwyddiad oedd y perfformiad arbennig o gerddoriaeth o Frasil gan ein myfyrwyr. Ar nodyn ychydig yn fwy sych, rydym wedi lansio ymgynghoriad yn ddiweddar ynghylch ein Côd Ymarfer arfaethedig ar gyfer REF 2021. Er ei fod yn bwnc eithaf di-fflach, o bosibl, mae’n bwysig os ydych yn gysylltiedig â REF, felly ewch i gael golwg arno. O ran ein gweithgareddau addysg, rydym yn croesawu Ms Claire Morgan yn ei hôl wedi iddi ymuno â ni o Brifysgol Metropolitan Caerdydd i fod yn Gyfarwyddwr ar ein Canolfan Arloesedd a Chefnogaeth Addysg. Mae Claire yn Brif Gymrawd o’r Academi Addysg Uwch (sy’n rhan o AdvanceHE erbyn hyn) ac mae’n gyfarwydd iawn â’r Brifysgol ar ôl bod yn Ddeon Cyswllt yng Ngholeg Gwyddorau Biofeddygol a Bywyd Caerdydd ac Ysgol Busnes Caerdydd. Hefyd y mis hwn, rydym yn ffarwelio â Jayne Sadgrove. Mae wedi bod yn Brif Swyddog Gweithredu ers dechrau 2014 ac mae wedi trawsnewid ein Gwasanaethau Proffesiynol. Mae Jayne wedi gwneud gwaith rhagorol mewn ffyrdd sydd yn amlwg i bawb, ac rydw i’n ddiolchgar tu hwnt iddi am ei holl ymdrechion. Mae hi wedi bod yn gydweithiwr anhygoel a bydd ei chyd-aelodau ar y Bwrdd yn gweld ei heisiau yn fawr. Dymuniadau gorau i Jayne ar gyfer y dyfodol.
Mae 2018 wedi bod yn flwyddyn hynod ansefydlog, ac mae’r sefyllfa’n debygol o gymhlethu ymhellach yn 2019. Am y tro, fodd bynnag, hoffwn ddymuno Nadolig heddychlon a Blwyddyn Newydd Dda i bawb. Rydw i’n gwybod y bydd llawer ohonom yn edrych ymlaen yn fawr at gael seibiant, gorffwys a threulio amser gyda ffrindiau a theulu; beth am i ni gofio hefyd am ein cydweithwyr fydd yn cynnal gwasanaethau hanfodol y Brifysgol a’r myfyrwyr fydd yn treulio’r Nadolig yng Nghaerdydd. Hoffwn ddiolch i holl staff y Brifysgol am eu hymrwymiad a’u hymdrech, a dymuniadau gorau i chi oll ar gyfer 2019.
Cofion cynnes
Colin Riordan
Is-Ganghellor
- Medi 2023
- Awst 2023
- Gorffennaf 2023
- Mehefin 2023
- Mai 2023
- Ebrill 2023
- Mawrth 2023
- Chwefror 2023
- Ionawr 2023
- Rhagfyr 2022
- Tachwedd 2022
- Hydref 2022
- Medi 2022
- Awst 2022
- Gorffennaf 2022
- Mehefin 2022
- Mai 2022
- Ebrill 2022
- Mawrth 2022
- Chwefror 2022
- Ionawr 2022
- Rhagfyr 2021
- Tachwedd 2021
- Hydref 2021
- Medi 2021
- Awst 2021
- Gorffennaf 2021
- Mehefin 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Chwefror 2020
- Ionawr 2020
- Rhagfyr 2019
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Medi 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018
- Ebrill 2018
- Mawrth 2018
- Chwefror 2018
- Ionawr 2018
- Rhagfyr 2017
- Tachwedd 2017
- Hydref 2017
- Medi 2017
- Awst 2017
- Gorffennaf 2017
- Mehefin 2017
- Mai 2017
- Ebrill 2017
- Mawrth 2017
- Chwefror 2017
- Ionawr 2017
- Rhagfyr 2016
- Tachwedd 2016
- Hydref 2016
- Medi 2016
- Awst 2016
- Gorffennaf 2016
- Mehefin 2016
- Mai 2016
- Ebrill 2016
- Mawrth 2016
- Chwefror 2016
- Ionawr 2016
- Rhagfyr 2015
- Tachwedd 2015
- Hydref 2015
- Medi 2015
- Awst 2015
- Gorffennaf 2015
- Mehefin 2015
- Mai 2015
- Ebrill 2015
- Mawrth 2015
- Chwefror 2015
- Ionawr 2015
- Rhagfyr 2014
- Tachwedd 2014
- Hydref 2014
- Medi 2014