Skip to main content

Newyddion Aelodau’r Bwrdd

Pam rydym ni wedi gwneud ymrwymiad i’n staff technegol

2 Gorffennaf 2018

Mae Prifysgol Caerdydd yn sefydliad mawr sy’n golygu bod angen llawer o wahanol weithgareddau i gefnogi ein addysgu a’n hymchwil.
Ar draws y Brifysgol, mae cannoedd o dechnegwyr yn gweithio mewn amrywiaeth eang o rolau mewn labordai, ystafelloedd dosbarth, a swyddfeydd. Efallai nad yw’r gair ‘technegydd’ yn nheitl swydd pob un ohonynt, ond un peth sy’n gyffredin iddyn nhw i gyd yw na allwn weithredu’n effeithiol heb y gwaith y maent yn ei wneud.  Gwaith hanfodol ond nid yw o reidrwydd yn weladwy neu’n cael ei werthfawrogi.

Dyna pam y gwnaethom ymrwymiad y llynedd i ddatblygiad a gwelededd ein staff technegol.

Roeddem ni’n un o’r sylfaenwyr a lofnododd yr Ymrwymiad i Dechnegwyr, menter gan y Cyngor Gwyddoniaeth sy’n helpu i sicrhau gwelededd, cydnabyddiaeth, datblygiad gyrfa a chynaliadwyedd i dechnegwyr sy’n gweithio ym maes addysg uwch ac ymchwil.  Mae hyn yn golygu ein bod wedi ymrwymo i gydnabod y cyfraniadau a wneir gan ein technegwyr a gweithio gyda nhw i gefnogi a gwella eu llwybrau datblygu gyrfa.

Gallwch ddarllen ein cynllun gweithredu i ddarganfod sut yr ydym yn gweithio tuag at ofynion yr Ymrwymiad i Dechnegwyr.

Mae’r staff technegol wedi cefnogi datblygiad y cynllun hwn ac edrychaf ymlaen at barhau i weithio gydag aelodau o’r gymuned hon i sicrhau ein bod yn darparu’r gefnogaeth a’r cyfleoedd datblygu y mae arnynt eu hangen.