Skip to main content

Y diweddaraf am Gyfarfodau

Bwrdd Gweithredol y Brifysgol, 11 Rhagfyr 2017

11 Rhagfyr 2017
  • Nodwyd y cynnydd calonogol yng ngham un y trafodaethau ymadael parthed materion sy’n bwysig i brifysgolion. Roedd y rhain yn cynnwys sicrhau hawliau preswylio dinasyddion yr UE sy’n byw yn y DU, a’r ffaith y bydd y DU yn gallu parhau i gymryd rhan yn rhaglenni presennol yr Undeb Ewropeaidd, gan gynnwys Horizon 2020 ac Erasmus+ tan 2020.
  • Nodwyd mai’r Athro Justin Lewis (Cyfathrebu, Diwylliannol ac Astudiaethau’r Cyfryngau, Rheoli Llyfrgelloedd a Gwybodaeth) a’r Athro David James (Addysg) fydd cadeiryddion is-banel y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF).
  • Nodwyd ymweliad diweddar Brandon Lewis AS, y Gweinidog Gwladol dros Mewnfudo. Cyfarfu â’r Athro Boyne, yr Athro Holford a myfyrwyr o’r Ysgol Newyddiaduraeth, Cyfryngau ac Astudiaethau Diwylliannol.
  • Cafodd y Bwrdd bapur oedd yn amlinellu’r pwyntiau allweddol sy’n deillio o ‘REF 2021: decisions on staff and outputs’, a gyhoeddwyd gan dîm REF Cyngor Cyllido Addysg Uwch Lloegr.
  • Cafodd y Bwrdd bapur oedd yn amlinellu’r pwyntiau allweddol o Strategaeth Ddiwydiannol newydd Llywodraeth y DU.
  • Cafodd y Bwrdd y papur chwe misol ar gydweithio â sefydliad y GIG yng Nghymru, a nodwyd y papur gan y Bwrdd.
  • Cafodd y Bwrdd yr adroddiad chwe misol am ddiogelwch a lles staff a chytunwyd eu bod o blaid cynnwys lles yn Natganiad Polisi Diogelwch, Iechyd a’r Amgylchedd cyffredinol y Brifysgol.

Cafodd y Bwrdd yr adroddiadau rheolaidd canlynol:

  • Diweddariad Archwilio mewnol
  • Adroddiad misol y Dirprwy Is-Ganghellor Profiad Myfyrwyr a Safonau Academaidd
  • Adroddiad misol Dirprwy Is-Ganghellor Coleg y Celfyddydau, y Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol
  • Adroddiad Misol a Blaengynllun y Cyfarwyddwr Cyfathrebu a Marchnata
  • Adroddiad chwarterol datblygu a chysylltiadau cynfyfyrwyr