Skip to main content

Y diweddaraf am Gyfarfodau

Bwrdd Gweithredol y Brifysgol, 15 Ionawr 2018

15 Ionawr 2018
  • Cafodd y Bwrdd ddrafftiau cynnar o gynlluniau gweithredu is-strategaethau Y Ffordd Ymlaen. Cytunwyd y byddai’r cynlluniau yn cael eu safoni a’u blaenoriaethu cyn eu hailgyflwyno i’r Bwrdd.
  • Cafodd y Bwrdd ddangosyddion is-strategaethau Y Ffordd Ymlaen. Mae angen cadarnhau un o’r dangosyddion cyn cyflwyno’r papur i’r Cyngor i’w nodi.
  • Nodwyd bod yr Athro de Leeuw a Ms Sanders wedi cynnal cyfarfodydd gyda nifer o sefydliadau yn Tsieina tra’n ymweld yr wythnos ddiwethaf.
  • Nodwyd bod yr Athro David Whitaker, Dirprwy Bennaeth yr Ysgol Optometreg a Gwyddorau’r Golwg, wedi’i benodi’n Bennaeth Dros Dro Ysgol y Gwyddorau Iechyd o 1 Mawrth 2018.
  • Cafodd y Bwrdd y papur drafft am y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) treigl ar gyfer Senedd.
  • Cafodd y Bwrdd ymateb drafft y Brifysgol i’r Pwyllgor Cynghori ar Faterion Ymfudol ynghylch effaith myfyrwyr rhyngwladol yn y DU.
  • Cafodd a nododd y Bwrdd bapur am weithgareddau Eisteddfod 2018.
  • Cafodd a nododd y Bwrdd bapur am sut y cafodd cabinet Llywodraeth y DU ei ad-drefnu’n ddiweddar.

Cafodd y Bwrdd yr adroddiadau rheolaidd canlynol:

  • Adroddiad misol prosiectau Ystadau
  • Adroddiad Misol Dirprwy Is-Ganghellor Coleg y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg
  • Adroddiad misol y Dirprwy Is-Ganghellor Rhyngwladol ac Ewrop
  • Adroddiad misol y Dirprwy Is-Ganghellor