
- Cafodd a nododd y Bwrdd yr adroddiad ystadau strategol fyddai’n cael ei ddiweddaru cyn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Polisïau ac Adnoddau.
- Cafodd y Bwrdd adroddiad ar wella asesiadau ac adolygu prosesau i fynd i’r afael â phroblemau a nodwyd sy’n ymwneud â’r broses asesu yn 2016/17. Roedd yr adolygiad yn rhoi sylw i’r pwyntiau a nodwyd yn y Cyngor; byddai’r protocolau diwygiedig yn cael eu hailgyflwyno i staff yr adran Diogelwch er mwyn gwneud yn siŵr bod y prosesau’n glir a bod y camau trosglwyddo a chymeradwyo’n cael eu cyflawni. Byddai’r papur yn cael ei anfon ymlaen i’r Senedd ar 7 Chwefror 2018.
- Cafodd y Bwrdd ddangosfwrdd drafft dangosyddion perfformiad allweddol Y Ffordd Ymlaen. Gofynnwyd i aelodau’r Bwrdd adolygu eu dangosfyrddau a’u meysydd er mwyn sicrhau cywirdeb. Ym mis Chwefror dylai’r Bwrdd ddatblygu ac adolygu dangosfwrdd diwygiedig, gyda statws coch, melyn neu wyrdd, yn debyg i adroddiad 2012-2017.
- Cafodd y Bwrdd y fframwaith Llywodraethu. Gofynnwyd am nifer o fân newidiadau cyn iddo gael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Llywodraethu ym mis Chwefror.
- Cafodd a nododd y Bwrdd y gofrestr Brexit, byddai hyn y mynd ymlaen i’r Pwyllgor Polisïau ac Adnoddau.
- Cyflwynwyd i’r Bwrdd agenda ddrafft y Pwyllgor Polisi ac Adnoddau i’w nodi.
- Cyflwynwyd i’r Bwrdd agenda ddrafft y Pwyllgor Llywodraethu i’w nodi.
Cafodd y Bwrdd yr adroddiadau rheolaidd canlynol:
- Adroddiad misol y Prif Swyddog Gweithredu
- Adroddiad Misol a Blaengynllun y Cyfarwyddwr Cyfathrebu a Marchnata
- Adroddiad misol Dirprwy Is-Ganghellor Coleg y Gwyddorau Biofeddygol a Bywyd