Skip to main content

Newyddion Aelodau’r Bwrdd

Caffi Clwb Llyfrau BME+

12 Chwefror 2018

Ar 25 Ionawr, cefais y pleser o gael fy ngwahodd i siarad yn lansiad y Caffi Clwb Llyfrau Pobl Dduon a Lleiafrifoedd Ethnig (BME) menter newydd sy’n ceisio cefnogi amrywiaeth, hyrwyddo amgylchedd agored a chynhwysol tra’n adeiladu dehongliadau defnyddiol o brofiad myfyrwyr a staff BME+.  Dyma le diogel lle gall holl aelodau o gymuned y Brifysgol ddod ynghyd i archwilio llenyddiaeth ddiwylliannol amrywiol, gwrando ar ystod o siaradwyr a chymryd rhan mewn sgyrsiau bywiog.

Roeddem yn ffodus bod y digwyddiad cyntaf hwn wedi ei gynnal yn ystod “Casgliadau Arbennig ac Archifau”, Llyfrgell y Celfyddydau a’r Gwyddorau Cymdeithasol.  Cynhaliodd Lisa Tallis, Llyfrgelloedd y Brifysgol, arddangosfa o’r Casgliadau Arbennig ar amrywiaeth o themâu BME gan gynnwys teithio, antur a llên gwerin.

Agorwyd digwyddiadau’r noswaith gan Alan Hughes (Pennaeth Casgliadau Arbennig ac Archifau), ac yna cafwyd safbwynt Janet Peters (Cyfarwyddwr Llyfrgelloedd y Brifysgol a Llyfrgellydd y Brifysgol).

Cefais y fraint wedyn i gyflwyno pedwar myfyriwr a siaradodd yn onest ac yn emosiynol am eu profiadau a’u meddyliau:

  • Fadhila A. Al Dhahouri (Ysgol Biowyddorau) – Is-Lywydd Addysg Undeb y Myfyrwyr
  • Chuma Gondwe (Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio)
  • Magdalena Orlowska (Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol)
  • Kabira Suleman – (Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg) Swyddog Undeb Myfyrwyr BME – a ddewisodd y llyfr a gafodd y prif sylw yn rhaglen y noson: Citizen: An American Lyric.

Hoffwn ddiolch i’r myfyrwyr dewr hyn am siarad yn agored a rwy’n siŵr nad fi yw’r unig person a gollodd ddeigryn wrth wrando ar eu straeon – mae’n anodd clywed am rai o’r pethau y mae pobl yn gorfod ymdopi â nhw yn ddyddiol, ond mae’n fy ngwneud hyd yn oed yn fwy penderfynol i gefnogi myfyrwyr a staff a hyrwyddo amrywiaeth a chynhwysiant cydraddoldeb.

Dim ond trwy gydweithio, gwrando a bod yn weithredol wrth herio ymddygiad gwael y byddwn yn creu cymdeithas wirioneddol gynhwysol.  Roedd yr adborth a gafwyd ar ôl y digwyddiad yn galonogol;

“Ymdeimlad cryfach a chywilydd nad oes gan bawb, yn wahanol i mi, y fraint o allu byw eu bywydau’n ddibryder, yn ddidrafferth a heb orfod poeni am unrhyw berygl.”

“Mae’n hawdd cydnabod bod materion megis hiliaeth yn bodoli, ond mae’n anodd siarad amdanynt mewn gwirionedd.  Roedd yn brofiad braf lle’r oeddem yn gallu rhannu ein straeon ”

“Rwy’n credu ei bod yn fenter wych ac hynod ysbrydoledig, yn ysgogol sy’n rhoi pwyslais ar emosiwn ac yn peri i rhywun feddwl.
Gwych ac roeddwn i eisiau clywed mwy ohono ”

Derbyniodd pob myfyriwr gopi o’r llyfr a mwg Caffi Clwb Llyfrau BME+ a gynlluniwyd gan Ruth Lewis, Dylunydd Graffig, ym Mhrifysgol Caerdydd.

Darllenodd Dr Paul Brennan, Cadeirydd Pwyllgor Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Hawliau Dynol, y Ganolfan Addysg Feddygol, o’r Ysgol Meddygaeth ddarnau pwerus o’r llyfr, a bu eraill yn darllen darnau yr oeddent yn dymuno eu rhannu.

Hoffwn ddiolch hefyd i Susan Cousins, Swyddog Prosiect Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant, sydd wedi gyrru’r fenter hon o’r cychwyn yn ogystal â threfnu’r digwyddiad.   Cafwyd araith fer gan Susan ar ddiwedd y noson, a dywedodd, “mae timau’n gweithio’n well ac yn fwy creadigol pan maent yn fwy amrywiol, a chredaf fod heno yn dangos hyn yn glir; yn enwedig o ran dyluniadau’r baneri, y mygiau a’r nodau tudalen a grëwyd ar y cyd â chyfraniad myfyrwyr a staff ar hyd y daith”.