
- Hysbyswyd y Senedd ynghylch penodiad yr Athro Kim Graham yn Ddirprwy Is-ganghellor ymchwil, arloesi a menter o 1 Medi 2018.
- Roedd yr Is-Ganghellor wedi mynychu cyfarfod Grŵp Russell lle codwyd materion yn ymwneud â gofynion ariannu cyfatebol.
- Bu rhywfaint o weithgarwch Twitter diweddar mewn perthynas â’r Datganiad ar Asesu Ymchwil (DORA), a chytunwyd y byddai papur ar lofnodi’r cytundeb yn dod i’r Bwrdd Gweithredol nesaf.
- Nodwyd bod Coleg y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg wedi cynnal Symposiwm Coleg llwyddiannus gyda saith o siaradwyr rhyngwladol.
- Nodwyd penodiad yr Athro James Hegarty yn Bennaeth yr Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd o 1 Medi 2018.
- Derbyniodd y Bwrdd bapur ar yr ymarferiad effaith REF a gynhaliwyd ar 14-15 Mawrth 2018 i adolygu datblygiad astudiaethau achos effaith y Brifysgol yn barod i’w cyflwyno i REF 2021.
- Derbyniodd y Bwrdd bapur ar ddatblygu partneriaeth strategol gyda Phrifysgol Campinas (Universidade Estadual de Campinas) neu UNICAMP ym Mrasil. Cymeradwywyd y cynnig, a bydd yn cael ei gyflwyno i Senedd.
- Derbyniodd y Bwrdd ymateb drafft y Brifysgol i ymgynghoriad Adran Addysg y Deyrnas Unedig ar weithredu’r Fframwaith Canlyniadau Myfyrwyr a Rhagoriaeth Addysgu ar Lefel Pwnc.
- Derbyniodd y Bwrdd y Sylwadau Ysgrifenedig drafft a gyflwynwyd gan y Myfyrwyr.
- Derbyniodd y Bwrdd gofrestr risg y Bwrdd Gweithredol/Colegau/Gwasanaethau Proffesiynol, a oedd bellach yn cynnwys cofrestr Brexit. Gwnaed nifer o newidiadau, a bydd hyn yn awr yn mynd ymlaen i’r Pwyllgor Polisi ac Adnoddau.
- Derbyniodd y Bwrdd yr achos busnes o blaid ehangu Ysgol Bensaernïaeth Cymru. Cytunwyd ar fuddsoddiad llawn i gefnogi ehangu’r Ysgol a bydd yr achos yn awr yn mynd ymlaen i’r Pwyllgor Polisi ac Adnoddau.
- Derbyniodd y Bwrdd adroddiad interim y Rhaglen Mannau Dysgu Ffisegol. Cytunwyd y dylid cynnwys ffotograffau o’r mannau a adnewyddwyd cyn y gwaith a wedyn, a bod hynny’n awr yn mynd i’r Pwyllgor Polisi ac Adnoddau.
- Derbyniodd y Bwrdd bapur oedd yn rhoi sicrwydd i’r aelodau na dderbyniwyd cwynion ynghylch dull codi arian Prifysgol Caerdydd yn dilyn mabwysiadu dogfen Hawliau Arianwyr Caerdydd i sicrhau cydymffurfiaeth â Chôd Ymarfer Codi Arian y Rheoleiddiwr Codi Arian.
- Derbyniodd y Bwrdd adroddiad cynnydd y Ganolfan Lled-ddargludyddion Cyfansawdd. Nodwyd cydymdeimlad y Bwrdd â theulu Mr Phillip Rasmussen, Cyfarwyddwr Cyllid IQE, a oedd wedi marw’n ddiweddar mewn damwain feicio. Nodwyd y cynnydd hyd yma a newidiadau i’r Bwrdd. Byddai’r cynllun busnes yn cael ei adolygu a’i ddiweddaru yn ystod yr haf.
- Derbyniodd y Bwrdd agenda ddrafft y Pwyllgor Polisi ac Adnoddau er gwybodaeth.
- Derbyniodd y Bwrdd agenda ddrafft y Senedd er gwybodaeth.
- Derbyniodd y Bwrdd agenda ddrafft y Pwyllgor Llywodraethu er gwybodaeth.
Derbyniodd y Bwrdd yr adroddiadau rheolaidd canlynol:
- Diweddariad misol ar geisiadau myfyrwyr
- Adroddiad misol Dirprwy Is-Ganghellor Profiad y Myfyrwyr a Safonau Academaidd
- Adroddiad misol Dirprwy Is-Ganghellor Coleg y Celfyddydau, y Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol
- Diweddariad misol Ymchwil ac Arloesedd
- Adroddiad misol y Dirprwy Is-Ganghellor
- Diweddariad misol am weithgareddau’r genhadaeth ddinesig
- Diweddariad ar yr amgylchedd allanol
- Adroddiad misol prosiectau Ystadau