Skip to main content

Newyddion Aelodau’r Bwrdd

Helpwch ni i’ch ‘nabod yn well

21 Mai 2018

Rwy’n frwd iawn dros gydraddoldeb ac i mi, mae hynny’n golygu nid yn unig hyrwyddo hawliau cyfartal ond hefyd sicrhau cydraddoldeb yn y modd rydym yn trin ein gilydd, ac mewn cyfleoedd ar gyfer pob aelod o’n staff.  Wrth edrych o gwmpas ar rai o’r pwyllgorau a’r byrddau yn y Brifysgol, caf y teimlad nad yw’r bobl sy’n eu ffurfio yn adlewyrchu’r gymuned y dônt ohoni.  Wrth wrando ar gydweithwyr yn sôn am eu profiad o weithio i Brifysgol Caerdydd, rwy’n clywed straeon sy’n awgrymu bod rhai pobl yn cael eu trin yn wahanol a bod hynny’n aml yn gysylltiedig â meddu ar nodwedd warchodedig – neu, fel y mae pobl wedi dweud wrthyf, “ymddangos yn wahanol”.

Er mwyn dod i ddeall profiad ein staff, gallwn groesgyfeirio ystadegau amrywiol megis tâl, graddfa a chyfleoedd datblygu gyda’n data hunan-ddatganedig sydd wedi’i storio’n gyfrinachol ar CORE. Dyma’r hyn sy’n ofynnol arnom i’w wneud yn ôl y gyfraith ac yn wir, yr hyn rydym wedi ymrwymo i’w wneud yn ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol.  Fodd bynnag, mae gennym broblem fawr o ran hynny – dyw llawer o’r staff ddim yn datgan!   Er enghraifft, yn ôl ein cofnodion CORE, mae 4.4% o staff yn datgan anabledd, mae’n well gan 10.4% beidio dweud ac mae 21.2% yn anhysbys. Mae gennym, felly, bron i 5 gwaith yn fwy o staff “anhysbys” na staff sydd ag anabledd wedi’i ddatgan. Mae’r darlun yn un tebyg o ran ethnigrwydd; mae 6.6% yn datgan eu bod yn Ddu neu o Leiafrif Ethnig, mae’n well gan 1.2% beidio dweud ac mae 17.1% yn anhysbys.

Rydym o ddifrif am greu amgylchedd cynhwysol lle mae gweithwyr yn perfformio ar eu gorau, felly mae monitro data yn hanfodol.  Mae’n rhoi cipolwg ar effaith ein harferion gwaith a’n polisïau a gall ddatgelu rhwystrau cudd. Mae monitro data hefyd yn rhoi neges bwerus am ein bwriadau a’n dyheadau – sef nad oes unrhyw un ar ben ei hun a’n bod ym meddwl am bawb a’u hanghenion. Mae hefyd yn dangos ein bod o ddifrif am eu cefnogi.  Gall ein helpu i asesu eu profiadau, pa mor fodlon ydyn nhw gyda’u swyddi a chyfleoedd ar gyfer datblygu gyrfa.  Gall ein galluogi i ymateb i anghenion lleol a bod yn sensitif i unrhyw agweddau diwylliannol.  Mae defnyddio data’n golygu y gallwn wneud yn siŵr bod mentrau sydd ar waith yn seiliedig ar dystiolaeth yn hytrach na rhagdybiaethau, a bydd hynny’n cynyddu eu tebygolrwydd o lwyddo.

Hoffwn annog pob aelod o staff i ddiweddaru eu cofnodion coreHR.  Efallai y byddwch am ateb “gwell gennyf beidio â dweud” ar gyfer rhai meysydd, ac mae hynny’n iawn – i mi, mae hynny’n well o lawer nag “anhysbys” sef y wybodaeth a ddaw i law pan nad yw pobl wedi rhoi eu manylion.  Mae’n broses rwydd – mewngofnodwch i Core a dewis “proffil gweithiwr” o’r ddewislen ar frig y sgrîn.   Helpwch ni i ddod i ‘nabod pawb yn well ac i gydweithio i wneud yn siŵr bod gennym yr amgylchedd cynhwysol rydym i gyd yn ei haeddu.