
- Roedd Dr Tim Bradshaw yn bresennol ar gyfer rhan gyntaf y cyfarfod. Nododd ei fod yn awyddus i sicrhau bod y Grŵp Russell yn cynrychioli’r safbwynt Cymreig. Mae materion cyfredol eraill ar gyfer Grŵp Russell yn cynnwys yr adolygiad cyllid ôl-18 yn Lloegr, Brexit, UKRI a materion llywodraethu.
- Nodwyd bod y Llys wedi cael croesawiad da yn ogystal â’r arddangosfa a ddilynodd.
- Derbyniodd y Bwrdd bapur yn nodi grŵp meincnodi ar gyfer Caerdydd ac esbonio’r broses a’r metrigau a ddefnyddir wrth ei ddatblygu; mae’r Cyngor wedi mynegi diddordeb neilltuol yn y fath grŵp. Cytunwyd, gyda rhai addasiadau, y dylid gweithio drwy’r metrigau gyda grŵp cymharol a’u dwyn gerbron y Grŵp Perfformiad Academaidd cyn eu dychwelyd at y Bwrdd.
Cafodd y Bwrdd yr adroddiadau rheolaidd canlynol:
- Adroddiad misol y Dirprwy Is-Ganghellor
- Adroddiad misol y Dirprwy Is-Ganghellor Profiad Myfyrwyr a Safonau Academaidd
- Adroddiad misol Dirprwy Is-Ganghellor Coleg y Celfyddydau, y Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol
- Adroddiad misol prosiectau Ystadau
- Diweddariad ar yr amgylchedd allanol